Madrwyddygryf a ddywedodd:Wel fel mae'r erthygl yn pwyntio allan, dyma hi'n colli dau person agos oherwydd 'Troubles' felly roedd ei syniad wedi cael ei effeithio gan hynny mae'n siwr.
Ar dop hynny, wnaeth ei syniad o danfon gyd o'r Catholigion i'r de byth digwydd felly pam chymharu hi a Radovan Karadzic?
Roedd Bobby Sands wedi torri gyfraith ar ol cael ei ddal gyda dryllau, tra roedd ei gyd-aelodau yn y carchar am gwahanol
troseddau. Buasai cydnabod Bobby Sands a'i sort fel carcharwyr gwleidyddol wedi rhoi parchusrwydd i fudiad a aeth ymlaen i ladd 11 o bobl diniwed yn Enniskillen. Gwir carcharion gwleidyddol yw bobl fel Vaclav Havel a Aung San Suu Kyi, unigolion sydd yn defnyddio dulliau di-drais yn erbyn llwyodraethau ormesol. Dilynwyd yn y pendraw y polisi cywir o beidio cydnabod Bobby Sands fel carcharor gwleidyddol.
Unwaith eto, ydi teimladau personol yn cyfiawnhau erlid ugeiniau o filoedd o deuluoedd o'u cartrefi gan y wladwriaeth?
Mae nhw'n dweud fod barn a gweithredoedd Radovan Karadzic wedi ei liwio oherwydd ei brofiadau o, a phrofiadau ei deulu, dan law Mwslemiaid a Chroatiaid. Ydi hynny'n cyfiawnhau ei weithredoedd? Wrth gwrs nad yw!
Gwirion a hollol amherthnasol iawn ydi dweud na wnaeth bwriad Thatcher ddim digwydd. Gwirion, am dy fod yn fwriadol ymddwyn fel nad wyt yn ddigon deallus i ddeall y pwynt. A'r pwynt ydi, yn union fel wyf wedi ei ddeud mewn du a gwyn, os ydi hi yn
credu ei fod yn iawn i wneud hynny, beth ydi'r gwahaniaeth rhwng hi a Karadzic? Roedd yntau yn credu ei fod yn iawn hefyd, onid oedd? Yr unig wahaniaeth ydi fod y system ddemocrataidd yn y Deyrnas Unedig wedi gallu rhwystro Thatcher gario allan yr hyn oedd hi'n gredu oedd yn iawn. Yn wahanol iawn i'r sefyllfa efo arweinydd y Serbiaid Bosniaidd.
Os ti'n credu mewn gyrru miloedd o'u cartrefi, yna mae dy foesau yn y gwter, efo eraill sy'n credu'r un peth. Os ti'n cyfiawnhau genocide yn y 17ed ganrif, fel oedd Thatcher yn ei wneud, be ydi'r gwahaniaeth rhwng hynny a chyfiawnhau genocide yn Bosnia yn yr 20ed?
Rwan at Bobby Sands, a dy ddatganiad iddo dorri'r gyfraith. No shit Sherlock?
Wrth gwrs fe dorrodd gyfreithiau San Steffan! Sefydliad estron nad oedd yn cydnabod ei hawl i reoli ei wlad a'i bobl! Mewn rhyfel yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig oedd yr IRA. Rhyfel trwy ddulliau terfysgol, ie, ond rhyfel jesd run fath. Waeth bynnag ydi barn unrhyw un, a pha bynnag ochr mae o'n ochri efo - dyna ydi'r ffeithiau. Roedd yr IRA mewn rhyfel yn erbyn Prydain. Roedd Prydain mewn rhyfel yn erbyn yr IRA.. Os ti'n gwadu hynny, ti'n gwadu hanes er mwyn osgoi colli pwynt ar fforwm drafod. Wow!
Ymhellach - ac mae'n ymddangos nad wyt yn ymwybodol o'r ffaith hyn - roedd gan y carcharorion statws gwleidyddol hyd nes i lywodraeth Prydain dynnu fo oddiarnyn nhw. Cwffio i'w gael o'n nôl oedd Bobby Sands a'i gyd-garcharorion. Roedd stripio'u hawl i statws carcharorion gwleidyddol yn cyfiawnhau gweithredoedd gormesol, treisgar y wladwriaeth (fel o'n i'n deud, rhyfel oedd hi) a aeth ymlaen i weithio'n agos efo llofruddwyr teyrngarol i ladd ugeiniau o Babyddion diniwed. Trwy eu galw'n criminals, roedd y wladwriaeth yn cael get awe efo llawer mwy, yng ngwyneb cyfreithiau rhyngwladol, a moesau cyffredin gwledydd democrataidd y byd.
Efallai yr hoffet ti hefyd wadu nad oedd y wladwriaeth Brydeinig yn arteithio a churo carcharorion, ac nad oedd y fyddin yn saethu pobol diniwed yn farw ar y stryd - boed yn uniongyrchol, fel Bloody Sunday, neu'r 14 plentyn gafodd ei ladd efo bwledi plastig? Neu hyd yn oed yr holl ambwshis gan yr SAS a laddodd cymaint o wirfoddolwyr yr IRA, heb unrhyw rybudd? Wyt ti am wadu eu bod wedi digwydd? Wyt ti am eu cyfiawnhau ta? A mae croeso i ti wneud. Pam fyddet ti'n cyfiawnhau shoot to kill? Oherwydd ei fod yn
rhyfel, a soldiars ydi soldiars, waeth pa liw iwnifform mae nhw'n wisgo. Rhyfel. Ac mewn rhyfel mae carcharorion rhyfel, ac mae gan garcharorion rhyfel hawliau, am mai carcharorion gwleidyddol ydynt. Rhesymau gwleidyddol sydd y tu ôl i'w gweithredoedd.
Os mai criminals oedden nhw, pam eu lladd? Pam eu saethu cyn mynd a nhw i'r llys i'w cael yn euog a'u cosbi? Ydyn ni'n gwneud hynny yng Nghymru, Lloegr a'r Alban? Nacdan, siwr. Roedd o'n digwydd yn achos Iwerddon
am mai rhyfel oedd hi. Felly carcharorion rhyfel oedd yr Hunger Strikers, nid common criminals. Os mai common criminals oeddan nhw, pan fod pob 'carcharor gwleidyddol' (i ddefnyddio term y llywodraeth) wedi cael eu gollwng yn rhydd ar ôl y 'ceasefire' (term swyddogol y llywodraeth am ddiwedd y rhyfel) yn unol â'r Good Friday Agreement?
Mae'r ddadl mai criminals, nid carcharorion gwleidyddol oedd yr Hunger Strikers mor hen ac outdated. Dim ond pobl entrenched sydd yn dal i honni'r fath beth.
Nid dy syniad di o garcharor gwleidyddol ydi'r diffiniad o garcharor gwleidyddol "cywir". Diffiniad cywir carcharor gwleidyddol yw carcharor cydwybodol, sydd wedi dewis gwneud safiad yn erbyn system wleidyddol anghyfiawn. Does gan y dulliau y mae'n ddewis ddim byd i wneud a'r mater hynny, gan fod y dulliau'n ymateb uniongyrchol i'r grym y maent yn wynebu.
Roedd Nelson Madela'n un o fois uchaf yr ANC, mudiad oedd yn defnyddio tactegau fel yr IRA. Oedd o'n common criminal, yn dy olwg di?
Gyda llaw, Wikipedia???