Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 23 Gor 2008 10:24 am

Ia, ond y peth ydi ddaru hi byth mynd ymlaen gyda’r proses o gwared a Catholigion. O be welai i, dim ond ryw sgwrs chafodd hi gyda’i chynghorwyr. Syniad hollol blydi wirion wrth gwrs, ac mae’n siwr bod hi wedi sylweddoli nad oedd yn syniad da a pheidio mynd ymlaen gyda’r polisi.

Felly cei di ymosod y syniad ond fedri di ddim ymosod a pholisi na chafodd ei weithredu. Ar y llaw arall, dyma hi yn arwyddo Cytundeb Eingl-Wyddelig yn 1985, a sefydlodd ffordd ymlaen i dod a heddwch yn Gogledd Iwerddon. Yn erbyn, os cai ddweud, ewyllus llawer o bobl o fewn ei phlaid a’r Unionist yn Ngogledd Iwerddon.

Wrth gwrs, roedd raid i IRA lladd 11 o bobl yn Enniskillen a 2 fachgen ifanc yn Warrington cyn i nhw sylweddoli bod eu dulliau ddim yn mynd i weithio.

Eniwe, dwi’m yn credu bydd Thatcher yn gallu cael angladd wladwriaethol. Ni chafodd Harold Wilson neu Edward Heath un, felly dwi’m yn gweld bod 'na protocol i’r ren Maggie cael un chwaith. Cafodd Churchill wrth gwrs, ond roedd hynny am resymau amlwg ac unigryw.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Cardi Bach » Mer 23 Gor 2008 1:36 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd: Cafodd Churchill wrth gwrs, ond roedd hynny am resymau amlwg ac unigryw.


Am ei fod e wedi lladd degau o filoedd ac yn anog trais yn erbyn gwahanol bobloedd. Ond mater gwahanol yw hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan S.W. » Mer 23 Gor 2008 7:24 pm

Madrwyddygfryf, rwyt yn nodi bod profiadau personol Thatcher wrth law yr IRA wedi iddynt ladd ddau oedd yn agos ati a cheisio ei lladd hi yn egluro rhywfaint am yr hyn y bu iddi drafod gyda'i chynghorwyr parthed hel Catholigion allan o Ogledd Iwerddon, rwyt wedyn yn son am Bobby Sands a'r IRA a'u gweithredoedd nhw. Oni ellir dadlau bod gweithredau a chredoau Sands a'r IRA wedi deillio yn aml iawn o'u profiadau personol nhw?

Mi ddarllenais lyfr Joe Cahill: A Life in the IRA yn ddiweddar ac yn y llyfr mae'n egluro ei resymau o dros ymuno a'r IRA yn y 40au - digwyddiadau personol y bu iddo ei weld wrth law'r Llywodraeth Unoliaethol 'secterian' yn Stormont tuag ato fel unigolyn a thuag at ei gymuned a'i 'bobl' o.

Paid a fy nghael i'n wrong, nid trio cyfiawnhau'r IRA yma dwi, pell ohoni, mae angen i ni fel unigolion gymryd cyfrifoldeb dros ein penderfyniadau, gallwn ddim cuddio tu ol i ddigwyddiadau. Tra bod Cahill ac eraill di neud eu dewis i ymuno a'r IRA bu i 1000oedd o Gatholigion eraill benderfynu peidio.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 23 Gor 2008 10:21 pm

Iawn digon teg. Dwi jesd yn falch bod y dyddie na tu cefn i ni a gweld bod bobl Gogledd Iwerddon yn cael heddwch.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Pogo » Iau 24 Gor 2008 10:55 am

Prysor a ddywedodd:ydio'n cyfiawnhau religously/culturally cleansio talaith gyfan o'r Deyrnas Unedig?


Na 'di.

Pryd na'th hynny ddigwydd?

Yr IRA driodd ei lladd hi a'i chabinet, nid dynion, merched a phlant pabyddol y Chwe Sir.


Felly, ydy dreial lladd y cabinet a'r prif weinidog yn iawn?

Gyda llaw, na'th yr IRA lladd dynion, merched a phlant pabyddol 'y Chwe Sir'.

Yn fwy na'r fyddin Brydeinig.

Roedd ymosodiad yr IRA yn ddial am iddi adael i ddeg dyn ifanc farw mewn poen arteithiol yn yr H-Blocks.


Naethon nhw ddewis lladd eu hunain.

Nhw oedd ar fai am eu poen arteithiol, a nid Maggie.

Y pwynt ydi ei bod hi'n cefnogi tactegau Cromwellaidd, gan gyfiawnhau gweithredoedd Cromwell yn yr 17ed ganrif. Beth yw'r gwahaniaeth rhyngthi a Radovan Karadzic, os oed dhi'n gallu cyfiawnhau y fath beth yn ei meddwl ei hun?


Y gwahaniaeth yw bod Karadzic yn euog o 'ethnic cleansing' a Maggie ddim.

Gyda llaw, os nad wyt o blaid y fath na o beth, pam wyt ti'n cefnogi'r IRA.

Nhw sy'n gyfrifol o lanhau ethnig, nid y llywodraeth Prydeinig.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan huwwaters » Iau 24 Gor 2008 12:44 pm

Pogo a ddywedodd:Y gwahaniaeth yw bod Karadzic yn euog o 'ethnic cleansing' a Maggie ddim.


Dwi ddim am fod yn rhan o'r drafodaeth yma, ond nid yr intent y'n bwysig yma, nid y weithred? Mewn unrhyw sefyllfa, boed yn un wedi ei weithredu neu ddim, mae rhywun yn dymuno marwolaeth ar rywun arall.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Prysor » Iau 24 Gor 2008 12:57 pm

huwwaters a ddywedodd:
Pogo a ddywedodd:Y gwahaniaeth yw bod Karadzic yn euog o 'ethnic cleansing' a Maggie ddim.


Dwi ddim am fod yn rhan o'r drafodaeth yma, ond nid yr intent y'n bwysig yma, nid y weithred? Mewn unrhyw sefyllfa, boed yn un wedi ei weithredu neu ddim, mae rhywun yn dymuno marwolaeth ar rywun arall.


Yn union Huw.

Dyna ydi pwynt y drafodaeth, nid pwy nath be, a nid yr IRA.

Dwi'n falch bod bobl yn darllen yr edefyn ac yn gweld, deall a chofio mai dyna ydi'r pwynt. Mae'n gwneud anwybyddu'r ymgais fwriadol i drolio'r drafodaeth i gyfeiriad cwerylgar, cyhuddgar, polareiddgar, nonsensaidd ac amherthnasol, yn llawer llawer haws.

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Pogo » Iau 24 Gor 2008 1:08 pm

huwwaters a ddywedodd:
Pogo a ddywedodd:Y gwahaniaeth yw bod Karadzic yn euog o 'ethnic cleansing' a Maggie ddim.


Dwi ddim am fod yn rhan o'r drafodaeth yma, ond nid yr intent y'n bwysig yma, nid y weithred? Mewn unrhyw sefyllfa, boed yn un wedi ei weithredu neu ddim, mae rhywun yn dymuno marwolaeth ar rywun arall.


Na'r weithred sy'n bwysig.

Fel arall, bydde lot o ddynion yn mynd i garchar am feddyliau brwnt ynglyn a merched pymtheg mlwydd oed.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Pogo » Iau 24 Gor 2008 1:14 pm

Prysor a ddywedodd:
Dwi'n falch bod bobl yn darllen yr edefyn ac yn gweld, deall a chofio mai dyna ydi'r pwynt. Mae'n gwneud anwybyddu'r ymgais fwriadol i drolio'r drafodaeth i gyfeiriad cwerylgar, cyhuddgar, polareiddgar, nonsensaidd ac amherthnasol, yn llawer llawer haws.



Ti yw'r un sy'n cyflwyno nonsens rhamantaidd fel ffeithiau.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan huwwaters » Iau 24 Gor 2008 1:31 pm

Pogo a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:
Pogo a ddywedodd:Y gwahaniaeth yw bod Karadzic yn euog o 'ethnic cleansing' a Maggie ddim.


Dwi ddim am fod yn rhan o'r drafodaeth yma, ond nid yr intent y'n bwysig yma, nid y weithred? Mewn unrhyw sefyllfa, boed yn un wedi ei weithredu neu ddim, mae rhywun yn dymuno marwolaeth ar rywun arall.


Na'r weithred sy'n bwysig.

Fel arall, bydde lot o ddynion yn mynd i garchar am feddyliau brwnt ynglyn a merched pymtheg mlwydd oed.


Ie, ond mae dal cosb yn erbyn rhai a oedd yn bwriadu lladd rhywun, er nad ydynt wedi cyffwrdd a nhw eto. Be am y Al Qaeda Terror Cells sy'n cael eu amharu a'r unigolion yn ffindio'u hunain o flaen ynadon y dydd Llun dilynol? Tydyn nhw heb neud dim eto.

Yr un peth efo dal ffrwydron, cemegion a deunyddiau ansefydlog (niwclear) mewn garej. Nid cymaint bod dwi efo nhw, ond beth yw fy mwriad. Os na fedrai roi esgus digon da, neu un gyda ategiad swyddogol mi fyddaf mewn llys mewn chwinciad, er fy mod heb neud dim.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron