Ia, ond y peth ydi ddaru hi byth mynd ymlaen gyda’r proses o gwared a Catholigion. O be welai i, dim ond ryw sgwrs chafodd hi gyda’i chynghorwyr. Syniad hollol blydi wirion wrth gwrs, ac mae’n siwr bod hi wedi sylweddoli nad oedd yn syniad da a pheidio mynd ymlaen gyda’r polisi.
Felly cei di ymosod y syniad ond fedri di ddim ymosod a pholisi na chafodd ei weithredu. Ar y llaw arall, dyma hi yn arwyddo Cytundeb Eingl-Wyddelig yn 1985, a sefydlodd ffordd ymlaen i dod a heddwch yn Gogledd Iwerddon. Yn erbyn, os cai ddweud, ewyllus llawer o bobl o fewn ei phlaid a’r Unionist yn Ngogledd Iwerddon.
Wrth gwrs, roedd raid i IRA lladd 11 o bobl yn Enniskillen a 2 fachgen ifanc yn Warrington cyn i nhw sylweddoli bod eu dulliau ddim yn mynd i weithio.
Eniwe, dwi’m yn credu bydd Thatcher yn gallu cael angladd wladwriaethol. Ni chafodd Harold Wilson neu Edward Heath un, felly dwi’m yn gweld bod 'na protocol i’r ren Maggie cael un chwaith. Cafodd Churchill wrth gwrs, ond roedd hynny am resymau amlwg ac unigryw.