Tudalen 1 o 1

Brwydr trigolion yr ynys Lesbos

PostioPostiwyd: Maw 22 Gor 2008 11:37 pm
gan Kez
Mae’r byd a’r betws erbyn hyn yn dadlau’n ffyrnig dros yr hyn a ddigwydd wedi ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas yn y Cynulliad yng Nghymru ac ychydig iawn o sylw a roddir i frwydr drigolion yr ynys Lesbos. – RHAG EIN CYWILYDD!!

Er sawl deiseb electronig a mynnu taer, ymddengys iddynt golli’r dydd ac nid oes unig hawl ganddynt eu galw eu hunain yn lesbians, a bod y term ar gael i bob un menyw sydd â dewis rhywiol na fynnai’r Frenhines Victoria gredu ei fodolaeth. Mae gan yr ynys Roegaidd hon dros 100,000 o drigolion, ond erbyn hyn – nid nhw yw’r unig lesbians yn y byd:-

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/7520343.stm

Er eu siomedigaeth, mae’r ynyswyr yn dal gant y cant y tu ôl i un o’r ynysoedd lleiaf yn eu brwydr nhw i warchod yr enw Buff Muffins fel unig enw trigolion ynys βΨFF MΨFFIN.

Gellir eu cefnogi wrth arwyddo un o'r mil o ddeisebau sydd ar gael ar wefan Cymdeithas yr Iaith - http://cymdeithas.org/

Re: Brwydr trigolion yr ynys Lesbos

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2008 12:46 am
gan ffwrchamotobeics
Reit tu nol iddyn nhw.

Re: Brwydr trigolion yr ynys Lesbos

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2008 11:38 pm
gan ceribethlem
Kez a ddywedodd: y term ar gael i bob un menyw sydd â dewis rhywiol na fynnai’r Frenhines Victoria gredu ei fodolaeth.
Yn ol QI yn ddiweddar, myth yw'r sdori 'na.