Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 7:49 am
gan Cymro13
Dim ond un gair all ei ddisgrifio WAAAAAAAAAAW
Stori lawn
yn Gymraega
Saesneg
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 10:13 am
gan Hedd Gwynfor
Buddugoliaeth gwych i'r SNP yma!
Hoelen arall yn arch Gordon Brown...
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 10:29 am
gan Hogyn o Rachub
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Hoelen arall yn arch Gordon Brown...
Ddim felly, yn fy marn i.
Pe bai Brown yn mynd byddai'n rhaid i Lafur ddewis arweinydd arall. Heblaw am y dasg anferthol o ddewis rhywun byddai isio'r swydd yn y lle cyntaf, a fyddai Llafur wirioneddol yn gallu cael arweinydd arall fyth nas etholir gan y cyhoedd? Mi dybiaf y byddai pwysau enfawr arnynt i alw etholiad - etholiad y byddan nhw'n siwr o'i golli. Yr unig ffordd i Lafur dal grym ydi cadw Brown, dwi'n meddwl.
A chan ddweud hynny, er bod Cameron wedi galw am etholiad, ydi o wir isio etifeddu'r sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd? Gyda chymaint o bethau y tu allan i reolaeth y llywodraeth ganolog fan hyn byddai unrhyw lywodraeth newydd, o ba blaid bynnag, yn gallu ffendio'u hunan yn amhoblogaidd iawn, yn fuan iawn. Gwell gan Cameron ddisgwyl, mi dybiaf.
Gan ddweud hynny, mae'n ganlyniad syfrdanol - llongyfarchiadau enfawr i'rn SNP!!
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 11:00 am
gan Muralitharan
Canlyniad ysgubol - roedd hi werth aros ar fy nhraed i wylio'r canlyniad! Mae hyn yn wahanol i is-etholiadau eraill oherwydd roedd gan yr SNP record i'r hamddiffyn y tro hyn hefyd - nid pleidlais brotest yn unig oedd hon.
Gyda llaw, mae Seonaidh/Sioni wedi mynd yn dawel iawn ar ol cyhoeddi'n awdurdodol na fyddai'r SNP fyth yn ennill y sedd hon - gan eu bod nhw mor amhoblogaidd!!
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 11:39 am
gan Prysor
Cymro13 a ddywedodd:Dim ond un gair all ei ddisgrifio WAAAAAAAAAAW
Stori lawn
yn Gymraega
Saesneg
Ia, Llongyfarchiadau mawr
ond pwynt am y lincs i'r newyddion -
Pam mai dim ond llond dwrn o eiirau sydd yn Gymraeg, tra mae tudalen llawn, stori lawn, a dadansoddiad manwl, a gwleidyddol, a ballu ar y ferswin Saesneg?
Ffyc mi, ma darpariaeth Cymraeg y BBC yn warthus.
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 12:24 pm
gan Cardi Bach
Canlyniad hanesyddol!
A dyma beth ddywedodd Des Browne fel ateb wrth gael ei ofyn beth ddylai'r Blaid Lafur ei wneud ermwyn gwella pethau:
we need to do more of the sorts of things that we've been doing
Gwych! Iyp - cariwch ymlaen yn union fel ydych chi, a bydd y Ceidwadwyr mewn grym yn Lloegr, SNP yn yr Alban a Phlaid Cymru yng Nghymru, a datganoli llwyr ar y cardiau erbyn 2011.
Diolch Gordon
RHAID i fi gael peint i ddathlu hyn heno.
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Gwe 25 Gor 2008 12:38 pm
gan HuwJones
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Sad 26 Gor 2008 11:46 am
gan Seonaidh/Sioni
Nage, dydw i ddim wedi mynd yn dawel! Wedi bod ar dipyn o wyl yn Ynys Manaw ac, ar fy nychweliad, brysur iawn efo pethau lleol fan ma (rhywun eisiau codi tai enfawr mewn flood plain ac myfi'n astudio'r cynlluniau technegol a pharatoi aryw sections ac ati...)
Wel, efallai fod pobl ar yr ochr orllewinol yn wahanol i bobl Teyrnas Ffeiff. Ond rhaid cofio hyn - faint o is-etholiadau oedd yn y 70au ac 80au (ac hyd yn oed rhai yn gymharol ddiweddar, e.e. Dunfermline) lle enillodd yr Rhyd-Dems efo swings enfawr? Rydw i wedi gweld yr SNP mewn is-etholiad (2 flynedd yn ol, i'r cyngor lleol) ac maen amlwg eu bod nhw defnyddio'r un dactegau a'r Rhydd-Dems - taflu pobl i mewn o bobman a boddi'r etholaeth efo pamffledi ac ati, gwneud non-stop alwadau ffon i'r etholwyr ac ymlaen. O ie, dros y cyngor 2 flynedd yn ol enillodd yr SNP efo swing o 32%.
Eniwe, cyn i neb or-wneud y llongyfarchiadau, rhaid cofio nad Plaid Cymru mo'r SNP. Yng Nghymru, mae na dueddiad syweddol gweddol asgell-chwith o fewn Plaid Cymru ac bu'n bosibl iddyn nhw weithio efo'r Blaid Lafur fel canlyniad. Mae'r SNP newydd gyflwyno budget yn Holyrood gafodd ei gefnogi'n hael gan y Toriaid - a dyna, mewn effaith, sut mae;r SNP yn rheoli, efo chefnogaeth y Toriaid. Heb godi hen fwgan o "Tartan Tories", mae'n amlwg eu bod o'r asgell dde mewn gwleidyddiaeth. Pe delo annibyniaeth o weddill Prydain i'r Alban, bydd yr SNP yn hollti mewn efallai 3 ran - rhyw fath "Fianna Fail", ultra-asgell-dde; rhyw "Fine Gael", yn debyg i'n Toriaid ni; ac rhywbeth arall fyddai'n ymuno a'r Rhydd-Dems, swn i'n credu. Rydw i wedi clywed eisoes fod na rai ASA SNP sy'n anhapus iawn efo'r ffordd mae pethau'n mynd ynddi.
Am Ordon Brown, wel, pwy a wyr? Chafodd o mo ei ethol gan aelodau'r Blaid Lafur - doedd na ddim ond un ymgeisydd. Ac mae'r diffyg cystadlu'n dechrau ymddangos mewn amhoblogrwydd. Yn fy marn i, roedd o'n ganghellor da, a dylai o fod wedi aros felly. Peth ofnadwy uchelgais - ond a oes gwleidydd hebddo?
Re: Llongyfarchiadau i'r SNP
Postiwyd:
Sad 26 Gor 2008 8:20 pm
gan GT
Hmm - yr SNP yn adain dde, yr SNP yn amhoblogaidd, yr SNP yn fwy poblogaidd yn y Gorllewin, yr SNP'n siwr o golli, yr SSP gyda chyfle da i ennill yr is etholiad _ _ _.
Tybed os mai Sionaidh / Sioni ydi'r sylwebydd gwleidyddol salaf yn Ewrop?