Llongyfarchiadau i'r SNP

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Cymro13 » Gwe 25 Gor 2008 7:49 am

Dim ond un gair all ei ddisgrifio WAAAAAAAAAAW

Stori lawn yn Gymraeg
a Saesneg
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 25 Gor 2008 10:13 am

Buddugoliaeth gwych i'r SNP yma! 8)

Hoelen arall yn arch Gordon Brown...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 25 Gor 2008 10:29 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Hoelen arall yn arch Gordon Brown...


Ddim felly, yn fy marn i.

Pe bai Brown yn mynd byddai'n rhaid i Lafur ddewis arweinydd arall. Heblaw am y dasg anferthol o ddewis rhywun byddai isio'r swydd yn y lle cyntaf, a fyddai Llafur wirioneddol yn gallu cael arweinydd arall fyth nas etholir gan y cyhoedd? Mi dybiaf y byddai pwysau enfawr arnynt i alw etholiad - etholiad y byddan nhw'n siwr o'i golli. Yr unig ffordd i Lafur dal grym ydi cadw Brown, dwi'n meddwl.

A chan ddweud hynny, er bod Cameron wedi galw am etholiad, ydi o wir isio etifeddu'r sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd? Gyda chymaint o bethau y tu allan i reolaeth y llywodraeth ganolog fan hyn byddai unrhyw lywodraeth newydd, o ba blaid bynnag, yn gallu ffendio'u hunan yn amhoblogaidd iawn, yn fuan iawn. Gwell gan Cameron ddisgwyl, mi dybiaf.

Gan ddweud hynny, mae'n ganlyniad syfrdanol - llongyfarchiadau enfawr i'rn SNP!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Muralitharan » Gwe 25 Gor 2008 11:00 am

Canlyniad ysgubol - roedd hi werth aros ar fy nhraed i wylio'r canlyniad! Mae hyn yn wahanol i is-etholiadau eraill oherwydd roedd gan yr SNP record i'r hamddiffyn y tro hyn hefyd - nid pleidlais brotest yn unig oedd hon.

Gyda llaw, mae Seonaidh/Sioni wedi mynd yn dawel iawn ar ol cyhoeddi'n awdurdodol na fyddai'r SNP fyth yn ennill y sedd hon - gan eu bod nhw mor amhoblogaidd!!
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Prysor » Gwe 25 Gor 2008 11:39 am

Cymro13 a ddywedodd:Dim ond un gair all ei ddisgrifio WAAAAAAAAAAW

Stori lawn yn Gymraeg
a Saesneg


Ia, Llongyfarchiadau mawr

ond pwynt am y lincs i'r newyddion -

Pam mai dim ond llond dwrn o eiirau sydd yn Gymraeg, tra mae tudalen llawn, stori lawn, a dadansoddiad manwl, a gwleidyddol, a ballu ar y ferswin Saesneg?

Ffyc mi, ma darpariaeth Cymraeg y BBC yn warthus.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Cardi Bach » Gwe 25 Gor 2008 12:24 pm

Canlyniad hanesyddol!
A dyma beth ddywedodd Des Browne fel ateb wrth gael ei ofyn beth ddylai'r Blaid Lafur ei wneud ermwyn gwella pethau:
we need to do more of the sorts of things that we've been doing

:lol:
Gwych! Iyp - cariwch ymlaen yn union fel ydych chi, a bydd y Ceidwadwyr mewn grym yn Lloegr, SNP yn yr Alban a Phlaid Cymru yng Nghymru, a datganoli llwyr ar y cardiau erbyn 2011.

Diolch Gordon :winc:
RHAID i fi gael peint i ddathlu hyn heno.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan HuwJones » Gwe 25 Gor 2008 12:38 pm

Canlyniad gwych i'r SNP a thuag at annibyniaeth. :D :D :D :D :D
Petai yr un swing o bleidleisiau trwy'r Alban i gyd yn yr etholiad cyffredinol nesaf buasai dim on UN (ie wir UN) aelod seneddol ar ol gan y Balid Lafur yno!!
Rhaid bod Llafurwyr yn cachu planciau. Maen nhw wedi ceisio dychryn pobl yr Alban am flynyddoedd gan ddweud buasai llywodraeth SNP yn meddwl trychineb i'r wlad... ond nawr bod yr SNP wedi llywodraethu'n llwyddiannus iawn yn Senedd yr Alban mae Llafur yr Alban wedi implodio 'n llwyr. Blydi gret!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 26 Gor 2008 11:46 am

Nage, dydw i ddim wedi mynd yn dawel! Wedi bod ar dipyn o wyl yn Ynys Manaw ac, ar fy nychweliad, brysur iawn efo pethau lleol fan ma (rhywun eisiau codi tai enfawr mewn flood plain ac myfi'n astudio'r cynlluniau technegol a pharatoi aryw sections ac ati...)

Wel, efallai fod pobl ar yr ochr orllewinol yn wahanol i bobl Teyrnas Ffeiff. Ond rhaid cofio hyn - faint o is-etholiadau oedd yn y 70au ac 80au (ac hyd yn oed rhai yn gymharol ddiweddar, e.e. Dunfermline) lle enillodd yr Rhyd-Dems efo swings enfawr? Rydw i wedi gweld yr SNP mewn is-etholiad (2 flynedd yn ol, i'r cyngor lleol) ac maen amlwg eu bod nhw defnyddio'r un dactegau a'r Rhydd-Dems - taflu pobl i mewn o bobman a boddi'r etholaeth efo pamffledi ac ati, gwneud non-stop alwadau ffon i'r etholwyr ac ymlaen. O ie, dros y cyngor 2 flynedd yn ol enillodd yr SNP efo swing o 32%.

Eniwe, cyn i neb or-wneud y llongyfarchiadau, rhaid cofio nad Plaid Cymru mo'r SNP. Yng Nghymru, mae na dueddiad syweddol gweddol asgell-chwith o fewn Plaid Cymru ac bu'n bosibl iddyn nhw weithio efo'r Blaid Lafur fel canlyniad. Mae'r SNP newydd gyflwyno budget yn Holyrood gafodd ei gefnogi'n hael gan y Toriaid - a dyna, mewn effaith, sut mae;r SNP yn rheoli, efo chefnogaeth y Toriaid. Heb godi hen fwgan o "Tartan Tories", mae'n amlwg eu bod o'r asgell dde mewn gwleidyddiaeth. Pe delo annibyniaeth o weddill Prydain i'r Alban, bydd yr SNP yn hollti mewn efallai 3 ran - rhyw fath "Fianna Fail", ultra-asgell-dde; rhyw "Fine Gael", yn debyg i'n Toriaid ni; ac rhywbeth arall fyddai'n ymuno a'r Rhydd-Dems, swn i'n credu. Rydw i wedi clywed eisoes fod na rai ASA SNP sy'n anhapus iawn efo'r ffordd mae pethau'n mynd ynddi.

Am Ordon Brown, wel, pwy a wyr? Chafodd o mo ei ethol gan aelodau'r Blaid Lafur - doedd na ddim ond un ymgeisydd. Ac mae'r diffyg cystadlu'n dechrau ymddangos mewn amhoblogrwydd. Yn fy marn i, roedd o'n ganghellor da, a dylai o fod wedi aros felly. Peth ofnadwy uchelgais - ond a oes gwleidydd hebddo?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Llongyfarchiadau i'r SNP

Postiogan GT » Sad 26 Gor 2008 8:20 pm

Hmm - yr SNP yn adain dde, yr SNP yn amhoblogaidd, yr SNP yn fwy poblogaidd yn y Gorllewin, yr SNP'n siwr o golli, yr SSP gyda chyfle da i ennill yr is etholiad _ _ _.

Tybed os mai Sionaidh / Sioni ydi'r sylwebydd gwleidyddol salaf yn Ewrop?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron