Prysor a ddywedodd:O ran y trais honedig - os gafodd yr hogan ei threisio go iawn, pam na wnaeth y cops fwrw mlaen efo'r achos o drais? Dio'm bwys be ma hi'n ddeud, dydio ddim yn wir tan mae o wedi'i brofi. Fyswn i'n gofalu peidio llyncu portread yr erlyniad a'r Sun/Mail - ecsajyretio ma nw. Yn ol ei ofalwyr, dilyn merched randym oedd o, nid stalkio. Stalkio ydi targedu rhywun, eu poenydio'n feddyliol, yn gyson, dros gyfnod o amser... Ond be di'r ots gan y Daily Heil am ffeithiau felly?
os wyt ti'n recno fod pawb sy'n dilyn merch i lawr stryd yng ngolau dydd, yn capable o gymryd y naid enfawr yna i fod yn rapist, yna ti ddim gwell na darllenwyr y Daily Mail - y meddylfryd oedd yr Erlyniad yn ecsploetio yn yr achos llys cyntaf. Diolch byth bo chdi a Sgonsan ddim ar y rheithgor! Deud y gwir - os fyth fydda i o flaen fy ngwell am unrhyw beth, ac y bydda i'n gweld un o'na chi ar y rheithgor, mi fyddaf i'n objectio i chi, a dangos be da chi di ddeud yn fan hyn, a fydd gan y Barnwr ddim dewis ond eich taflu i ffwrdd, gan eich bod wedi profi eich bod yn fodlon gyrru rhywun sy'n ddiniwed o'r achos dan sylw, i' carchar oherwydd ei gymeriad yn unig.
mi nath Barry Bulsara bledio'n euog i attempted rape - felly roedd y bwriad yna, nid honiad ydi hyn, gath o garchar. yn ol yr hyn a welais yn y wasg, doedd gan yr heddlu ddim digon o brawf i brofi'r trais, felly er mwyn sicrhau erlyniad mi wnatho nhw 'fargen efo Bulsara.
dwi hefyd wedi darllen fod y boi wedi cael dwy flynedd o ddedfryd ohiriedig am ymosodiad rhywiol cyn hyn.
o gofio hyn felly, dwi'n teimlo fod y flwyddyn a hanner dreuliodd o dan glo am y ddau ymosodiad yma ar ferched yn annigonol a sarhad i'w ddioddefwyr. mae o hefyd yn rhoi'r neges yn glir i dreiswyr eraill - os wnawn ni fyth eich, fyddwch chi ddim yn clinc am yn hir
sgen i ddim clem os ydi Barry Bulsara efo problemau meddwl - os felly, sbyty meddwl amdani...ond mae'r sdori amdano'n honni iddo chwydu beil adag yr achos cyntaf yn ddiddorol - mi brofwyd mai hylif golchi llestri oedd o ac nid beil. mae hyn yn awgrymu i mi fod o gwmpas ei bethau yn go lew.
faswn i ddim yn anfon neb i garchar ar sail ei gymeriad. ond ar sail ei droseddu rhywiol y mae wedi cyfaddef iddo, dwi ddim yn cydymdeimlo efo'r boi o gwbwl am orfod treulio wyth mlynadd yn clinc.
os ydio'n mental, nid carchar oedd/yw ei le - ond dwi ddim yn meddwl mai gofal yn y gymuned ydi'r atab i boi fel hyn.
faswn i byth yn cael bod ar reithgor cyfreithiol yn penderfynu dy dynged gan fy mod yn dy adnabod