Barry George yn rhydd o'r diwedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Prysor » Gwe 01 Awst 2008 6:12 pm

newyddion gwych am Barry George, y gwr a gafwyd yn euog ar gam o saethu Jill Dando. Ar ôl dau apel a dau achos llys, o'r diwedd mae wedi ei brofi'n ddi-euog.

Dwi wedi dilyn ei achos yn agos iawn, o'r dechrau un, ac wedi bod yn gwbwl ffyddiog nad fo a'i lladdodd hi. Hyd yn oed o'r adroddiadau newyddion gwreiddiol o'i arestio fo, roedd clychau'n canu. Doedd rhywbeth ddim yn ffitio. Roedd o'n rhy cyfleus, roedd y tystiolaeth i'w weld - o edrych tu hwnt i eiriau'r adroddiadau - yn wan iawn. Wedyn, yn ystod yr achos llys cyntaf, daeth y manylion, yna'r dociwmentaris a'r ymchwiliadau gan newyddiadurwyr. Doedd dim yn sicrach - roedd y dyn anghywir gan yr heddlu.

be sy'n waeth ydi, o'r dyddiau cynnar hynny, roedd hi'n edrych yn debyg fod yr heddlu heb syniad pwy oedd y llofrudd iawn, a bod Barry George druan yn rhywun cyfleus i'w yrru i lawr amdano. Does dim eglurhad arall dros y ffaith iddyn nhw fod wedi bwrw mlaen efo'r achos. Gyrron nhw ddyn diniwed i'r carchar a hynny'n fwriadol.

Llongyfarchiadau i Mr George, ei deulu a'i dim cyfreithiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Chickenfoot » Gwe 01 Awst 2008 6:16 pm

O'n i o hyd yn cael yr argraff taw "clutching at straws" oedd yr achos yn erbyn Barry George - pick on the nearest mental, a gobeithio basa pawb yn credu barn Saint Nick of Ross wedi'r achos llys. Ia, dydi'r dyn yn iach ei feddwl, ond dydi hynna ddin yn ei wneud yn lofrudd. Mae'n chwerthinllyd ei fod wedi treulio gymaint o amser yn ceisio profi mai nid fo wnaeth.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Kez » Gwe 01 Awst 2008 6:23 pm

Mae'r peth yn dristach na thrist. Mae'r gwr wedi bod o dan glo ers y flwyddyn 2000 - ac does na'r fath iawndal na chymorth a all dalu nol iddo fe am y blynyddoedd hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan huwwaters » Sad 02 Awst 2008 8:49 am

Kez a ddywedodd:Mae'r peth yn dristach na thrist. Mae'r gwr wedi bod o dan glo ers y flwyddyn 2000 - ac does na'r fath iawndal na chymorth a all dalu nol iddo fe am y blynyddoedd hynny.


O be dwi di clywed, fydd o'n cael £1,000,000 o iawndal, a be bynnag arall gan y cyfryngau.

Diolch byth fod ni heb y gosb eithaf, neu yn anffodus mewn sefyllfaoedd fel hyn byswn ni wedi lladd dyn diniwed.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Chickenfoot » Sad 02 Awst 2008 9:20 am

Mae'd gwneud i rywun feddwl beth yn union oedd ar meddyliau'r CPS.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Mr Gasyth » Sad 02 Awst 2008 10:35 am

Be dwi'm yn ddallt am achosion felma ydi sut fod penderfyniad yr ail reithgor yn gwyrdroi yn llwyr benderfyniad y cynta. Am wyth mlynedd roeddo'n euog, a rwan yn sydyn tydi o ddim. Mae un rhethgor wedi meddwl ei fod yne uog ac un arall wedi meddwlei fod yn ddi-euog ond penderfyniad yr un mwyaf diweddar sy'n cyfri bob tro.

Onid dylid cael 'decider' o rywfath? Best out of three?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan huwwaters » Sad 02 Awst 2008 10:51 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Be dwi'm yn ddallt am achosion felma ydi sut fod penderfyniad yr ail reithgor yn gwyrdroi yn llwyr benderfyniad y cynta. Am wyth mlynedd roeddo'n euog, a rwan yn sydyn tydi o ddim. Mae un rhethgor wedi meddwl ei fod yne uog ac un arall wedi meddwlei fod yn ddi-euog ond penderfyniad yr un mwyaf diweddar sy'n cyfri bob tro.

Onid dylid cael 'decider' o rywfath? Best out of three?


Yn hollol, ond i allu rhoi rhywun yn y carchar rhaid gallu prove beyond reasonable doubt fod rhywun yn euog. Doedd o ddim yn bosib gneud hyn y tro efo'r tystiolaeth tenau a circumstancial. A ydi'r achos yma yn ei hun yn dystiolaeth fod angen diwygio'r system cyfreithiol?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Prysor » Sad 02 Awst 2008 11:40 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Be dwi'm yn ddallt am achosion felma ydi sut fod penderfyniad yr ail reithgor yn gwyrdroi yn llwyr benderfyniad y cynta. Am wyth mlynedd roeddo'n euog, a rwan yn sydyn tydi o ddim. Mae un rhethgor wedi meddwl ei fod yne uog ac un arall wedi meddwlei fod yn ddi-euog ond penderfyniad yr un mwyaf diweddar sy'n cyfri bob tro.

Onid dylid cael 'decider' o rywfath? Best out of three?


Yn yr achos cyntaf, cynhwyswyd yr unig dystiolaeth fforensig oedd gan yr erlyniad, sef un specyn microsgopic o 'gunshot residue' oedd wedi ei ffendio ym mhoced ei jaced. Nid oedd gwn wedi'i ffendio, na mwy o residue o'r scene of crime, felly ni ellid deud os oedd yn matsio. Ond yn ôl yr erlyniad (sy'n cael experts i ddeud be mae nhw isio) doedd dim posib i'r specyn hwn ddod o ddim arall ond drwy saethu gwn, ac ei fod wedi dod o wn o'r un calibr a hwnnw saethodd y gradures druan.

Yn ôl yr amddiffyniad (sy'n cael experts eraill i ddadlau yn erbyn rhai'r erlyniad) - roedd posib fod y specyn hwn wedi dod o rywbeth mor ddiniwed a thân gwyllt. Hefyd, daeth i'r fei, fod dillad Barry George wedi cael eu gadael allan yn yr evidence room, tra'r oedd tystiolaeth o achosion eraill yn ymwneud â gynnau, yn cael eu symud o gwmpas.

Ta waeth. Ers yr achos hynny - erbyn yr ail apêl - mae gwyddoniaeth wedi profi mai arbenigwyr yr amddiffyniad oedd yn iawn am y specyn. Felly, ordrodd y barnwyr ail achos, ac ni gynhwyswyd y tystiolaeth yma yn hwnnw.

Roedd hynny, wedyn yn gadael dim byd ond portread 'bad character' yr erlyniad, a thystiolaeth cyd-ddigwyddiadol. Doedd dim fforensigs, dim tystion, dim byd. Roedd yr unig dyst (allan o ddwsin) ddaru adnabod Barry George 100% mewn identity parade, yn dweud iddi'i weld o yn Gowan Avenue/Fulham Rd ar y dydd - ond pedair awr a hannar cyn y llofruddiaeth!!!

Rownd y gornal oedd y boi yn byw, ffor ffyc's sêcs!

Cesiodd yr heddlu bwyso ar dystion i fod yn fwy pendant, ac i newid eu hamser gweld y diffynnydd, ac ati. Anwybyddon nhw dystion oedd yn deud iddyn nhw weld dyn chwyslyd yn rhedag o'r stryd wedi'r saethu, ac ati ac yn y blaen.

Ar ôl blwyddyn o bwysau 'gwleidyddol' i ddal y llofrudd, penderfynon nhw bigo ar y cradur bach yma, sydd efo IQ o 75, ac yn eplieptic. Ma'n gwbl warthus - nid yn unig o ran Barry George druan, ond o ran cyfiawnder i Jill Dando. Dwn im amdana chi, ond ma'r lluniau CCTV o'r graduras fach yn siopa cyn mynd adra y diwrnod hwnnw yn dod â lwmp i'ng ngwddw i. Meddyliwch am eich mam yn siopa, heb bryder yn y byd, a dod adra, a BANG!

Copars? Dio ffwc o bwys ganddyn nhw am gyfiawnder.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Darth Sgonsan » Llun 04 Awst 2008 11:22 am

Chickenfoot a ddywedodd:Mae'd gwneud i rywun feddwl beth yn union oedd ar meddyliau'r CPS.


alla i ond dyfalu - ond roedd Y Glas wedi ymchwilio am flwyddyn gron a heb obadeia pwy nath, a fedra'r Sefydliad mewn achos o lofruddio mor high profile ddim goddef caniatau i'r llofrudd cael getawe - fydda hynny wedi rhoi'r argraff i'r cyhoedd fod llofruddio a dianc yn beth eitha hawdd i'w wneud, ac yn rhoi'r syniad yn bena lot o bobol rhwystredig efo esgyrn i'w crafu - felly, fel sy'n amlwg bron ers dei wan, mi nath rywun yn rwla benderfynu roi'r bai ar yr ynfytyn lleol

tra bo'r Sefydliad wedi gwneud coblyn o gamsyniad, dwi'n gweld Karma ar waith yn y ffaith fod Barry Bulsara wedi trulio wyth mlynedd dan glo - cwta flwyddyn a hanner gath y boi nol yn 1981 am drio treisio dynas ifanc (er fod y ddynas yn dal i honni ei fod o wedi ei threisio, wnaeth y boi fargen efo'r heddlu ar y pryd er mwyn wynebu'r cyhuddiad 'llai' o attempted rape) - dedfryd cwbwl annigonol yn fy marn bach i...felly dwi ddim yn cydymdeimlo efo'r boi o gwbwl. Roedd o'n y Sgriws ddoe yn dweud fod o'n sdalcio dynas arall ar yr adeg gath Dando ei lladd - sy'n awgrymu i fi fod y boi angan bod mewn sbyty meddwl, yn hytrach nag efo'i draed yn rhydd a wad mowr o bres yn ei bocad
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Y tlawd hwn » Llun 04 Awst 2008 12:30 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:...felly dwi ddim yn cydymdeimlo efo'r boi o gwbwl. Roedd o'n y Sgriws ddoe yn dweud fod o'n sdalcio dynas arall ar yr adeg gath Dando ei lladd - sy'n awgrymu i fi fod y boi angan bod mewn sbyty meddwl, yn hytrach nag efo'i draed yn rhydd a wad mowr o bres yn ei bocad


Cytuno'n llwyr. Mae fy nghydymdeimlad fwya i gyda theulu Jil Dando am fod ei llofrudd hi dal a'i draed yn rhydd. Ond mae'r ffaith fod Barry George wedi bod dan glo am wyth mlynedd wedi gwneud mwy o les i gymdeithas na phe bai wedi bod a'i draed yn rhydd. Faint o ferched diniwed fydde fe wedi'i sdalcio/threisio o bosib yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf?

Mochyn o foi.
Rhithffurf defnyddiwr
Y tlawd hwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Gwe 28 Maw 2008 6:54 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron