Barry George yn rhydd o'r diwedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Prysor » Llun 04 Awst 2008 12:33 pm

huwwaters a ddywedodd:O be dwi di clywed, fydd o'n cael £1,000,000 o iawndal, a be bynnag arall gan y cyfryngau.


Cofia mai The Sun ddaeth allan efo'r ffigwr hynna, yn syth wedi iddo ddod yn rhydd. :rolio:

(mae'r :rolio: i'r Sun, nid i chdi)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Prysor » Llun 04 Awst 2008 12:35 pm

Y tlawd hwn a ddywedodd:
Darth Sgonsan a ddywedodd:...felly dwi ddim yn cydymdeimlo efo'r boi o gwbwl. Roedd o'n y Sgriws ddoe yn dweud fod o'n sdalcio dynas arall ar yr adeg gath Dando ei lladd - sy'n awgrymu i fi fod y boi angan bod mewn sbyty meddwl, yn hytrach nag efo'i draed yn rhydd a wad mowr o bres yn ei bocad


Cytuno'n llwyr. Mae fy nghydymdeimlad fwya i gyda theulu Jil Dando am fod ei llofrudd hi dal a'i draed yn rhydd. Ond mae'r ffaith fod Barry George wedi bod dan glo am wyth mlynedd wedi gwneud mwy o les i gymdeithas na phe bai wedi bod a'i draed yn rhydd. Faint o ferched diniwed fydde fe wedi'i sdalcio/threisio o bosib yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf?

Mochyn o foi.


Alla i ddeall barn Darth Sgonsan, ond ddim cytuno â'r uchod o gwbwl (heblaw cydymndeims â theulu JD, onfiysli). Be ti'n awgrymu - y dylai pob sexual deviant, pob retard ac ati, gael eu cloi i fyny heb achis, jesd i chdi gael 'teimlo'n saff' ???
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Y tlawd hwn » Llun 04 Awst 2008 12:47 pm

Prysor, se'r boi 'ma yn byw drws nesa i ti a bo 'da ti ddau o blant a gwraig, fyddet ti ddim yn hir cyn newid dy diwn
Rhithffurf defnyddiwr
Y tlawd hwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Gwe 28 Maw 2008 6:54 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Ray Diota » Llun 04 Awst 2008 1:06 pm

Prysor a ddywedodd:
Y tlawd hwn a ddywedodd:
Darth Sgonsan a ddywedodd:...felly dwi ddim yn cydymdeimlo efo'r boi o gwbwl. Roedd o'n y Sgriws ddoe yn dweud fod o'n sdalcio dynas arall ar yr adeg gath Dando ei lladd - sy'n awgrymu i fi fod y boi angan bod mewn sbyty meddwl, yn hytrach nag efo'i draed yn rhydd a wad mowr o bres yn ei bocad


Cytuno'n llwyr. Mae fy nghydymdeimlad fwya i gyda theulu Jil Dando am fod ei llofrudd hi dal a'i draed yn rhydd. Ond mae'r ffaith fod Barry George wedi bod dan glo am wyth mlynedd wedi gwneud mwy o les i gymdeithas na phe bai wedi bod a'i draed yn rhydd. Faint o ferched diniwed fydde fe wedi'i sdalcio/threisio o bosib yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf?

Mochyn o foi.


Alla i ddeall barn Darth Sgonsan, ond ddim cytuno â'r uchod o gwbwl (heblaw cydymndeims â theulu JD, onfiysli). Be ti'n awgrymu - y dylai pob sexual deviant, pob retard ac ati, gael eu cloi i fyny heb achis, jesd i chdi gael 'teimlo'n saff' ???


fydden ni gyd yn ffycd! :seiclops: :ofn:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Y tlawd hwn » Llun 04 Awst 2008 1:17 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:
Alla i ddeall barn Darth Sgonsan, ond ddim cytuno â'r uchod o gwbwl (heblaw cydymndeims â theulu JD, onfiysli). Be ti'n awgrymu - y dylai pob sexual deviant, pob retard ac ati, gael eu cloi i fyny heb achis, jesd i chdi gael 'teimlo'n saff' ???


fydden ni gyd yn ffycd! :seiclops: :ofn:


ha ha :winc: digon teg!
Rhithffurf defnyddiwr
Y tlawd hwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Gwe 28 Maw 2008 6:54 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Prysor » Llun 04 Awst 2008 2:12 pm

Y tlawd hwn a ddywedodd:Prysor, se'r boi 'ma yn byw drws nesa i ti a bo 'da ti ddau o blant a gwraig, fyddet ti ddim yn hir cyn newid dy diwn


na.

mae gan bawb hawl byw yn rhydd (heblaw paedophiles - one strike and down for life i rheini)

be sy, ddim yn licio fod be ti'n ddeud ddim yn cydfynd a hawliau dynol a habeus corpus?

os fysa fo'n byw drws nesa i fi, fyswn i'n nabod o, ac yn gwbod fod gena fo broblema, ac os fysa fo'n mynd yn too much fyswn i'n gneud rwbath amdana fo - ffonio'i ofalwyr o, neu rwbath. Ac os fysa fo'n mynd yn rili ddrwg ac yn brifo fy ngwraig, fyswn i'n ei ladd o.

dwi'n byw pedwar drws o scizzophrenic efo problema difrifol, gyda llaw - a mae gen i wraig a tri o blant

a tydi Barry George erioed wedi bod yn fygythiad i blant, chwaith (dim i fi wybod - wyt ti?)

ac o be dwi'n ddeall, mae'n niwsans i ferched oherwydd fod ganddo broblemau seicatryddol dybryd. Help mae o isio.

O ran y trais honedig - os gafodd yr hogan ei threisio go iawn, pam na wnaeth y cops fwrw mlaen efo'r achos o drais? Dio'm bwys be ma hi'n ddeud, dydio ddim yn wir tan mae o wedi'i brofi. Fyswn i'n gofalu peidio llyncu portread yr erlyniad a'r Sun/Mail - ecsajyretio ma nw. Yn ol ei ofalwyr, dilyn merched randym oedd o, nid stalkio. Stalkio ydi targedu rhywun, eu poenydio'n feddyliol, yn gyson, dros gyfnod o amser... Ond be di'r ots gan y Daily Heil am ffeithiau felly? :rolio:

yn ol yr hyn da chi'n ddeud, fysa o leia dwsin o ddynion - a merched - yn Stiniog 'ma mewn concentration camps rwan. Ma gin bob cymuned ei weirdos, os na da chi'n byw mewn leafy suburb dethol dosbarth canol neis neis? Ma bobol yn nabod nw, ac yn byw efo nhw. Sneb yn berffaith.

os wyt ti'n recno fod pawb sy'n dilyn merch i lawr stryd yng ngolau dydd, yn capable o gymryd y naid enfawr yna i fod yn rapist, yna ti ddim gwell na darllenwyr y Daily Mail - y meddylfryd oedd yr Erlyniad yn ecsploetio yn yr achos llys cyntaf. Diolch byth bo chdi a Sgonsan ddim ar y rheithgor! Deud y gwir - os fyth fydda i o flaen fy ngwell am unrhyw beth, ac y bydda i'n gweld un o'na chi ar y rheithgor, mi fyddaf i'n objectio i chi, a dangos be da chi di ddeud yn fan hyn, a fydd gan y Barnwr ddim dewis ond eich taflu i ffwrdd, gan eich bod wedi profi eich bod yn fodlon gyrru rhywun sy'n ddiniwed o'r achos dan sylw, i' carchar oherwydd ei gymeriad yn unig.

da chi'n gweld be sgin i? dwi'm yn ffruo efo chi, jesd cyflwyno'r gyfraith fel ma hi'n sefyll, a'r egwyddorion hollbwysig sy'n sail iddi, sy'n cynnal cyfiawnder yn y wlad 'ma. Edrwch chi ddim pigo a dethol pryd ac efo pwy ydach chi'n defnyddio'r egwyddorion sylfaenol yma. Egwyddor ydi egwyddor full stop, neu be ydi'r pwynt?

e.e. di-euog tan profi'n euog... heblaw amdana chdi, Mr George/Bulsara, da ni'm yn licio ffordd ti'n sbio ar ferchaid, felly sgin ti ddim yr hawl yma... etc etc etc

eniwe.... mwynhewch y steddfod. Dwi off i Llydaw. Kenavo!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan bartiddu » Llun 04 Awst 2008 3:01 pm

Sgwn i a oedd y menwod 'ma roedd e'n eu dilyn yn gwisgo'r persawr Impulse ? :|
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Chickenfoot » Llun 04 Awst 2008 6:19 pm

Ond eto, mae o wedi'i ffeindio'n euog o dreisio ferch.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan ceribethlem » Llun 04 Awst 2008 11:55 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Ond eto, mae o wedi'i ffeindio'n euog o dreisio ferch.
Felly mae'n euog o lofruddio rhywun? Am fyd rhyfedd!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

Postiogan Y tlawd hwn » Maw 05 Awst 2008 9:23 am

Prysor a ddywedodd:...heblaw paedophiles - one strike and down for life i rheini)


o leia ry'n ni'n cytuno ar rywbeth Prysor!

mwynha Llydaw
Rhithffurf defnyddiwr
Y tlawd hwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Gwe 28 Maw 2008 6:54 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron