Tudalen 3 o 3

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

PostioPostiwyd: Maw 05 Awst 2008 9:42 am
gan Darth Sgonsan
Prysor a ddywedodd:O ran y trais honedig - os gafodd yr hogan ei threisio go iawn, pam na wnaeth y cops fwrw mlaen efo'r achos o drais? Dio'm bwys be ma hi'n ddeud, dydio ddim yn wir tan mae o wedi'i brofi. Fyswn i'n gofalu peidio llyncu portread yr erlyniad a'r Sun/Mail - ecsajyretio ma nw. Yn ol ei ofalwyr, dilyn merched randym oedd o, nid stalkio. Stalkio ydi targedu rhywun, eu poenydio'n feddyliol, yn gyson, dros gyfnod o amser... Ond be di'r ots gan y Daily Heil am ffeithiau felly? :rolio:

os wyt ti'n recno fod pawb sy'n dilyn merch i lawr stryd yng ngolau dydd, yn capable o gymryd y naid enfawr yna i fod yn rapist, yna ti ddim gwell na darllenwyr y Daily Mail - y meddylfryd oedd yr Erlyniad yn ecsploetio yn yr achos llys cyntaf. Diolch byth bo chdi a Sgonsan ddim ar y rheithgor! Deud y gwir - os fyth fydda i o flaen fy ngwell am unrhyw beth, ac y bydda i'n gweld un o'na chi ar y rheithgor, mi fyddaf i'n objectio i chi, a dangos be da chi di ddeud yn fan hyn, a fydd gan y Barnwr ddim dewis ond eich taflu i ffwrdd, gan eich bod wedi profi eich bod yn fodlon gyrru rhywun sy'n ddiniwed o'r achos dan sylw, i' carchar oherwydd ei gymeriad yn unig.


mi nath Barry Bulsara bledio'n euog i attempted rape - felly roedd y bwriad yna, nid honiad ydi hyn, gath o garchar. yn ol yr hyn a welais yn y wasg, doedd gan yr heddlu ddim digon o brawf i brofi'r trais, felly er mwyn sicrhau erlyniad mi wnatho nhw 'fargen efo Bulsara.
dwi hefyd wedi darllen fod y boi wedi cael dwy flynedd o ddedfryd ohiriedig am ymosodiad rhywiol cyn hyn.
o gofio hyn felly, dwi'n teimlo fod y flwyddyn a hanner dreuliodd o dan glo am y ddau ymosodiad yma ar ferched yn annigonol a sarhad i'w ddioddefwyr. mae o hefyd yn rhoi'r neges yn glir i dreiswyr eraill - os wnawn ni fyth eich, fyddwch chi ddim yn clinc am yn hir

sgen i ddim clem os ydi Barry Bulsara efo problemau meddwl - os felly, sbyty meddwl amdani...ond mae'r sdori amdano'n honni iddo chwydu beil adag yr achos cyntaf yn ddiddorol - mi brofwyd mai hylif golchi llestri oedd o ac nid beil. mae hyn yn awgrymu i mi fod o gwmpas ei bethau yn go lew.

faswn i ddim yn anfon neb i garchar ar sail ei gymeriad. ond ar sail ei droseddu rhywiol y mae wedi cyfaddef iddo, dwi ddim yn cydymdeimlo efo'r boi o gwbwl am orfod treulio wyth mlynadd yn clinc.
os ydio'n mental, nid carchar oedd/yw ei le - ond dwi ddim yn meddwl mai gofal yn y gymuned ydi'r atab i boi fel hyn.


faswn i byth yn cael bod ar reithgor cyfreithiol yn penderfynu dy dynged gan fy mod yn dy adnabod

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

PostioPostiwyd: Maw 05 Awst 2008 12:11 pm
gan Prysor
Darth Sgonsan a ddywedodd:faswn i byth yn cael bod ar reithgor cyfreithiol yn penderfynu dy dynged gan fy mod yn dy adnabod


swn i'n ffycd felly! :ofn: :D

na, dwi'n dallt lle ti'n dod o efo'r dim cydymdeimlad / cael ei haeddiant sdi. A fyswn inna ddim yn mynd am beint efo'r boi, chwaith. Jysd deud dwi mai nid ei gymeriad oedd o flaen ei well, ond y drosedd.

ond fyswn i'n bod yn ofalus efo'r 'stori' na am bledio'n euog i drio treisio - mae lot fawr o bethau'n fy ngwneud yn amheus am y stori yna, heb son am sut/pam wnaeth o bledio, os wnaeth o. Dwi jesd ddim yn gallu'i weld o rywsut (y sefyllfa yna 'lly) - dio'm yn genud sens. Dwi'm yn dwrna, ond dwi'n dallt yr ins and owts cyfreithiol - a'r deals ellir ei wneud - yn go lew (dwi'n meddwl!) a dyma'r tro cynta imi glywad am y ffasiwn beth, achos os oes dim digon o dystiolaeth i fwrw mlaen efo achos o drais, does dim tystiolaeth o geisio treisio chwaith. Mae tystiolaeth trio treisio yn gyfystyr a thystiolaeth o common assault a/neu sexual assault. Pam attempted rape? Sut ti'n profi hynny? A pam fyddai rhywun felly yn cyfadda i 'drio treisio'? Mae'n crogi ei hun dydi? Ac ar ben hynny, mae ynfytyns yn cyfadda i bob math o betha, mae hynny wedi ei brofi efo sawl achos arall o miscarriage of justice.

(wedi deud hynny, os wyt ti'n iawn, wel ffein, ma gin ti sail i dy farn o 'gael ei haeddiant'.) Ond dwi ddim yn meddwl fod yr achos ti'n meddwl ti di weld mor clearcut a hynny.

Ta waeth - IQ o 75 sydd ganddo, ymhlith y 5% isaf yn y wlad. Un droed yn y fasgiad - o leia - math o beth. Epileptic hefyd. Di'r boi ddim o gwmpas ei betha o gwbl cyw. A dwi'm yn meddwl fod llyncu fairy liquid yn arwydd o fod o gwmpas ei betha, chwaith, na? :winc:

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 6:57 am
gan Darth Sgonsan
Prysor a ddywedodd:Ta waeth - IQ o 75 sydd ganddo, ymhlith y 5% isaf yn y wlad. Un droed yn y fasgiad - o leia - math o beth. Epileptic hefyd. Di'r boi ddim o gwmpas ei betha o gwbl cyw. A dwi'm yn meddwl fod llyncu fairy liquid yn arwydd o fod o gwmpas ei betha, chwaith, na? :winc:


erbyn meddwl, mae yna lot gormod o righteous indignation yn yr edefyn yma, a neb yn fwy hunangyfiawn na fi...fel mae Siw Carrol wedi ddeud yn y Mirror, ddyla hi wedi bod yn amlwg i'r heddlu, gwas. cymdeithasol, swyddogion prawf ayb. nol yn 1981 pan gath o'i neud am geisio treisio, fod Barry Siors ddim llawn llathan, ac yn boendod i ferched.
i fi, ddyla'r boi fod wedi ei gadw mewn sbyty meddwl am gyfnod hir nes fod o'n medru rheoli ei hun- ond os mai gofal yn y gymuned ddyla hi fod, ddyla bod nhw wedi goruchwylio'r boi lot gwell.

faint o bobol efo IQ isel fel hyn sy'n clinc? oni bai fod yr achos mor high profile, beryg fydda Bulsara dal yn ei gell rwan

Re: Barry George yn rhydd o'r diwedd

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 6:23 pm
gan Chickenfoot
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Ond eto, mae o wedi'i ffeindio'n euog o dreisio ferch.
Felly mae'n euog o lofruddio rhywun? Am fyd rhyfedd!


Wnes i byth ddweud hynna! Jest ateb i pwy bynnag oedd yn ddweud nad oedd y ffaith ei fod yn stalker ddim yn ei wneud yn beryg i deuluoedd ayyb. Dyliwn i fod wedi dyfynu. Apologies