gan Seonaidh/Sioni » Sul 31 Awst 2008 3:12 pm
Ai, mae'r ganolfan ar agor ers blynyddoedd. Ond beth, yn wreiddiol, oedd "Lloegr"? Mae cyfeiriad yn Aneirin (Y Gododdin) i fois Gododdin yn ymladd yn erbyn y "Lloegrwys" yn ymyl Catraeth. Hefyd, mae hen deyrnasau Deifr (Deira) a Brynaich (Bernicia) wedi eu cymryd drosodd gan yr Eingl - ond yn dal i gynnwys lot o bobl (mwyafrif am sbel) oedd yn arfer rhyw fath o Gymraeg. Caed hefyd Elfed, hen deyrnas o gwmpas Lloidis, yn dal i fyw fel gwlad Geltaidd am ychydig ar ol cwymp Gododdin (ie - siaredwyd Saesneg yng Ngaeredin cynt nag yn Lloidis!). Efallai daeth "Bernicia" (Brynaich) o'r hen lwyth Geltaidd "Brigantes" oedd yn trigo rhwng Manceinion a Gododdin. Ond Lloegr/Lloegrwys? O ble daeth hynny?
Am Reged, hen deyrnas o gwmpas Caerliwelydd oedd honno. Goresgynwyd gan y Northumbriaid am sbel (hyd Dunragit - Din Rheged - yn ymyl Sròn Rathair), ond pan ddaeth y Llychlynwyr/Daniaid, ymunodd Rheged ag Ystrad Clud. Weithiau fe enwid y deyrnas na yn "Cymru" (Cumbria). Dw i ddim yn credu mai rhan o Loegr wreiddiol fu hyn.
Efallai mai yng nghanolbarth Lloegr heddiw y ceir y Lloegr wreiddiol, rhyw deyrnas Geltaidd i'r dwyrain o Bowys, llawn milod gwylltion a fforestydd morion (dywedir i'r hen Fercians dorri lawr lot o goedwigau). Prifddinas? Efallai Caerlyr (Ratae i'r Rhufeiniaid). Yn ol Shakespeare, ond oedd Llyr yn frenin Lloegr?
Felly, bydd "Ail-brydaneiddio Lloegr" yn dechrau pan fydd y Birmingham Post ac ati yn cyhoeddi pethau yn y Gymraeg. Am Reged (ac, yn wir, mewn mannau eraill yng Ngogledd Lloegr a De-Orllewin yr Alban) mae hen rifolion yno sy'n swnio'n Gymraeg iawn, e.e. yann tyan tethera pethera pimp sethera lethera hovera dovera dick yann-a-dick tyan-a-dick tether-a-dick pether-a-dick bumfit yann-a-bumfit tyan-a-bumfit tether-a-bumfit pether-a-bumfit giggot. Rhifolion benywaidd, i gyfrif defaid. Hyd at ddiweddar iawn, mae'r hen "Reged" wedi bod yn cael ei Seisnigeiddio.
A bheil thu gam aithneachadh?