Ail brydaneiddio Lloegr?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan brwynen » Gwe 29 Awst 2008 12:29 pm

http://www.rheged.com/

Canolfan newydd ym Mhenrith
brwynen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Gwe 29 Awst 2008 12:16 pm

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan Prysor » Sad 30 Awst 2008 9:23 pm

Ia, da (a croeso i'r Maes, Brwynan) blaw mae'r lle wedi agor ers rhyw 3 mlynadd, dwi'n siwr. Ti di bod yna?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 31 Awst 2008 3:12 pm

Ai, mae'r ganolfan ar agor ers blynyddoedd. Ond beth, yn wreiddiol, oedd "Lloegr"? Mae cyfeiriad yn Aneirin (Y Gododdin) i fois Gododdin yn ymladd yn erbyn y "Lloegrwys" yn ymyl Catraeth. Hefyd, mae hen deyrnasau Deifr (Deira) a Brynaich (Bernicia) wedi eu cymryd drosodd gan yr Eingl - ond yn dal i gynnwys lot o bobl (mwyafrif am sbel) oedd yn arfer rhyw fath o Gymraeg. Caed hefyd Elfed, hen deyrnas o gwmpas Lloidis, yn dal i fyw fel gwlad Geltaidd am ychydig ar ol cwymp Gododdin (ie - siaredwyd Saesneg yng Ngaeredin cynt nag yn Lloidis!). Efallai daeth "Bernicia" (Brynaich) o'r hen lwyth Geltaidd "Brigantes" oedd yn trigo rhwng Manceinion a Gododdin. Ond Lloegr/Lloegrwys? O ble daeth hynny?

Am Reged, hen deyrnas o gwmpas Caerliwelydd oedd honno. Goresgynwyd gan y Northumbriaid am sbel (hyd Dunragit - Din Rheged - yn ymyl Sròn Rathair), ond pan ddaeth y Llychlynwyr/Daniaid, ymunodd Rheged ag Ystrad Clud. Weithiau fe enwid y deyrnas na yn "Cymru" (Cumbria). Dw i ddim yn credu mai rhan o Loegr wreiddiol fu hyn.

Efallai mai yng nghanolbarth Lloegr heddiw y ceir y Lloegr wreiddiol, rhyw deyrnas Geltaidd i'r dwyrain o Bowys, llawn milod gwylltion a fforestydd morion (dywedir i'r hen Fercians dorri lawr lot o goedwigau). Prifddinas? Efallai Caerlyr (Ratae i'r Rhufeiniaid). Yn ol Shakespeare, ond oedd Llyr yn frenin Lloegr?

Felly, bydd "Ail-brydaneiddio Lloegr" yn dechrau pan fydd y Birmingham Post ac ati yn cyhoeddi pethau yn y Gymraeg. Am Reged (ac, yn wir, mewn mannau eraill yng Ngogledd Lloegr a De-Orllewin yr Alban) mae hen rifolion yno sy'n swnio'n Gymraeg iawn, e.e. yann tyan tethera pethera pimp sethera lethera hovera dovera dick yann-a-dick tyan-a-dick tether-a-dick pether-a-dick bumfit yann-a-bumfit tyan-a-bumfit tether-a-bumfit pether-a-bumfit giggot. Rhifolion benywaidd, i gyfrif defaid. Hyd at ddiweddar iawn, mae'r hen "Reged" wedi bod yn cael ei Seisnigeiddio.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan celt86 » Sul 31 Awst 2008 6:51 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Felly, bydd "Ail-brydaneiddio Lloegr" yn dechrau pan fydd y Birmingham Post ac ati yn cyhoeddi pethau yn y Gymraeg.


Papur lleol Cymru ia? Ynghyd a'r Shropshire Star, Sollihull Gazette, Wolverhampton weekly ar West Bromwich Echo.
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan brwynen » Llun 01 Medi 2008 8:40 am

Petai pobol Lloegr yn ailddarganfod eu gwir brydeindod, o rhan yr iaith a'r hanes cyn sacsonaidd tybed fyddem ni'n medru ailymfalchio ym Mhrydain, Ynys Y Cedyrn. A oes ganddym mewn gwirionnedd hen hiraeth am ein hynys i gyd ag am fod yn brydeinwyr, sydd yn parhau i lesteirio ein dyseifiadau cymreig.

Ai dyma pam, yn anterth cyrhaeddiad Prydain pan ymfalchid yn Arthur, Buddug, ayyb y medre gymaint o Gymru blaenllaw hefyd fod yn brydeinwyr balch.
brwynen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Gwe 29 Awst 2008 12:16 pm

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan Dewin y gorllewin » Maw 02 Medi 2008 9:42 am

Prysor a ddywedodd:Ia, da (a croeso i'r Maes, Brwynan) blaw mae'r lle wedi agor ers rhyw 3 mlynadd, dwi'n siwr. Ti di bod yna?


Bues i yna yn 2002 a odd wedi bod ar agor ers tipyn y pryd hynny!
Teimlaf yn flin dros pobl nad ydynt yn yfed - pan ddeffrasant yn y bore, ni fyddan nhw'n teimlo yn well na hyn am weddill y dydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Dewin y gorllewin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Maw 12 Meh 2007 8:03 am
Lleoliad: Byth lle ddylen i fod!

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan ap Dafydd » Maw 02 Medi 2008 6:50 pm

Os oes unrhywun am ailbrydaneiddio Lloegr, dechrau gyda Croesoswallt, Ergyng, a'r gororau efallai?

Llefydd lle siaradwyd Cymraeg yn ddiweddar.

hwyl

Ffred
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: Ail brydaneiddio Lloegr?

Postiogan Maelor » Maw 02 Medi 2008 7:42 pm

ap Dafydd a ddywedodd:Os oes unrhywun am ailbrydaneiddio Lloegr, dechrau gyda Croesoswallt, Ergyng, a'r gororau efallai?

Llefydd lle siaradwyd Cymraeg yn ddiweddar.

hwyl

Ffred


Mae'r Gymraeg dal i'w glywed gan nifer o frodorion ardal Croesoswallt. Does ond and gwylio darllediadau Newyddion BBC Cymru am y marwolaethau yn yr ardal wythnos dwetha a'r cyfweld pobl lleol sydd wedi bod i weld ychydig o bresenoldeb y Gymraeg sydd yn parhau i fod yno.

Ac o ran Rheged, mae'r lle wedi bod yn gored ers o leiaf 2002 ac o be dwi'n ddallt mae'n le digon gwael o ran dysgu am treftadaeth Celtaidd yr ardal yma, diffiniad gwael Lloegr o'u hanes "Dark Ages = Celtic" ydy o.
Maelor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 07 Meh 2005 1:38 pm
Lleoliad: Wrecsam


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron