Tudalen 1 o 1

Panorama - Next Stop Downing Street?

PostioPostiwyd: Maw 30 Medi 2008 11:35 am
gan Cardi Bach
Pwy welodd raglen Panorama gyda David Cameron a Nick Robinson neithiwr?

Rodd Cameron yn mynd i Birmingham ac yn cael sgwrs gyda 5 o wahanol bobl 'cyffredin' o'r ddinas.

Un o'r rhai hynny oedd mam sengl oedd yn gweithio fel gweithwraig cymdeithasol, o ryw fath. Dyma hi'n herio Cameron ar y ffaith nad yw ei gysgod-gabinet yn cynrychioli pobl cyffredin, ac fod nifer ohonyn nhw filiwnyddion.

Beth oedd ateb Cameron?

"Dyw hynny ddim yn wir. Mae gyda ni ddyn caled o Sir Efrog - William Hague..."

:lol:

Amddiffyniad cameron felly yn erbyn y cyhuddiad nad yw ei dim yn cynrychioli pobl gyffredin, a'i dystiolaeth (ei unig dystiolaeth) nad yw hynny'n wir yw...William Hague, y dyn 'caled'!

(dyw e ddim ar iPlayer eto, ond pan eith e yna bydde fe'n syniad ei lwytho ar YouTube a gwneud rhywbeth ohono fe! gwych!)

Re: Panorama - Next Stop Downing Street?

PostioPostiwyd: Maw 30 Medi 2008 12:26 pm
gan Ar Mada
Do gwelais i o, fatha bod rhywun o ogledd Lloegr (York) yn lais i holl fobl 'broken society' Lloegr. Nawddoglyd uffernol tuag at pobl 'gogleddol' Lloegr ta be? Roedd hynna'n profi bod gan DC ddim clem am beth oedd hi'n son. Ydi WH yn dod o gefndir dosbarth gweithiol?

Y peth hurt oedd... nath hi gytuno i bledleisio'r Tory's yn y di-briff.

Re: Panorama - Next Stop Downing Street?

PostioPostiwyd: Mer 01 Hyd 2008 6:50 pm
gan Seonaidh/Sioni
Yd em wn i, gyf, ddaeth Gwilym Hague ddim o deulu dosbath weithio. Credaf i'w dad o fod yn berchennog ar ffatri poteli neu rywbeth tebyg. Efallai bod nhw'n cynhyrchu diodydd di-alcohol, pethau fel Barley Water neu Irn Bru. Nid tlawd mo Wilym H. Ond ddaru fo briodi Cymraes ondo? Efallai dyna pam fod Dewi Camshron yn credu fod WH tipyn yn israddol...

Re: Panorama - Next Stop Downing Street?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 12:23 pm
gan brwynen
Naeth Cameron hefyd awgrymu

'Get rid of the regional assemblies' fel un modd o arbed arian. Am be oedd o'n siarad? Dimond Llundain sy'n regional assembly ond fe ddywedodd Cameron assemblies

Re: Panorama - Next Stop Downing Street?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 12:51 pm
gan dawncyfarwydd

Re: Panorama - Next Stop Downing Street?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 2:09 pm
gan Cardi Bach
Dyma ni!

Tua 11.30 munud i fewn i’r rhaglen

Menyw: “Because I know as well that several members of your cabinet I believe their all millionaires.”

DC : “No…not…no...I mean…look there are…I’ve got a range of people around me…William Hague…you know…who’s a tough Yorkshireman who’s my effective (yntau ‘affective’ :winc: ) deputy…ah ah…I’ve got people of all sorts of different backgrounds…”

Am: Pandrama - Next Shop Drowning Street?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 10:26 pm
gan Seonaidh/Sioni
Diolch byth nad oes gen i "regional assembly" - mae gen i dair senedd, un ym Mrwsel, un yn Llundain ac un yng Nghaeredin.

Heb ryw fath o gynulliad rhanbarthol, beth sy'n digwydd? Ydy Llundain yn penderfynu popeth yn yr ardal, neu oes rhagor o bwerau gan yr awdurdoadau lleol? Nac ydy, nac oes. Y pethau sy'n cael eu penderfynu gan gynulliadau (e.e. ein senedd ni yn yr Alban, y rhai yng Nghaerdydd, Bealfeirsde a Llundain ei hun), mewn llefydd eraill, maen nhw'n ccael eu penderfynu gan cwangos di-ethol. Ac wrth gwrs mae'r cwangos (e.e. North East England Developmnet Council) hynny yn cael eu hariannu gan y trethdalwr, jest fel mae'r cynulliadau. Y gwahaniaeth? Dydy'r cwangos ddim yn atebol i neb. A dyna Ddewi Camshron yn deud fod arno eisiau cael gwared o'r ychydig gynulliadau sy gan y DU er mwyn be? Arbed pres? Dim arbed - caiff y pres ei wario beth bynnag - ond ar gwangos di-ethol yn lle cynulliadau etholedig. He hasn't got a clue.