Tudalen 1 o 3

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2008 10:49 pm
gan Aberblue
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:'Rwyf wedi teithio ar Virgin Trains ambell waith. Rhai parthau/cerbydau ble nad yw hi'n bosibl derbyn signal ffon ar eich ffon poced.
Mae gan rai cwmniau ystafelloedd yn y gweithle ble nad yw hi'n bosibl derbyn signal ffon.

A ydych o blaid troi llyfrgelloedd Prydain yn rhai ble nad yw hi'n bosibl derbyn signal ffon? A fyddai cam fel yma yn rhywbeth drud uffernol? A yw technoleg wedi gwella digon? Byddai hyn yn gyfraniad pwysig tuag at mwy o safon, ansawdd, synnwyr cyffredin, llonyddwch, distawrwydd yn ein llyfrgelloedd. Be sy'n iawn sy'n iawn. Dim lol a dim esgusodion. Cytuno?

Byddai cam fel yma llawer iawn gwell na gosod posteri "Dim sgwrsio ar eich ffon".


Cytuno'n llwyr. Mae unrhywun sy'n defnyddio ffôn symudol mewn llyfrgell yn haeddu cael ei gicio mas.

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2008 5:57 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mae unrhyw un sy'n siarad/gweiddi'n uchel ar ei ffon symudol mewn llyfrgell yn haeddu uffar o gerydd. Cansen :D Diarddeliad :D Gwely heb swper :D Sefyll yn y gornel, bys ar geg a chyfri i 100 :D Leins :D

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2008 10:45 am
gan Rhys Llwyd
Aberblue a ddywedodd:Cytuno'n llwyr. Mae unrhywun sy'n defnyddio ffôn symudol mewn llyfrgell yn haeddu cael ei gicio mas.


Unrhywun sy'n siarad ar ei ffôn yn Llyfyrgell, digon teg. Ond does dim byd yn bod ar sgwennu SMS, ebost neu syrffio'r wê ar eich ffôn yn y Llyfyrgell. I'r gwrthwyneb, dwi'n gweld syrffio'r we ar fy ffôn yn y Llyfyrgell yn adnodd ymchwil cyfleus iawn.

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2008 12:38 pm
gan huwwaters
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Aberblue a ddywedodd:Cytuno'n llwyr. Mae unrhywun sy'n defnyddio ffôn symudol mewn llyfrgell yn haeddu cael ei gicio mas.


Unrhywun sy'n siarad ar ei ffôn yn Llyfyrgell, digon teg. Ond does dim byd yn bod ar sgwennu SMS, ebost neu syrffio'r wê ar eich ffôn yn y Llyfyrgell. I'r gwrthwyneb, dwi'n gweld syrffio'r we ar fy ffôn yn y Llyfyrgell yn adnodd ymchwil cyfleus iawn.


Dwi'm yn meddwl bod Wylit yn mynychu'r llyfrgell yna amal, neu fyse fo efo mwy o brofiad.

O fy mhrofiad i, mae'r staff yn gneud mwy o swn wrth siarad efo pobol wrth eu desg na ffonau symudol.

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2008 6:01 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Byddaf yn mynd i'r llyfrgell yn reit aml.
Cytuno bod janglo rhwng aelodau staff yn broblem (mwy o broblem na siarad ar ffonau symudol).
Hefyd wedi cael llond bol ar ddefnyddwyr rhyngrwyd sydd hefo ffrind yn eistedd reit wrth ymyl ac yn siarad drwy gydol y sesiwn ar y cyfrifiadur. Hyn yn mynd ar nerfau y person (e.e. fi) drws nesaf ar y cyfrifiadur nesaf!
Y pwynt ynglyn a chyflwyno'r dechnoleg angenrheidiol i ddiffodd signalau ffon ydi nad oes rhaid dibynnu ar e.e. addysg/hyfforddiant/ewyllys da/cwrteisi/pobl distaw call. Mae'r ffactor dynol wedi ei hepgor. Hynny yw, mae'n fwy dibynadwy. Cam positif tuag at awyrgylch gwell a distawach...
Cred rhai y dylai llyfrgelloedd fod yn fwy ymlaciol. Wel, os ydi ymlaciol yn golygu mwy swnllyd yna mae'n ddymuniad hurt.
Mwy i ddilyn...ond sgin i ddim mo'r amser ar hyn o bryd!
Pe bawn i yn gorfod dewis rhwng dau begwn- llyfrgell sych a distaw ynteu llyfrgell trendi, modern a braidd yn swnllyd yna byddem yn dewis yr opsiwn cyntaf.

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Sad 29 Tach 2008 1:54 am
gan popethmelyn
Wylit, nes di addod na fydde ti'n cyfrannu...

siom.

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2008 4:02 am
gan Mali
Macsen a ddywedodd:Beth os oes na shilff lyfrau yn disgyn ar dy ben di gyda'r nos a ti angen ffonio allan i gael dy achub?


:lol:

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2008 5:59 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mali- paid a malu. Nid wyf erioed wedi bod i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aber. A fyddai'n brofiad distaw a phleserus? Ystafell ddarllen hollol, hollol ddistaw yno??

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2008 12:40 am
gan Mali
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Mali- paid a malu.


I falu , mae'n rhaid i rywun ddweud rhywbeth. :P Ddywedes i rywbeth ? ........Naddo , dim ond chwerthin drwy'r gofod na cwbwl ! :winc:

Re: Diffodd signalau ffon mewn llyfrgelloedd

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2008 6:12 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mali- croeso i ti ddweud rhywbeth neu chwerthin. Ond cofia wneud hynny yn uffernol o ddistaw os ti mewn llyfrgell :D