Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:'Rwyf wedi teithio ar Virgin Trains ambell waith. Rhai parthau/cerbydau ble nad yw hi'n bosibl derbyn signal ffon ar eich ffon poced.
Mae gan rai cwmniau ystafelloedd yn y gweithle ble nad yw hi'n bosibl derbyn signal ffon.
A ydych o blaid troi llyfrgelloedd Prydain yn rhai ble nad yw hi'n bosibl derbyn signal ffon? A fyddai cam fel yma yn rhywbeth drud uffernol? A yw technoleg wedi gwella digon? Byddai hyn yn gyfraniad pwysig tuag at mwy o safon, ansawdd, synnwyr cyffredin, llonyddwch, distawrwydd yn ein llyfrgelloedd. Be sy'n iawn sy'n iawn. Dim lol a dim esgusodion. Cytuno?
Byddai cam fel yma llawer iawn gwell na gosod posteri "Dim sgwrsio ar eich ffon".
Cytuno'n llwyr. Mae unrhywun sy'n defnyddio ffôn symudol mewn llyfrgell yn haeddu cael ei gicio mas.