Tudalen 1 o 3

Re: Daily Star a Phrydeindod 12/11/08

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 10:52 pm
gan Aelod Llipa
Ydy hyn yn eich gwneud yn falch o fod yn "Brydeinig"?
Ac o gofio fod y D.Star yn un o bapurau mwyaf poblogaidd "Prydain", sut effaith geith stori fel hyn (a chefnogaeth o'r fath) ar agweddau tuag at y Gymraeg yng Nghymru?

http://www.dailystar.co.uk/news/view/73 ... ostmaster/

http://www.dailystar.co.uk/posts/view/7 ... and-proud/

Re: Daily Star a Phrydeindod 12/11/08

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 11:54 pm
gan Duw
Aelod Llipa a ddywedodd:Ydy hyn yn eich gwneud yn falch o fod yn "Brydeinig"?
Ac o gofio fod y D.Star yn un o bapurau mwyaf poblogaidd "Prydain", sut effaith geith stori fel hyn (a chefnogaeth o'r fath) ar agweddau tuag at y Gymraeg yng Nghymru?


A wnaiff e unrhyw wahaniaeth? A ydy'r Cymry wirioneddol yn rhoi ffig am beth mae boi o Sri Lanka sy'n gweithio mewn Swyddfa Bost yn Nottingham yn meddwl? Ar y llaw arall a wnaiff e unrhyw wahaniaeth i bobl dros y ffin parthed eu hagwedd tuag atom ni yma? Atgasedd i ambivalence i 'pwy sy'n rhoi damn am y Welshies' yw teimladau'r mwyafrif dwi'n meddwl.

Mynnu siarad Saesneg

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 10:09 pm
gan Seonaidh/Sioni
Be fasen nhw'n feddwl, tybed, petai rhyw bostfeistr/es o darddiad tramor yn, dyweder, Pwllheli yn gwrthod gwasanaethu cwsmeriaid nad oedd yn siarad Cymraeg yn y swyddfa?

Re: Daily Star a Phrydeindod 12/11/08

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 8:26 pm
gan Josgin
Mae'r boi wedi gorfod gadael ei swydd rwan. Mi oedd o'n beth rhyfedd iddo fo wneud. Petai o wedi bod yn Sais , fe fuasai'r CRE wedi tynnu mwy o sylw byth at yr achos .

Re: Daily Star a Phrydeindod 12/11/08

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 8:21 am
gan Muralitharan
A gafodd rywun ymateb gan Mohammed Tufail?

Re: Daily Star a Phrydeindod 12/11/08

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 12:04 pm
gan Iwan Rhys
Ches i ddim ymateb, er i mi anfon e-bost digon cwrtais yn anghytuno am yr hyn ddwedodd e, ac er i mi ofyn am ymateb.

A yw'r bachan yn dal yn ei swydd?