Roedd De Iwerddon yn rhan o Brydain ar un adeg
Wel, yn dechnegol, nid oedd. Roedd yn rhan o'r DU, ac mae i o hyd yn rhan o'r "Ynysoedd Prydeinig", ond doedd i ddim yn rhan o Brydain erioed. Cent, Cymru a Chaeredin, ar y llaw arall, fydd yn rhan o Brydain am byth (wel, hyd i'r ynys gael ei boddi...) Mae'r Ynysoedd Prydeinig yn cynnwys dwy brif ynys, sef Prydain ac Iwerddon, a sawl ynysoedd llai, fel Manaw, Mon, Wyth, Hjalltaland, Leodhas ac ati. Mae "Prydain Fawr" yn cynnwys yr ynysoedd sydd nes at Brydain nag at Iwerddon ac mae "Prydain Fach" (yn ogystal ag enw rhaglen teledu) yn enw arall ar Lydaw.
Iawn, gwers daearyddiaeth drosodd - nol at y wleidyddiaeth...