Tudalen 3 o 4

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2008 8:53 am
gan ceribethlem
Yn bersonol fi'n gobeithio neiff Tim Henman ac Andy Murray golli popeth. Methu dioddef Murray, y cont surbwch ag yw e'.

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2008 9:09 am
gan Hedd Gwynfor
ceribethlem a ddywedodd:Yn bersonol fi'n gobeithio neiff Tim Henman ac Andy Murray golli popeth. Methu dioddef Murray, y cont surbwch ag yw e'.


Cytuno am Henman,ond yn cefnogi Murray. Nid am ei fod yn 'Brydeinwr' ond am ei fod yn cyd Gelt, a wnaeth e ddweud ei fod ddim yn cefnogi Lloegr mewn peldroed, sy'n beth da! ;-)

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2008 10:21 am
gan ElinorSian82
rhyw ddyddd fe fydd cymru yn annibynnol ond fel wedodd SL "Ni fydd Cymru byth yn annibynnol pan mae'n hapus yn bod yn rhydd." Er ein bod ni yn rhan o'r DU mewn theori mae'n bosib i beidio teimlo fel hynny. Wyt tn teimlo fel saes am dy fod yn sownd wrth Lloegr?

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2008 7:46 pm
gan Seonaidh/Sioni
Roedd De Iwerddon yn rhan o Brydain ar un adeg

Wel, yn dechnegol, nid oedd. Roedd yn rhan o'r DU, ac mae i o hyd yn rhan o'r "Ynysoedd Prydeinig", ond doedd i ddim yn rhan o Brydain erioed. Cent, Cymru a Chaeredin, ar y llaw arall, fydd yn rhan o Brydain am byth (wel, hyd i'r ynys gael ei boddi...) Mae'r Ynysoedd Prydeinig yn cynnwys dwy brif ynys, sef Prydain ac Iwerddon, a sawl ynysoedd llai, fel Manaw, Mon, Wyth, Hjalltaland, Leodhas ac ati. Mae "Prydain Fawr" yn cynnwys yr ynysoedd sydd nes at Brydain nag at Iwerddon ac mae "Prydain Fach" (yn ogystal ag enw rhaglen teledu) yn enw arall ar Lydaw.

Iawn, gwers daearyddiaeth drosodd - nol at y wleidyddiaeth...

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2008 8:49 pm
gan Duw
Ocei smartarse, ti'n gwbod beth o'n i'n meddwl.

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Iau 11 Rhag 2008 12:20 pm
gan LLewMawr
mae chwarter o bobl yng Nghymru yn mewnfudwyr. so nid yw'r ystadegau am cymreictod yn ffol iawn.