Tudalen 4 o 4

Re: Cymro? Prydeinwr(aig)? Neu'r ddau?

PostioPostiwyd: Sul 14 Rhag 2008 6:59 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ma pwynt da ti fan hyn. Ydy Saeson yn gweld y gwahaniaeth rhwng Prydeinwr/Sais?

Dwi'n amau bod llawer ohonynt yn gweld y gwahaniaeth- pwy ddyfeisiodd geiriau fel "British monarchy", "British parlaiment" (ac ati) yn y lle cyntaf? Nid yr Albanwyr oedden nhw! Ac hefyd mae'r dau term yn cael eu defnyddio fel cyfystyron ym mhob man tu allan o'r ynys. Diddorol i weld sut mae siaradwyr Cymraeg yn fotio (80%+ dim ond Cymro/aes) a'i gymharu a sut mae Cymru yn fotio yn gyffredinol. Mae hwn yn arddangos rhywbeth (yn almwg).

Eniwe yn eironig dach chi i gyd yn mwy "Prydeinig" nag y Sais. Roedd y Gymry ym Mhrydain Fawr yn wreiddiol cyn iddynt ddod allan o'r Almaen ar ôl i'r Rhufeinaidd gadael eu meddiannau canrifoedd yn ol. Iaith "Brydeinig" ydy'r Gymraeg ac iaith "Almaenaidd" ydy Saesneg wedi'r gwbwl! :lol:
Mae bron pawb yn fewnfudwr i raddau - faint ohonoch chi sy'n byw lle y ganed? Yr un pentref? Gogs sy'n byw yn y De, Hwntws sy'n byw yn y Gogledd, Cardis ym Mhowys...mae na lot o fewnfudo mewnol!

Oedd o'n son am fewnfudwyr i Gymru o tu allan- paid a fod yn mor technegol. :lol:

Braidd yn wast o amser. Sut mae'n bosib fod yn Cymro yn unig? :? Mae Cymru yn rhan o'r DU.

Mae o'n gofyn sut maen nhw'n teimlo, nid be ydyn nhw yn swyddogol neu yn wleidyddol.