Chickenfoot a ddywedodd:Pwy ffwc ydw i bendefynu? Neb, ond dw i'n ochri hefo'r pobl sydd yn siarad synnwyr ac yn gwybod canwaith mwy am y pwn nad fydda i byth, sef : FFYCIN' GWYDDONWYR GO IAWN AC NID ATHRAWON YSGOL NAD YDYNT YN CYFRANNU TUAG AT YMCHWIL GWYDDONOL. Deep breath, and relax...
Cytuno i radde Chick, ond mae'n rhaid cofio mae llawer o ni (athrawon) wedi bod yn wyddonwyr go iawn cyn mynd i mewn i addysg. Y peryg yw, fel rwyt yn awgrymu, rhywun sydd yn mynd i Brifysgol i astudio rhyw faes gwyddonol ac yna'n mynd yn syth i addysg, heb flasu ymchwil a natur ymchwil go iawn, ac yn wir methu a deall y gwahaniaeth rhwng gwyddoniaeth da a
pseudoscience. Biocemeg oedd fy maes i, ond ymchwiliais i lawer o feysydd (bron 10 maes arwahanol erbyn y diwedd, gan gynnwys astroffiseg) ar ol gorffen fy ngradd. Ym mhob un o'r meysydd eang hyn, roedd y dull gwyddonol cyffredin - dechrau gyda hypothesis [o ymchwil], cynllunio arbrofion teg, casglu gwybodaeth/tystiolaeth, dadansoddi'r canlyniadau, dehongli'r wybodaeth, cyhoeddu'r casgliadau - a bod yn barod i amddiffyn y canfyddiadau yn erbyn y gymdeithas wyddonol. O dro i dro cafodd ein gwaith ei wrthod, yn bennaf oherwydd roedd gwell dehongliadau o'n data.
Mae gwyddoniaeth yn gyhoeddus, yn agored i feirniadaeth ac yn barod i'w newid os oes gwell damcaniaeth yn bodoli. Stim shwd beth a ffaith gwyddonol - dim ond modelau. Mae'n wir bod rhai athrawon gwyddoniaeth yn anghofio hynny.
Ar y llaw arall, sut all 'ID' neu gread ei addysgu/trafod mewn cyd-destun gwyddonol? Yr unig beth all wyddonydd wneud yw gwadu'r 'syniadau' hyn, oherwydd nid oes tystiolaeth i'w cefnogi. Ai dyna'r hyn mae pobl angen? A ddylai gwersi gwyddoniaeth gael eu defnyddio i pw-pw-an crefydd? Dyna'r unig canlyniad rhesymegol wrth ddilyn y dull gwyddonol.