Dysgu creadigaeth mewn gwersi gwyddoniaeth

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Newydddion Seimlyd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 25 Rhag 2008 6:52 pm

Oes na wahaniaeth rhwng, dyweder, "theistic evolutionist" ac "atheistic revolutionist"?

"They're narrower at the ends and wider in the middle" - damcaniaeth y brontosauriaid gan Ann Elk.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Dysgu creadigaeth mewn gwersi gwyddoniaeth

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 26 Rhag 2008 3:43 am

Oes na wahaniaeth rhwng, dyweder, "theistic evolutionist" ac "atheistic revolutionist"?

Ym...oes. Dwi'n methu deall dy gwestiwn. Neu oeddet ti'n jocio?
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Dysgu creadigaeth mewn gwersi gwyddoniaeth

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 26 Rhag 2008 9:43 am

Yr hen gneuen yma yn cael ei godi eto! Oni thrafodwyd yr achos hyd at syrffed eisoes eleni, y llynedd a'r flwyddyn cynt?

Y rhyfeddod yw, mae'r rhai sydd yn wrthwynebus i ddamcaniaethau creu sydd yn codi'r pwnc o hyd ac o hyd.

Pam?

Trwy godi'r pwnc mae'n dod yn achos dadleuol. Ac os oes achos dadleuol mae'n rhaid ei grybwyll mewn gwersi a'i chrybwyll mewn ffordd ddiduedd. Anghyfrifoldeb dybryd byddid i athro peidio â chrybwyll pwnc sydd yn achos anghytundeb mor ddadleuol. Ac mae dyletswydd ar athro i fod yn ddiduedd ac yn barchus o bob safbwynt wrth gyflwyno pwnc lle mae anghytundeb.

Llyncu abwyd yw ymateb mewn modd mor filwriaethus tuag at y lleiafrif sydd yn credu mai glasbrint gwyddonol yw'r Beibl.

Y gwir yw bod pob dadl yn erbyn dysgu'r creu mewn gwersi gwyddoniaeth yn ategu at y ddadl. Wrth i'r ddadl cynyddu mae'n gwneud yr angen i drafod y ddadl yn y ddosbarth gwyddoniaeth yn gryfach! Ac wrth i'r ddadl poethi mae'n gwneud sefyllfa'r athro yn anoddach!

Mae dysgu hanes y creu yn bwysig. Mae'n angenrheidiol i ddeall gymaint am ddiwylliant y byd Gorllewinol. Heb wybod am Adda, Efa ac Eden does dim modd llwyddo mewn TGAU Cymraeg, Saesneg, Cymdeithaseg, Hanes, Drama na Chelfyddyd heb son am Astudiaethau Crefyddol. A bydda dderbyn bod angen crybwyll Eden mewn gwersi gwyddonol, hefyd, yn gwneud mwy o les i achos Darwiniaeth nag ydy agwedd nacaol y seciwleiddwyr eithafol!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Dysgu creadigaeth mewn gwersi gwyddoniaeth

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 26 Rhag 2008 10:40 am

Hen rwtsh flin! Nid yma y llunir polisiau addysg. Digwydd fod pryder am hyn gan Droed y Cyw-iar a chododd y pwnc (eto...). Ac mae rhai ohonom yn mynegi barn. Be dy broblem?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Newydddion Dychrynllyd

Postiogan Duw » Gwe 26 Rhag 2008 11:33 am

Chickenfoot a ddywedodd:Pwy ffwc ydw i bendefynu? Neb, ond dw i'n ochri hefo'r pobl sydd yn siarad synnwyr ac yn gwybod canwaith mwy am y pwn nad fydda i byth, sef : FFYCIN' GWYDDONWYR GO IAWN AC NID ATHRAWON YSGOL NAD YDYNT YN CYFRANNU TUAG AT YMCHWIL GWYDDONOL. Deep breath, and relax...


Cytuno i radde Chick, ond mae'n rhaid cofio mae llawer o ni (athrawon) wedi bod yn wyddonwyr go iawn cyn mynd i mewn i addysg. Y peryg yw, fel rwyt yn awgrymu, rhywun sydd yn mynd i Brifysgol i astudio rhyw faes gwyddonol ac yna'n mynd yn syth i addysg, heb flasu ymchwil a natur ymchwil go iawn, ac yn wir methu a deall y gwahaniaeth rhwng gwyddoniaeth da a pseudoscience. Biocemeg oedd fy maes i, ond ymchwiliais i lawer o feysydd (bron 10 maes arwahanol erbyn y diwedd, gan gynnwys astroffiseg) ar ol gorffen fy ngradd. Ym mhob un o'r meysydd eang hyn, roedd y dull gwyddonol cyffredin - dechrau gyda hypothesis [o ymchwil], cynllunio arbrofion teg, casglu gwybodaeth/tystiolaeth, dadansoddi'r canlyniadau, dehongli'r wybodaeth, cyhoeddu'r casgliadau - a bod yn barod i amddiffyn y canfyddiadau yn erbyn y gymdeithas wyddonol. O dro i dro cafodd ein gwaith ei wrthod, yn bennaf oherwydd roedd gwell dehongliadau o'n data.

Mae gwyddoniaeth yn gyhoeddus, yn agored i feirniadaeth ac yn barod i'w newid os oes gwell damcaniaeth yn bodoli. Stim shwd beth a ffaith gwyddonol - dim ond modelau. Mae'n wir bod rhai athrawon gwyddoniaeth yn anghofio hynny.

Ar y llaw arall, sut all 'ID' neu gread ei addysgu/trafod mewn cyd-destun gwyddonol? Yr unig beth all wyddonydd wneud yw gwadu'r 'syniadau' hyn, oherwydd nid oes tystiolaeth i'w cefnogi. Ai dyna'r hyn mae pobl angen? A ddylai gwersi gwyddoniaeth gael eu defnyddio i pw-pw-an crefydd? Dyna'r unig canlyniad rhesymegol wrth ddilyn y dull gwyddonol. :ffeit:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron