Tudalen 1 o 2

Dysgu creadigaeth mewn gwersi gwyddoniaeth

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 12:56 pm
gan Chickenfoot

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 6:58 pm
gan Gwenci Ddrwg
two thirds agree that creationism should be discussed in schools.

Trafod =/= addysgu

Achos ar gau...

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 7:49 pm
gan Duw
Da iawn Chris Higgins. Syniad da i ddisgyblion gael gwybod am yr hyn roedd pobl yn credu 2000 o flynyddoedd yn ol. Mae'n rhoi rhesymeg a theori gwyddonol mewn persbectif. A ddylai gael ei addysgu mewn gwersi gwyddoniaeth yn gydradd a damcaniaethau fel esblygiad a'r glec fawr? Diolch i'r drefn dydyn ni ddim yn byw mewn rhyw fath o "Bible Belt", neu byddai Intelligent Design ar y cwricwlwm a byddai'n rhaid i'n plant adolygu'r pseudoscience hwn fel ei fod yn ddilys. Mae Gwenci'n iawn, stim yn bod ar drafod materion, ond plis, paid a rhoi'r rwtsh hwn ar y cwricwlwm gwyddoniaeth. Mae addysg/asudiaethau crefyddol yn orfodol nawr - mae hwnna'n ddigon. Dwi'n grac nyth cacwn fod addoli ar y cyd dal yn digwydd mewn ysgolion. Pa hawl sgan unrhyw un i orfodi crefydd ar fy mhlant. Ie ie, hawl eu tynnu allan o wasanaeth... unrhyw syniad sut ma hwn yn adlewyrchu ar yr unigolyn? Mae digon o bobl penne bach mas 'na fyddai'n cymryd yn erbyn unrhyw un a fydde'n gwneud hyn. Mewn gwlad amlddiwylliannol, sut ydy'n gywir i ddewis un stori ar greadigaeth dros y lleill? Pedwar eliffant ar grwban. A ddylai Terry Pratchett gael adran arbennig yn y cwricwlwm hefyd? Sori dechre rantio. :rolio:

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 8:36 pm
gan Seonaidh/Sioni
Sori, be di "intelligent design"? Ro'n i'n credu iddo fod yn rhy fath ar be wna i pryd dw i'n planio, e.e., darn o ddodrefn newydd, neu drefn fy narlithiau i'r myfyrwyr a be i roi ynddyn nhw.

Awgrymiad: I ddechrau, beth am yr awdurdodau addysgol lunio strategaeth gywir i ddelio a "creationism", h.y. llunio'r cwricwlwm gan ddefnyddio "intelligent design"...

11+ Newydd: cwestiwn "Ydych chi'n "creationist"? ateb Nag ydw - yn syth i'r ysgol o'ch dewis; Ydw - aros yn yr ysgol gynradd nes bydd eich ateb yn newid.

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 1:09 pm
gan Chickenfoot
"Our findings suggest that many teachers are trying to adopt a measured approach to this contentious issue, an approach which attempts not only to explain the essential differences between scientific and other types of 'theory', but also to acknowledge that - regardless of, or even despite, "the science" - pupils may have a variety of strongly held, and arguably equal value, faith-based beliefs."


Mae hyn yn swnio fel pobl y Discovery Institute, sydd yn mynnu llenwi meddyliau plant hefo syniadau gwirion; ond yn yr achos yma mae'r ddynes yn ceisio dweud fod syniada pawb yr un mor ddilys e- a dydyn nhw ddim. Dydi "Intelligent Desin" ddim yn rywbeth allwch chi ei ddangos trwy arbrawf.

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 1:55 pm
gan Hogyn o Rachub
 phob parch ond pwy ffwc wyt ti neu neb arall i ddweud bod un syniad yn fwy dilys na'r llall? Tra nad ydw i'n credu mewn dysgu creadigaeth mewn gwersi gwyddoniaeth, dylid cydnabod mai damcaniaeth ydi hi, yr un fath â'r Big Bang; damcaniaethu a dyflu. Mae'r holl beth mor bell yn ôl y gwir ydi mae unrhyw ddamcaniaeth, fwy na thebyg, yn bur anghywir.

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 2:36 pm
gan Chickenfoot
o ran gwyddoniaeth, dydi pob syniad ddim yr un mor ddilys a'i gilydd. Mae theori yn meddwl rywbeth sydd wedi dangos mewn arbrawf, nid jest syniad. Os fasa'r Peer Review ayyb yn dweud "ok, dysga pob dim fel ffaith - dan ni'n meddwl fod pob syniad am y bydysawd a'r bywyd ar ein planed yn lyfli" fasa gwyddoniaeth ddim yn mynd yn rhy bell.

Os yw disgybl yn gofyn, wel wrth gwrs dylia'r athro esbonio pam na fedrwch chi ystyried Duw fel ffactow mewn unrhyw beth gwyddonol.

Pwy ffwc ydw i bendefynu? Neb, ond dw i'n ochri hefo'r pobl sydd yn siarad synnwyr ac yn gwybod canwaith mwy am y pwn nad fydda i byth, sef : FFYCIN' GWYDDONWYR GO IAWN AC NID ATHRAWON YSGOL NAD YDYNT YN CYFRANNU TUAG AT YMCHWIL GWYDDONOL. Deep breath, and relax...

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 6:05 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae gen i ddamcaniaeth newydd sy well o lawer na'r "big bang" neu "ceadigaeth" neu "lunio'n glyfar" (intelligent design?).

Mae bydysawd i gyd yn rhan o'm dychymyg. 'Does 'na ddim yn bodoli ond fy meddyliau. Credwch te beidio? Dw i ddim yn malio ai credwch ai peidio - chi ddim yn bodoli.

Ac os, efallai, dych chi'n ystyried fod hynny braidd yn afresymol, wel, mae o cyn ddilysed a chred y creadigaethuriaid. Mewn geiriau eraill, gwenwyn eu cred - achub ein plant!

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2008 9:33 pm
gan Griff-Waunfach
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae gen i ddamcaniaeth newydd sy well o lawer na'r "big bang" neu "ceadigaeth" neu "lunio'n glyfar" (intelligent design?).

Mae bydysawd i gyd yn rhan o'm dychymyg. 'Does 'na ddim yn bodoli ond fy meddyliau. Credwch te beidio? Dw i ddim yn malio ai credwch ai peidio - chi ddim yn bodoli.

Ac os, efallai, dych chi'n ystyried fod hynny braidd yn afresymol, wel, mae o cyn ddilysed a chred y creadigaethuriaid. Mewn geiriau eraill, gwenwyn eu cred - achub ein plant!



Mae gan Satre rhywbeth gwahanol iddweud am hynny! Ond mae dy ddamcaniaeth yn resymol. A mae mil o ddamcaniaethau eraill hefyd yn resymol, ond nid yw rswm yn golygu bod rhywbeth yn wir!

Re: Newydddion Dychrynllyd

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2008 5:01 am
gan Gwenci Ddrwg
11+ Newydd: cwestiwn "Ydych chi'n "creationist"? ateb Nag ydw - yn syth i'r ysgol o'ch dewis; Ydw - aros yn yr ysgol gynradd nes bydd eich ateb yn newid.

Neu opsiwn gwell: bod yn theistic evolutionist. Adfer mwy nag un broblem mae nhw di bod yn cael yn ne yr UDA- ond does na ddim rioed ateb syml i grap fel hwn pan byddet ti'n cyfarfod y hardliners.