Llundain Di-Gymraeg

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Duw » Maw 06 Ion 2009 7:34 pm

Kez a ddywedodd:Ond bai pwy yw hwnna? Nid Boris Johnson!

Aml - ddiwyllianol yw Llundain erbyn hyn, cofia – ma ‘na lefydd yma lle na chlywir bron dim Saesneg erbyn hyn.

Daeth y Cymry yma yn eu miloedd ar un adeg, ond penderfynu ymddoddi i’r byd Saesneg er mwyn dod ‘mlan yn y byd ‘nethon nhw. Digon yn eu pennau nhw i adeiladu capeli drudfawr Cymraeg a busnesau llewyrchus ond dim digon i weld y gallai’r Gymraeg fod yn rhan o'u llwyddiant a byd busnes. Rwyf yn gwybod taw pobl eu hamser oeddynt, ond eto i gyd....

Y mae’r rhai newydd sy’n dod yma yn ei deall hi – maent yn defnyddio eu hieithiodd brodorol er mwyn denu pobol newydd at eu tai bwyta a’u busnesau eraill ac yn y blaen – yn ogystal ag at eu pobol nhw eu hunain. Wela’ i ddim bai arnyn nhw am hynny.

Dwi'n cytuno 'da ti nid bai'r hen Boris ydyw ac allai ddeall anwybodaeth trigolion Llundain o'n hiaith hefyd. Serch hynny, siom, cywilydd a dicter oedd fy nharo wrth fynd at atyniadau'r Brifddinas. Dwi ddim yn son am fwytai ac ati fan hyn, ond amgueddfeydd a thebyg - sefydliadau rydym ni'r Cymry, trethdalwyr yn buddsoddi ynddynt. Posib ein bai ni ein hunain ydyw, y ffaith nac ydym yn gwerthu ein diwylliant a'n hiaith fel cenhedloedd eraill. Beth bynnag, dylwn adeiladu coelcerth dan pen-ol rhywun amdano.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Kez » Maw 06 Ion 2009 7:56 pm

Duw a ddywedodd:

Beth am Sian Lloyd? - wi'n meddwl bod hi'n byw yn Llundain ac mae ei phen-ol hi i weld yn itha huge a digywilydd y tu ol i''r weather map 'na :ofn: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 06 Ion 2009 8:46 pm

Llundain...hmmm.... Hyd am wn i, roedd y Rhufeiniaid yn ei galw hi'n Londinium. Hefyd, roedden nhw'n galw Caerfyrddin yn Moridunum. Dw i ddim yn gwybod ai'r un peth ydy - dinium a -dunum ond mean'n posib. Os felly, cawn ni rywbeth fel "Lon" + "Dun".

Ar un adeg roedd yr enw "Caer Ludd" yn ffasiynol ar Lundain, o'r hen frenin (efallai) "Lud" a thipyn o ffug-etymologaeth swn i'n credu. Cei di "Ludgate Circus" ac ati yn Llundain - ond fi'n credu fod hynny'n ffug-etymologaeth, rhywbeth cyffredin iawn adeg y Buddugiaid, e.e. pan gafodd "Poulton" ei hadenwi'n "Morecambe" yn ol map Ptolemi "Mori Kambe".

Nis credaf - ond dyma rywbeth doniol i chi. Bu canwr sgiffl yn y 50au o'r enw Lonnie Donegan a cafodd Llundain ei henwi er ei gof.

Felly, mae'n bosib i'r "don" yn mynegi hen ystyr Celtaidd "dunon" (Llad. "dunum", Gaeleg "dùn", Cymraeg "din" fel "Dinorwig", "Din Elfed" [Durham] ac ymlaen). Ond y "lon"? Mae "Lud" yn bosibl, ond rhaid wrth gadw diweddiad fel "-on" sy hen wedi colli mewn geiriau Cymraeg eraill. Gall fod yn effeithiad, fel yn Saesneg mae'r hen "thunor" (sy'n rhoi "Thor" y Llychlynwyr) wedi troi'n "thunder": hen ffurf "lon" wedi troi'n "lond" yn y Saesneg: wedi'r cwbl, "Lunnainn" yw'r gair Gaeleg amdani. Ond byddai hynny'n golygu rhywbeth fel "lon", yn hytrach na "lud", fel tarddle.

Felly, Madrydyclaf, dim lot o help, mae arna i ofn.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Aelod Llipa » Iau 08 Ion 2009 11:40 am

Diddorol!
Ar bwynt tebyg, ydych chi wedi sylwi sut mae llyfrau dysgu Cymraeg + geiriaduron Cymraeg yn cael eu gwerthu yn WH Smiths Caer o dan yr arwydd "Foreign Languages"! :drwg: Tydy hyn yn sicr ddim yn help i newid agweddau negyddol tuag at yr iaith. Beth sy'n bod ar gael arwydd "Native Languages" neu hyd yn oed "British Languages"? Unrhyw syniadau gwell?
Oes rhywun yn gwybod os yw hyn yn wir am siopau eraill WH Smiths yn Lloegr? Ac ydy'r arwydd "Foreign Languages" yn ymddangos yn eu siopau Cymreig uwchben eu llyfrau Cymraeg?
Byddai hyn yn gwneud llythyr diddorol hefyd! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Iwan Rhys » Gwe 09 Ion 2009 12:52 pm

Fe ddwedodd rhywun wrtha i mai tarddiad y gair 'Llundain' yw Llyn + Din. Llyn (fel ein llyn ni heddiw) yn arfer cael ei ddefnyddio am 'afon' yn ogystal â 'llyn'. Ac wedyn 'din' fel mae rhai wedi awgrymu'n barod - fel yn 'dinas'. Dwn i ddim!
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Iwan Rhys » Gwe 09 Ion 2009 1:00 pm

Mae'r nodyn am Dover yn ddiddorol hefyd. Nath e'n nharon i'n ddiweddar cymaint o enwau afonydd sy'n debyg i'w gilydd:
Taf (Caerdydd), Tâf (Sir Gâr), Tafwys, Teifi, Tywi, Tawe, Dyfi, Dwyfor, Dwyfach, Dyfrdwy - bosib bod llawer o rhain yn tarddu (esgusodwch y pyn) o'r gair 'dwfr'.
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Geraint » Gwe 09 Ion 2009 1:52 pm

Iwan Rhys a ddywedodd:Mae'r nodyn am Dover yn ddiddorol hefyd. Nath e'n nharon i'n ddiweddar cymaint o enwau afonydd sy'n debyg i'w gilydd:
Taf (Caerdydd), Tâf (Sir Gâr), Tafwys, Teifi, Tywi, Tawe, Dyfi, Dwyfor, Dwyfach, Dyfrdwy - bosib bod llawer o rhain yn tarddu (esgusodwch y pyn) o'r gair 'dwfr'.

Heb son am Thames, Theme, Tyne, Tees, Tamar, Tavy.........
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Kez » Gwe 09 Ion 2009 3:18 pm

Geraint a ddywedodd:
Iwan Rhys a ddywedodd:Mae'r nodyn am Dover yn ddiddorol hefyd. Nath e'n nharon i'n ddiweddar cymaint o enwau afonydd sy'n debyg i'w gilydd:
Taf (Caerdydd), Tâf (Sir Gâr), Tafwys, Teifi, Tywi, Tawe, Dyfi, Dwyfor, Dwyfach, Dyfrdwy - bosib bod llawer o rhain yn tarddu (esgusodwch y pyn) o'r gair 'dwfr'.

Heb son am Thames, Theme, Tyne, Tees, Tamar, Tavy.........

Dyma bwt mas o erthygl ar enwau afonydd - http://www.bbc.co.uk/cymru/bethsymewnenw/sites/themau/pages/afonydd.shtml

Mae afon Taf yn perthyn i grŵp o enwau afonydd Celtaidd ac Ewropeaidd sy'n golygu rhywbeth tebyg i 'llif' er y credid unwaith mai 'tywyll' oedd ei ystyr. Yn y grŵp yna mae afonydd Tawe, Teifi, Team, Tame a Thames. Mae'n ddiddorol nodi bod Caerdydd, Abertawe a Llundain ar afonydd gyda'r un tarddiad ieithyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 09 Ion 2009 8:51 pm

Afonydd... Tay, Teviot, Tummel, Tweed - efallai?

Llundain o "llyn" - wel, mae'n bosib. Be am Lincoln (Lindum Colonia), Lindisfarne, Dulyn? Am "llyn" yn golygu "afon", dyna be oedd "lake" (lacu) i'r hen Saeson - ac mae afon bach o hyd tua'r gogledd o Gastellnewydd ar Dein a'r enw "Sandy's Letch" (mae "Letch" yn ddiweddariad o'r hen Saes. "lacu"). Felly, "River City" ynte?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Duw » Gwe 09 Ion 2009 10:47 pm

Sut yn y diawl cafodd yr edefyn 'ma ei hijaco gan enw blydi afonydd????!!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron