Kez a ddywedodd:Ond bai pwy yw hwnna? Nid Boris Johnson!
Aml - ddiwyllianol yw Llundain erbyn hyn, cofia – ma ‘na lefydd yma lle na chlywir bron dim Saesneg erbyn hyn.
Daeth y Cymry yma yn eu miloedd ar un adeg, ond penderfynu ymddoddi i’r byd Saesneg er mwyn dod ‘mlan yn y byd ‘nethon nhw. Digon yn eu pennau nhw i adeiladu capeli drudfawr Cymraeg a busnesau llewyrchus ond dim digon i weld y gallai’r Gymraeg fod yn rhan o'u llwyddiant a byd busnes. Rwyf yn gwybod taw pobl eu hamser oeddynt, ond eto i gyd....
Y mae’r rhai newydd sy’n dod yma yn ei deall hi – maent yn defnyddio eu hieithiodd brodorol er mwyn denu pobol newydd at eu tai bwyta a’u busnesau eraill ac yn y blaen – yn ogystal ag at eu pobol nhw eu hunain. Wela’ i ddim bai arnyn nhw am hynny.
Dwi'n cytuno 'da ti nid bai'r hen Boris ydyw ac allai ddeall anwybodaeth trigolion Llundain o'n hiaith hefyd. Serch hynny, siom, cywilydd a dicter oedd fy nharo wrth fynd at atyniadau'r Brifddinas. Dwi ddim yn son am fwytai ac ati fan hyn, ond amgueddfeydd a thebyg - sefydliadau rydym ni'r Cymry, trethdalwyr yn buddsoddi ynddynt. Posib ein bai ni ein hunain ydyw, y ffaith nac ydym yn gwerthu ein diwylliant a'n hiaith fel cenhedloedd eraill. Beth bynnag, dylwn adeiladu coelcerth dan pen-ol rhywun amdano.