Tudalen 1 o 4

Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 6:31 pm
gan Duw
Jest wedi dychwelyd o daith fer i Lundain. Gret, ond ym mhobman roedd 'Willkommen', 'Bienvenue', 'Benvenuto' ayyb. Ni welais 'Failte' na 'Croeso' yn unman. (Dwi'n son am yr holl atyniadau amlwg). Dwi'n credu dylen anfon rhyw llythyr o brotest i hen Boris. Pam ydy ieithoedd estron yn cael mwy o groeso na ieithoedd Prydeinieg eraill? Pa neges ydy hyn yn rhoi i 'Brydeinwyr' (sori am y term :ffeit: ) sy ddim yn dod o Loegr? Nac ydynt yn mynnu taw Llundain yw Prifddinas Prydain, nid Lloegr yn unig?

Stim cliw 'da fi beth i wenud amdano, jest ishe gwyntyllu. Unrhyw un arall yn teimlo'r un ffordd?

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 7:51 pm
gan ap Dafydd
Duw a ddywedodd:Jest wedi dychwelyd o daith fer i Lundain. Gret, ond ym mhobman roedd 'Willkommen', 'Bienvenue', 'Benvenuto' ayyb. Ni welais 'Failte' na 'Croeso' yn unman.


Scarsli bilif!

Ffred

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 9:22 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wye aye Dduw, mae hyn yn warthus. Ces i brofiad tebyg yng Nghaeredin - wel, dw i'n ei gael yn ddigon aml gan mod i yng Nghaeredin yn ddigon aml (gwaetha'r modd). Ped elit ti i Senedd yr Alban (Santaidd Groes), gwelit dywyslyfrau iddi mewn sawl iaith, e.e. Gaeleg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwsieg, Sineg, Almaeneg, Pwyleg ac ati - ond dim byd yn y Gymraeg. Tybed bydd yr un yn wir am Gynulliad Cymru - dim byd yn yr Aeleg :ing: . O ia, dw i wedi cwyno am hyn - ond wedi cael y "brush-off" bob tro.

Mae gwefan Senedd y DU a thudalenni Cymraeg a Gaeleg. Mae gwefan Senedd yr Alban a thudalenni Gaeleg a Sgoteg (tafodiaith Saesneg a arferir mewn mannau yn yr Alban). Mae gwefan y Cynulliad, hyd am wn i, yn hollol ddwyieithog Cymraeg-Saesneg. Dylai fod, fel dywed Duw, RHYWBETH yn Llundain ar ddangos yn y Gymraeg ac yn yr Aeleg. Ond chreda i ddim bydd hynny'n poeni Baris Ifanofits gormod...

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 11:37 pm
gan Pryderi
Pan ddisgynais i ym maes awyr O'Hare yn Chicago, y peth cyntaf i dynnu fy sylw oedd y gair 'croeso' mewn sawl iaith, gan gynnwys Iaith y Nefoedd.

Rhyfedd fod yr Americanwyr yn fwy ymwybodol o'r Gymraeg na'r Saeson a'r Albanwyr!

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 11:40 pm
gan huwwaters
Pryderi a ddywedodd:Pan ddisgynais i ym maes awyr O'Hare yn Chicago, y peth cyntaf i dynnu fy sylw oedd y gair 'croeso' mewn sawl iaith, gan gynnwys Iaith y Nefoedd.

Rhyfedd fod yr Americanwyr yn fwy ymwybodol o'r Gymraeg na'r Saeson a'r Albanwyr!


Yr un fath ym Maes Awyr Philadelphia. Yr oeddent hyd yn oed yn gwerthu meddalwedd dysgu Cymraeg Rosetta Stone ar stondin.

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 05 Ion 2009 4:27 pm
gan cwrcim
Dwi'n byw yn Llundain ac yn cytuno fod ieithoedd o dramor yn cael llawer fwy o sylw.

OND... dwi'n gallu siopa yn Marks & Spencer a dewis y Gymraeg yn yr ardal 'self-service' lle mae'r peiriant wedyn yn rhoi gorchmynion i mi yn y Gymraeg.

Yn amgueddfa y Bank of England, mi ges i lyfryn bach yn y Gymraeg...

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 1:53 pm
gan Madrwyddygryf
Ti a phwynt teilwng fan yna. Mae Gymraeg yn un o ieithoedd Prydeinig felly dwi'n credu mae'n syniad i'r Iaith cael ei cydnabod rywsut yn ffurfiol mewn ambell i beth. Er dwi'm yn disgwyl bydd Boris Johnson a'i lot yn barod i wneud unrhywbeth amdano fo.

Un peth fe hoffwn wybod yw'r gair Llundain. Beth yw'r hanes tu cefn i'r gair London tybed? Oeddwn wedi deallt mai o gair rhyfeinig Londonium oedd yn dod o, sydd ei hyn oedd wedi dod o hen air Brythoneg am Llundain.

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 2:28 pm
gan Kez
Madrwyddygryf a ddywedodd:
Un peth fe hoffwn wybod yw'r gair Llundain. Beth yw'r hanes tu cefn i'r gair London tybed? Oeddwn wedi deallt mai o gair rhyfeinig Londonium oedd yn dod o, sydd ei hyn oedd wedi dod o hen air Brythoneg am Llundain.


Dyna beth own i'n ei gredu. Dyma beth mae'r wicipedia yn ei ddweud:

The etymology of London remains a mystery. The earliest etymological explanation can be attributed to Geoffrey of Monmouth in Historia Regum Britanniae. The name is described as originating from King Lud, who had allegedly taken over the city and named it Kaerlud.[19] This was slurred into Kaerludein and finally London. Many other theories have been advanced over the centuries, most of them deriving the name from Welsh or British, and occasionally from Anglo-Saxon or even Hebrew.[20]

Ma'n debyg taw'r un etymoleg sydd i'r Porthladd Dover sydd yn dod o'r Frythoneg ac yn rhoi'r gair Dwfwr (dwr) yn ein Cymraeg ni.

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 5:19 pm
gan Mali
Duw a ddywedodd:
Stim cliw 'da fi beth i wenud amdano, jest ishe gwyntyllu. Unrhyw un arall yn teimlo'r un ffordd?


Ydw wir ! :drwg: Mi ddylia ieithoedd Prydain cael eu dangos yn gyntaf , cyn yr holl ieithoedd eraill . Gyda llaw, wyt ti wedi sylwi'r ieithoedd eraill gei di ar baced o fferins, neu far o siocled, neu hyd yn oed tin o gwrw ? Dim sôn am y Gymraeg yn unlle ! :x
Dim jyst Llundain di Gymraeg felly.... :winc:

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 6:43 pm
gan Kez
cwrcim a ddywedodd:Dwi'n byw yn Llundain ac yn cytuno fod ieithoedd o dramor yn cael llawer fwy o sylw.

OND... dwi'n gallu siopa yn Marks & Spencer a dewis y Gymraeg yn yr ardal 'self-service' lle mae'r peiriant wedyn yn rhoi gorchmynion i mi yn y Gymraeg.

Yn amgueddfa y Bank of England, mi ges i lyfryn bach yn y Gymraeg...


Ond bai pwy yw hwnna? Nid Boris Johnson!

Aml - ddiwyllianol yw Llundain erbyn hyn, cofia – ma ‘na lefydd yma lle na chlywir bron dim Saesneg erbyn hyn.

Daeth y Cymry yma yn eu miloedd ar un adeg, ond penderfynu ymddoddi i’r byd Saesneg er mwyn dod ‘mlan yn y byd ‘nethon nhw. Digon yn eu pennau nhw i adeiladu capeli drudfawr Cymraeg a busnesau llewyrchus ond dim digon i weld y gallai’r Gymraeg fod yn rhan o'u llwyddiant a byd busnes. Rwyf yn gwybod taw pobl eu hamser oeddynt, ond eto i gyd....

Y mae’r rhai newydd sy’n dod yma yn ei deall hi – maent yn defnyddio eu hieithiodd brodorol er mwyn denu pobol newydd at eu tai bwyta a’u busnesau eraill ac yn y blaen – yn ogystal ag at eu pobol nhw eu hunain. Wela’ i ddim bai arnyn nhw am hynny.