Tudalen 3 o 4

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 10:47 pm
gan Duw
Sut yn y diawl cafodd yr edefyn 'ma ei hijaco gan enw blydi afonydd????!!

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 11:12 pm
gan Mali
Duw a ddywedodd:Sut yn y diawl cafodd yr edefyn 'ma ei hijaco gan enw blydi afonydd????!!


Clywch clywch !

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 6:11 pm
gan Seonaidh/Sioni
...ac mae rhai'n honni fod "Primrose Hill" yn enw Celtaidd (wel, dim yr "hill", ond y "Primrose")

Mae tre yn Ne Llundain o'r enw "Penge", sy'n dod efaillai o "Pen Coed"...

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 1:23 am
gan Duw
'CO PISS OFF blydi afonydd a thardd enwe - pwy sy gyda fi??!! STORMO Llunden!

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 9:26 am
gan sian
Duw a ddywedodd:'CO PISS OFF blydi afonydd a thardd enwe - pwy sy gyda fi??!! STORMO Llunden!


Pryd ti'n meddwl mynd? Bore 'ma? :winc:

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 12:15 pm
gan Duw
O byger, fy mhen! Ar ol i'r hangover ma basio, sy'n edrych fel BYTH. :crio:

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 4:45 pm
gan Cawslyd
Dwi'n meddwl 'ych bod chi gyd yn siarad shit. Pam 'i bod hi'n deud 'Wilkommen', 'Bienvenue' ayyb gynta? Oherwydd bod 'na fwy o bobl o'r Almaen a Ffrainc yn mynd 'no nag sy' na o Gymry Cymraeg - a ma nhw'n ieithoedd rhyngwladol; dydi'r Gymraeg ddim ond iaith leiafrifol o fewn cenedl fechan.

Pam ddylsa'r Cynulliad cynyrchu llenyddiaeth mewn Gaeleg? I blesio'r 20 siaradwr Gaeleg (os hynny) sy'n mynd 'na yn flynyddol?

Dwi'n cefnogwr brwd o weithredoedd sy'n sicrhau dyfodol i ieithoedd lleiafrifol, ond dydi rhoi gair o Gymraeg ne' Aeleg yn rwla bob hyn a hyn (i blesio'r natives) yn g'neud dim ond trifialeiddio (sori, gair uffernol, ond dwi'm yn siwr sud arall i gyfleu hyn) yr ieithoedd hyn. Dwi'n edrych 'mlaen at y dydd y bydd yr ieithoedd ar arwyddion yn Llundain, Caeredin ne' lle bynnag oherwydd y nifer o bobol sy'n eu siarad.

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 9:27 pm
gan Duw
Beth yw dy feini prawf ar feintiau? A ddylwn cael gwared o'r Gymraeg yng Nghymru felly? Pam ydy disgwyl sefydliadau cenedlaethol yn ein Prifddinas (Llundain) i ddangos 'Croeso' ar rai o'r arwyddion yn siarad shit? Cofia, fel mae'r Saeson yn hoffi mynnu - rydym yn rhan o'r DU. Dylai Llundain, sy mor falch o gynrychioli Prydain, wneud hynny'n go iawn.

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 12:41 am
gan huwwaters
Cawslyd a ddywedodd:Dwi'n edrych 'mlaen at y dydd y bydd yr ieithoedd ar arwyddion yn Llundain, Caeredin ne' lle bynnag oherwydd y nifer o bobol sy'n eu siarad.


Os wnei di anwybyddu niferoedd ail-iaith y Saesneg a dim ond ystyried y rhai iaith gyntaf, tydi hi ddim yn edrych fel cymaint o 'lingua franca'. Dwi'n meddwl bod hi'n hawdd ystyried nifer o ardaloedd yn ninasoedd mewnol llefydd fel Llundain, Birmingham a Manceinion ble mae Saesneg prin yn cael ei glywed.

Re: Llundain Di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 6:38 pm
gan Mr Llwyd
I feddwl bod Guto Harri yn un o weithwyr agos, a ffrind agosach maer Llundain, byse gofyn am y Gymraeg ar rai arwyddion yng nghanol y brifddinas ddim yn ormod i'w ofyn 'dwi'n siwr...