Llundain Di-Gymraeg

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Kantorowicz » Maw 13 Ion 2009 10:07 pm

Byddai'n beth da yn wir i weld ychydig o sôn am y Gymraeg mewn rhai llefydd penodol.

Does dim pwynt gofyn am bethau amhosibl, ond yn y sefydliadau "Prydeinig" (megis yr amgueddfeydd, orielau, adeiladau'r llywodraeth ac ati) lle mae Cymru i fod i gael ei chynrychioli, rwy'n credu'n gryf y dylid defnyddio'r iaith mewn o leiaf rhai mannau.

Ac nid yr iaith yn unig sydd ei hangen, chwaith, ond presenoldeb pethau Cymreig yn gyffredinol. Os ewch chi i nifer o'r amgueddfeydd etc. prin y cewch ddeall fod Cymru'n rhan o'r ynys.

Sawl portread o Gymry sydd yn yr Oriel Portreadau Cenedlaethol? A faint o sôn am achau Cymreig y Tuduriaid sydd yn yr wybodaeth teuluol o dan eu portreadau nhwythau? Faint o gyfeirio at Gymry fu farw yn y Tw^r sydd? Pa sôn sydd am ben Llywelyn yn cael ei roi ar y wal, yng nghanol yr holl ddeunydd 'deongliadol'?

(Ac yng Nghaeredin, hefyd - pa sôn am Aneirin a Chatraeth sydd ger y castell yn fan'na?).

Eto, mae cenedlaethau wedi cael eu geni a magu yng Nghymru heb sylweddoli bod Cymreictod yn bodoli... dew, mae'r dasg yn un fawr, gyfeillion!
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 15 Ion 2009 6:17 am

Oedd na "croeso" ar hysbysiad yn f'annedd- yng nghanol y dref Toronto (mewn gwirionedd yn ogystal â 50 ieithoedd arall, ond do'n i ddim yn cwyno).

Pam ydy ieithoedd estron yn cael mwy o groeso na ieithoedd Prydeinieg eraill?

Dydy'r llywodraeth ddim angen rhoi argraff dda i Gymry neu Albanwyr. Bydden nhw'n talu arian ac ychwanegu i'r economi gyda neu heb arwyddion yn eu h-ieithoedd. Eniwe, dan ni'n siarad am y Saes wedi'r gwbl...does dim llawer i'w deud. Hyd yn oed tasech chi'n ceisio gwneud iddynt ychwanegu'r Gymraeg fuasai 'na cymaint o bobl yn Llundain yn ei erbyn (nazis Cymreig sydd eisiau gosod bla bla bla ac ati...).

Dwi'n cefnogwr brwd o weithredoedd sy'n sicrhau dyfodol i ieithoedd lleiafrifol, ond dydi rhoi gair o Gymraeg ne' Aeleg yn rwla bob hyn a hyn (i blesio'r natives) yn g'neud dim ond trifialeiddio (sori, gair uffernol, ond dwi'm yn siwr sud arall i gyfleu hyn) yr ieithoedd hyn.

Rhaid i mi anghytuno, di o ddim yn dolurio chwaith i fagu mwy o sylwi i'r ieithoedd- cymaint o'r twrists o Ewrop sy'n gwybod yn y lle cyntaf bod na iaith frodorol yng Nghrymu? Dim llawer tybiwn. Mae 'na Ffrangeg ym mhob man yng Nghanada (hyd yn oed mewn dinasoedd heb unrhyw cyswllt hanesiol i'r iaith) ac...waw...mae pawb yn yr UDA yn gwybod bod gynnon ni ddwy iaith swyddogol. Cyd-ddigwyddiad? Falle, ond eto, di o ddim yn dolurio (pardwn yr ymadrodd Saeson).

Beth yw dy feini prawf ar feintiau? A ddylwn cael gwared o'r Gymraeg yng Nghymru felly? Pam ydy disgwyl sefydliadau cenedlaethol yn ein Prifddinas (Llundain) i ddangos 'Croeso' ar rai o'r arwyddion yn siarad shit? Cofia, fel mae'r Saeson yn hoffi mynnu - rydym yn rhan o'r DU. Dylai Llundain, sy mor falch o gynrychioli Prydain, wneud hynny'n go iawn.

Cytuno...

Ond fydd y Llywodraeth yn cytuno? Dyna'r cwestiwn. *miwsig iasol*
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 16 Ion 2009 9:04 pm

Kantorowicz a ddywedodd:(Ac yng Nghaeredin, hefyd - pa sôn am Aneirin a Chatraeth sydd ger y castell yn fan'na?).


Wel, fel mae'n digwydd, es i i Gastell Caeredin yn ddiweddar efo'r mab a phrynais i "Caisteal Dhùn Èideann" yno, rhyw dywyslyfr yn yr Aeleg. Ond 'doedd 'na ddim byd i'w gael yn y Gymraeg, dim son amdani, dim son an Aneirin, Catraeth, Mynyddog Mwynfawr, Manau Gododdin, Ystrad Clud, Rhydderch Hael, Trepren (Traprain Law). Yr unig le lle rydw i wedi dod o hyd i gofnod cyhoeddus an yr "Hen Ogledd" yw ar oror Lloegr o dan Yeavering Bell - lle mae'n cydnabod Gododdin a'r hen enw "Gafr Fryn" am y lle'na.

"Giff gaff, dhaly, dhaly, dhuc, dhuc" (os cofia i'n iawn) - chwedlau o'r Derwennydd ca. 600 OC.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Blewyn » Iau 12 Chw 2009 8:42 am

Wrth fynediad Carrefour yma yn Muscat...ag ym mysg cyfarchion mewn ieithoedd eraill....."Croeso"..
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Llundain Di-Gymraeg

Postiogan Aderyn Coch » Llun 02 Maw 2009 11:13 pm

Dw i'n cytuno yn llwyr - does dim digon o ddathliadau i'r ieithoedd gwahanol sy'n cael eu siarad ym Mhrydain. Mae'n warth mawr.
Mae'n uwch na 9000!
Rhithffurf defnyddiwr
Aderyn Coch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2008 7:46 pm
Lleoliad: Lerpwl/Cilgwri

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron