Dwi'n falch i weld nid yw pawb o'r barn 'Mother Jade' ac yn galw am fy stoning cyhoeddus. Yn sicr y wasg sydd wedi chwyddo hwn i fyny a chyhoedduswyr sydd wedi gwthio'r stori. Ydy Jade yn attention-junkie - wrth gwrs. Ydy hi am lwyth o arian i'w plant - wrth gwrs. A oes gennyf unrhyw beth yn erbyn Jade Goody yn bersonol - dim o gwbl.
A oes modd rhoi'r bai ar y cyhoedd felly am eu bod yn prynu'r crap hwn? Sut oes modd osgoi Jade Goody? Mae hi ar dudalen flaen pob papur cenedlaethol - a ydy hyn yn dweud bod y cyhoedd o blaid cael stori diderfyn hon dros y lle i gyd - neu ydy'n adlewyrchu diffyg dewis?
Ydych chi'n credu bydd Channel 4 yn fodlon talu i weld ei heiliadau olaf? Dwi'n meddwl yr actual eiliadau olaf?
[Mae hwn wedi digwydd o'r blaen - Cwpwl o £100K eto i goffyrs ei phlant.]
Os ydynt, a fyddech yn tiwnio mewn? Nawr bydde rhai yn dweud bod hwnna'n afiach, ond ydy'n mwy afiach nag olrhain dioddefaint a phoen unigolyn a'i theulu?