Tudalen 1 o 7

Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Llun 16 Maw 2009 8:42 pm
gan Duw
Dwi'n deall gallaf gael fy 'licence to shock' ei gymryd i ffwrdd am hyn, ond ydych chi'n teimlo fel fi? Hynny yw, jest marwa ffor ff** sêcs?

///GOLYGU///
Sori - unrhyw un sensitif mas 'na - a ydy'n amser i'r wasg rhoi ychydig o breifatrwydd i deulu Jade Goody felly ei bod yn gallu darfod gydag ychydig o hunan-barch?

O bolycs - inyff alredi.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Llun 16 Maw 2009 10:23 pm
gan ffwrchamotobeics
Cau dy geg a gwna dy waith cartref.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Llun 16 Maw 2009 11:18 pm
gan Dr Strangelove
:rolio:

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 9:18 am
gan Duw
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Cau dy geg a gwna dy waith cartref.

Na

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 9:43 am
gan Orcloth
Dwi'n cytuno - dwi di cael llond bol o weld storiau amdani bob dydd yn y papurau "top coch" na. Mae isio iddi fynd yn dawel bach gyda rhywfaint o urddas, fel wnaeth Wendy Richard rhyw bythefnos yn ol. Ond mae'n rhy hwyr rwan, tydi? Di gwerthu'i phriodas, ei bedydd et al i'r papurau, cylchgronau a Living TV, er mwyn gwneud pres i'r hogia. Toes ganddi'm dewis rwan, nagoes? Bydd rhaid iddi farw'n gyhoeddus hefyd.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 9:59 am
gan Duw
Diolch OC - llawer mwy eloquent nac oeddwn i'n gallu bod - "call a spade a shovel" a hwnna'i gyd. Ffwrch - os wyt yn anghytuno - gret ond paid a jest dweud 'cau dy geg' - beth yw dy safbwynt di, wyt ti'n credu bod ei gwyneb ar bob papur newydd am mis(oedd) wedi bod/yn peth da? Mother Teresa newydd y clefyd cancr?

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 10:09 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n lluchio fy nghefnogaeth tu ôl i Duw (er bod o ddim yn eloquent... :winc: ).

Y broblem fawr ydi bod y lol 'ma yn gwerthu papurau, a phobl sy'n prynu papurau de? I raddau dwi'n dallt pam ei bod isio hel arian i'w phlant ac ati, ond dydi'r ddynas ddim yn santes, a dydi o ddim yn drasig ei bod yn marw (heblaw i'w theulu afraid dweud) - dwi ddim isio rannu ym mhrofedigaeth neb arall, dwi'n meddwl bod o'n sad bod pobl isio gwneud hynny, a braidd yn sick bod y cyfryngau wrth eu bodd â hynny. Gan ddweud hynny hi'n sy'n eu gwahodd i bob man.

Dwnim wir - dwi'n meddwl y byddai marw gydag urddas yn gwneud mwy o les i'w phlant na'r arian a ddaw'r cyfryngau, ac mae hi'n filiwnes eisoes tydi? Ond dyna fy mhwt i.

(Gyda llaw peidiwch â phrynu ei chalendr 2009, dio mond yn mynd at fis Ebrill.......)

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 10:33 am
gan Macsen
Dwi'n meddwl bod y papurau newydd jesd eisiau iddi farw nawr. Mae'n mynd tipyn bach fel pan aeth y Pab yn sal iawn a roedd ffws mawr am ryw bythefnos wrth i gyfryngau'r byd wersylla tu allan i'r Fatican yn disgwyl iddo fynd. Wedyn dyma nhw'n colli mynedd dipyn bach a dechrau dweud bod o wedi marw pan oedd o ddim, wedyn dechrau talu llai o sylw i'r peth wrth i'r boi barhau i fod yn gwbwl afresymol a styfnig a gwrthod marw erbyn bwletin 10yp. Aeth o'n ei amser ei hun yn diwedd chwarae teg.

Dw i eisiau i Jade wneud adferiad llawn, er mwyn ei theulu ond hefyd i fynd ar nerfau yr holl ologyddion sydd eisoes wedi ysgrifennu llond papur newydd o rwtsh yn 'galaru' amdani.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 10:42 am
gan Hogyn o Rachub
Ia, ond chwarae teg i'r cyfryngau bryd hynny, mae'r Pab (p'un a ydych yn Babydd ai peidio) yn arweinydd moesol a chrefyddol i 1 o bob 6 o bobl y byd. Mae Jade Goody yn hilgi aeth ar raglen unwaith ac ennill arian o wneud dim byd. Gan ddweud hynny mae'n dweud cymaint am gymdeithas a'r cyfryngau bod mwy o sylw iddi hi nag oedd i'r Pab!

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 11:01 am
gan Macsen
Dwi'm yn beirniadu'r cyfryngau am roi sylw i'r ffaith bod y pab ar ei welu angau, ond yn achos y Pab a Jade Goody mae na ryw awgrym bod y cyfryngau yn rhoi pwysau arnyn nhw i farw, a ryw fath o 'emotional rubbernecking' reit afiach ynghlwm a'r ddau. Lwch, teulu/addolwyr yn galaru! Joio!