Tudalen 3 o 7

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 9:44 pm
gan sian
Orcloth a ddywedodd:Sori os dwi'n bod yn thic, ond be di IDGAF, plis Duw?


Sdim ots 'da fi ?

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 10:24 pm
gan Duw
sian a ddywedodd:
Orcloth a ddywedodd:Sori os dwi'n bod yn thic, ond be di IDGAF, plis Duw?


Sdim ots 'da fi ?


Haha - ie Sian - da iawn. :lol:

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 9:34 am
gan Orcloth
IDGAF - wel ia siwr! Mae o'n gneud sens rwan. Dwi'm digon hip i ddallt iaith yr ifanc, iaith tecstio, neu be bynnag ydio, nacdw!

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 8:24 pm
gan Duw
Nid mor ifanc cheeky. Ces fy nghyhuddo o fod yn ifanc (neu'n tw*t) gan rhywun eisoes (ble ath y sylwade 'ny????). Credu'r peth doetha i wneud nawr yw lladd off yr edefyn 'ma - roedd mewn bad taste uffernol a dwi wrthi'n mynd trwy'r milfed Hail Mary a chanfed Our Father.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 9:02 pm
gan Orcloth
Duw a ddywedodd:Nid mor ifanc cheeky. Ces fy nghyhuddo o fod yn ifanc (neu'n tw*t) gan rhywun eisoes (ble ath y sylwade 'ny????). Credu'r peth doetha i wneud nawr yw lladd off yr edefyn 'ma - roedd mewn bad taste uffernol a dwi wrthi'n mynd trwy'r milfed Hail Mary a chanfed Our Father.


Yn ol pob son, tydi be sydd di cael ei ddeud fan hyn ddim hanner mor ddrwg a be sy'n cael ei ddeud ar Facebook felly paid a phoeni. Bydd rhywun yn bownd o agor un arall ar ol iddi farw (os neith hi byth) eniwe.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 9:32 pm
gan Chickenfoot
Yr hyn sydd yn synnu fi yw bod pobl hefo gymaint o diddordeb yn y stori yma. Mae miloedd o mamau ifanc yn marw bob dydd, ac yn sydyn mae marwolaeth micro-seleb yn big news. Mae pobl yn son am y "Jade Factor", lle bod merched yn myn am brofion cancr y cervix oherwydd bod gan Jade Goody cancr. Mae hyn yn dda wrth gwrs, ond pam nad ydi pobl yn cymeryd sylw o hysbysebion am cancr o'r fath?

Mae'r cylchgronnau sydd yn gwneud pres o farwolaeth dynes yn ffiaidd - a dyna pam dw i'n ceisio osgoi pob adroddiad am Goody, ond mae'n gwylltio fi pan dw i'n gweld ei gwyneb hi ar bob papur yn y siop.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 9:40 pm
gan Defi
Reufeistr a ddywedodd:Hen bryd i'r gont wirion farw yndi. :lol:


Mae’n brofiad i bawb na ŵyr neb arall amdano.
Pob un ar ei ben ei hun yn ei ddull ei hun
Piau ei farw ei hun
Trwy filiynau blynyddoedd yr hil.
Gellir edrych arno, gellir weithiau adnabod yr eiliad;
Ni ellir cydymdeimlo â neb yn yr eiliad honno
Pan baid yr anadlu a’r person ynghyd.
Wedyn? Nid oes yn ymestyn i’r wedyn ond gweddi’n ymbalfalu.
Mor druan yw dyn, mor faban ei ddychymyg . . .
. . . Ac o’n cwmpas erys mudandod a’r pwll diddymdra
Y syrth ein bydysawd iddo’n gyfan ryw nos.
Ni all geiriau olrhain ymylon mudandod
Na dweud Duw gydag ystyr.
Un weddi sy’n aros i bawb, mynd yn fud at y mud.
S.L.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 12:46 am
gan ffwrchamotobeics
Duw a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Cau dy geg a gwna dy waith cartref.

Na


Tria eto, y pwrs.
Ma'r boi ma'n codi pwys ar rywun.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 1:00 am
gan ffwrchamotobeics
Defi a ddywedodd:
Reufeistr a ddywedodd:Hen bryd i'r gont wirion farw yndi. :lol:


Mae’n brofiad i bawb na ŵyr neb arall amdano.
Pob un ar ei ben ei hun yn ei ddull ei hun
Piau ei farw ei hun
Trwy filiynau blynyddoedd yr hil.
Gellir edrych arno, gellir weithiau adnabod yr eiliad;
Ni ellir cydymdeimlo â neb yn yr eiliad honno
Pan baid yr anadlu a’r person ynghyd.
Wedyn? Nid oes yn ymestyn i’r wedyn ond gweddi’n ymbalfalu.
Mor druan yw dyn, mor faban ei ddychymyg . . .
. . . Ac o’n cwmpas erys mudandod a’r pwll diddymdra
Y syrth ein bydysawd iddo’n gyfan ryw nos.
Ni all geiriau olrhain ymylon mudandod
Na dweud Duw gydag ystyr.
Un weddi sy’n aros i bawb, mynd yn fud at y mud.
S.L.


Oes na rywun yng nhofal y wefan 'ma? Hedd.plis, ma'n dechre mynd yn boncyrs, a Duw.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 4:38 am
gan Kez
ffwrchamotobeics a ddywedodd:

Oes na rywun yng nhofal y wefan 'ma? Hedd.plis, ma'n dechre mynd yn boncyrs, a Duw.


Ay - sim ishe bod yn gas wrth neb - oes e.

Ma gida Hedd hen ddigon i roi lan ag e nawr gida'r hwyaid yn ei ardd gefan heb fod e'n gorffod sorto'r dwli 'ma mas.

Mae'n neud jobyn gwell o lawer ohoni hi ar faes-e na'r pwll 'nath e i'r ffycin hwyaid druan sydd o dan ei ofal - felly, dylsan ni gyd fod yn ddiolchgar iawn.



Delwedd

ON. (own i 'na pan dynnodd e'r llun 'na - fi dowlodd yr un byw miwn i'r pwll; models plastig odd y lleill o ardd Mr Griffiths drws nesa)