Tudalen 6 o 7

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Llun 23 Maw 2009 6:02 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ray Diota a ddywedodd:sai'n gweld dim byd yn wath am agor edefyn am hon nag am unrhyw un arall. dwi'n meddwl bod y stori'n aruthrol o drist... ma'r ferch yn iau na fi ac ma'n dangos i bawb, dim jyst i ferched, bod afiechydon ofnadw'n gallu taro pobl beth bynnag eu hoed..

trist iawn weda i...


Odi, mae'n stori drist, ond mae rhagrith y cyfryngau ynghylch y mater 'ma'n codi cyfog arna' i.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 8:30 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
o mai god. ma' 'na bobol yn dechra grwps yn trafod a ddyla 'i phlant hi fyw neu farw rwan ar facebook. eh? ma' hyn yn afiach. oes ganddyn nhw hawl i siarad mor erchyll am blant ifanc ar fforwm gyhoeddus?
http://www.facebook.com/profile.php?id= ... topic=9062

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 8:33 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
a hwn 'fyd. dwi methu credu'r bobol 'ma.
http://www.facebook.com/profile.php?id= ... 781&ref=nf

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 11:18 am
gan Dai dom da

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 1:09 pm
gan Duw


Weden i bo Parky wedi bwrw'r hoelen ar ei phen. Chydig o sens o'r diwedd.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 1:49 pm
gan Chickenfoot
Yn wir, mae Parkyt wedi disgrifio'r sefyllfa'n berffaith. "12-page tribute to Jade" yn y Sun wythnos yma? O ddifri? Cue Max Clifford yn chwerthin yr holl ffordd i'r banc

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 1:52 pm
gan Dai dom da
Aye, dwi mor falch bod rhywun fel Parky wedi magu'r balls i weud hwn. Digon trist yw marwolaeth Jade, ond yn fwyaf trist yw'r ffws o'i hamgylch hi.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 3:57 pm
gan Mali
Ych a fi ...mae rhai o'r sylwadau 'na ar facebook yn uffernol o hyll , yn enwedig y rhai am y plant . :x
Newydd ddarllen geiriau Michael Parkinson , ac mae'n amlwg ei fod o , yn ogystal a nifer fawr o bobl yn y DU o wedi cael digon o'r holl 'sioe'.

Michaels comments are right and not a personal attack on Jade, but society.


Ac mae'r gymdeithas wedi dangos yr ochr waethaf posibl . :(

Mae 'na fwy i hyn na bywyd a marwolaeth Jade Goody ...mae'r papurau newydd , teledu a'r we yn ei drin fel math o sioe. :drwg: Doedd 'na fawr o sylw i fywyd na marwolaeth Jade Goody yma ...welish i un clip a barodd tua munud ar y teledu yn dweud am ei marwolaeth, a dyna i gyd ! Boicot sydd angen ...jyst peidwch a phrynu'r papurau newydd sydd yn mynd ymlaen ac ymlaen am y peth !
Mae 'na ferch ifanc wedi marw , ac mae'r sioe drosodd....

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Mer 08 Ebr 2009 4:58 pm
gan Kez
Credaf taw'r ffordd y bu iddi wynebu marwolaeth sydd bwysig - a chlod a pharch at bob un sy'n derbyn ei ddiwedd yn yr un modd.

Ys gwetws Dylan Thomas:

Do not go gentle into that good night,
Old age should burn and rave at close of day;
Rage, rage against the dying of the light.


Dyna beth 'nath hi, a hitha mor ifanc ac mae llawer un tebyg iddi - hen ac ifanc. Cofio ei brwydr derfynol hi mae pobol, nid Jade Goody y 'celebrity'.

Re: Jade Goody - Amser Mynd?

PostioPostiwyd: Llun 29 Meh 2009 9:29 am
gan Rhodri