Ian Tomlinson

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ian Tomlinson

Postiogan Duw » Mer 08 Ebr 2009 9:45 pm

Josgin a ddywedodd:Dwi'n gweithio gyda cyn-blisman, ac yn y llu y bu'n gweithio iddi, nid oedd dim byd ond gwawd am y 'Met ' . Maent gyda safonau dipyn is na'n lluoedd ni yng Nghymru. Mae'r llunianu'n anhygolel. Deallaf fod y plismon euog bellach wedi dod i'r fei.
Yn y 70' u, y dywediad amdanynt oedd ' An efficient police force is one which catches more crooks than it employs' .


Mae'n rhaid cytuno Jos, mae'r pplismyn dwi wedi cwrdd ac yn adnabod i weld yn fois iawn. Pob parch iddynt am wneud y gwaith mae'n nhw'n ei wneud - allen i byth ei wneud - gormod o gachgi. Mae gweithred un mochyn yn anffodus yn cachu ar y wasanaeth cyfan.

Parthed llofruddiaeth - dwi'm meddwl bod modd cyhuddo person o hyn heb law bod bwriad lladd. O ran dynladdiad, efalle bod modd dilyn hyn. Dwi'n cofio achosion lle bo hen fois wedi marw o drawiadau wrth daclo iobs yn creu stwr tu allan i'w cartrefi. Y peth caletaf yw cysylltu'r digwyddiad gyda'r trawiad. Pwy sydd i ddweud na fydde wedi cael trawiad beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ian Tomlinson

Postiogan ap Dafydd » Iau 09 Ebr 2009 6:32 pm

Mae'r ysbryd Blair Peach yn cerdded eto...
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: Ian Tomlinson

Postiogan Josgin » Iau 09 Ebr 2009 9:22 pm

Dwi'n cofio protestio yn erbyn Ledi Di a'i pric-pwdin o wr ym Mangor yn 1981. Yr oeddem yn gweiddi pethau ffiaidd ar y par priodasol (an) hapus, ac wrth ein boddau (na , dwi'n dyfaru dim) Fe wnaeth un o'r plismyn wylltio'n gacwn a dechrau rhoi cweir go iawn i ferch oedd yn protestio.
Y gri wedyn oedd ' Who killed Blair Peach ' ac ' SPG ! , SPG ! '

Y Special Patrol Group oedd y rhan o'r Met a roddodd enw dychrynllyd i'r heddlu ymysg pobl croenddu yn y 70'au a'r 80'au .

Wedi dweud hynny , mae'n saith gwaeth yn Ffrainc. Mae eu heddlu reiat hwy , y 'CRS' , yn atebol i'r gwenidog amddiffyn .
Mae eu hymateb hwy i unrhyw fath o derfysg yn 'ddigyfaddawd' , a dweud y lleiaf .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Ian Tomlinson

Postiogan Doctor Sanchez » Iau 09 Ebr 2009 9:52 pm

Duw a ddywedodd:
Josgin a ddywedodd:Dwi'n gweithio gyda cyn-blisman, ac yn y llu y bu'n gweithio iddi, nid oedd dim byd ond gwawd am y 'Met ' . Maent gyda safonau dipyn is na'n lluoedd ni yng Nghymru. Mae'r llunianu'n anhygolel. Deallaf fod y plismon euog bellach wedi dod i'r fei.
Yn y 70' u, y dywediad amdanynt oedd ' An efficient police force is one which catches more crooks than it employs' .


Mae'n rhaid cytuno Jos, mae'r pplismyn dwi wedi cwrdd ac yn adnabod i weld yn fois iawn. Pob parch iddynt am wneud y gwaith mae'n nhw'n ei wneud - allen i byth ei wneud - gormod o gachgi. Mae gweithred un mochyn yn anffodus yn cachu ar y wasanaeth cyfan.

Parthed llofruddiaeth - dwi'm meddwl bod modd cyhuddo person o hyn heb law bod bwriad lladd. O ran dynladdiad, efalle bod modd dilyn hyn. Dwi'n cofio achosion lle bo hen fois wedi marw o drawiadau wrth daclo iobs yn creu stwr tu allan i'w cartrefi. Y peth caletaf yw cysylltu'r digwyddiad gyda'r trawiad. Pwy sydd i ddweud na fydde wedi cael trawiad beth bynnag.


Dwi'n nabod moch unigol hefyd ac ma heini hefyd yn fois iawn. Pan ti'n eu cael nhw mewn criw, mewn unedau yn gweithio ar ran y wladwriaeth mae'n nhw'n troi rywsut i fod yn fasdads brwnt, di-deimlad a digydwybod.

I gael mynd yn ol at streic y glowyr fe driodd llawer inseitio'r glowyr drwy chwifio papurau decpunt o'u blaenau h.y diolch i chi am dalu am yn overtime i. A sbia ar y footage fel oedd y ffycars yn cael gafael ar un neu ddau yn unigol a'u leinio nhw efo pastynau.

Dyna oedd y peth mwya trawiadol o'r fideo Ian Tomlinson. Y mochyn na'n gweld unigolyn diniwed ar ben ei hun ac yn penderfynu trio edrych yn galed o flaen ei fets. Os oedd o'n uniongyrchol gyfrifol am ladd y diniweidyn yma fydd neb yn gallu brofi sw'n i'n feddwl, ond mi ddylai y mochyn mewn cwestiwn gael y sach am golbio boi diniwed beth bynnag.

Dydy moch mewn criw yn ddim ond glorified hwligans yn y marn i
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ian Tomlinson

Postiogan Doctor Sanchez » Iau 16 Ebr 2009 9:26 am



Un arall :rolio:

A mae angen cofio mae ffyc yp arall gin y cops oedd Hillsborough. Heddwch eu llwch
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron