Dwi wedi cyfieithu'r llythyr drafft sydd ar gael i'w anfon at Aelodau Seneddol:
Annwyl (Enw'r aelod),
Erbyn hyn, mae'n debyg eich bod wedi gweld y fideo dychrynllyd sy'n dangos heddwas yn ymosod ar aelod o'r cyhoedd - Ian Tomlinson - oedd yn digwydd bod yn cerdded heibio un o'r gwrthdystiadau G20.
Ymosodwyd arno â baton o'r tu ôl gan heddwas, trawodd ei ben y llawr, ac yn ddiweddarach bu farw.
Mae'r heddlu'n ddiedifar am ei farwolaeth, ac wedi disgrifio'u gweithredoedd fel 'cadw'r drefn' ar Radio 4 heddiw.
Mae'n anodd credu hyn ar ôl gweld y fideo. Mae'n rhesymol amlwg nad oedd Tomlinson yn fygythiad i neb, nac yn achosi trafferth. Pe bai'r swyddog yn aelod o'r cyhoedd - yn dal baton ac yn taro rhywun i'r llawr, a bod hwnnw'n marw'n ddiweddarach o ganlyniad - byddai'n debyg o gael ei garcharu. Ond oherwydd bod y troseddwr yn aelod o'r heddlu mae'n ymddangos nad yw'r un peth yn wir.
Mae'r heddweision perthnasol, a'r ffordd y mae'r mater wedi'i drin hyd yma, wedi dangos amharch at y gyfraith a diffyg urddas llwyr. Mae hynny'n dinistrio hyder y cyhoedd yn yr heddlu.
Os gwelwch yn dda - rwy'n erfyn arnoch i godi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin a phwyso ar yr heddlu er mwyn sicrhau cyfiawnder.
Yn gywir,