Re: Ian Tomlinson
Postiwyd: Mer 08 Ebr 2009 9:45 pm
Josgin a ddywedodd:Dwi'n gweithio gyda cyn-blisman, ac yn y llu y bu'n gweithio iddi, nid oedd dim byd ond gwawd am y 'Met ' . Maent gyda safonau dipyn is na'n lluoedd ni yng Nghymru. Mae'r llunianu'n anhygolel. Deallaf fod y plismon euog bellach wedi dod i'r fei.
Yn y 70' u, y dywediad amdanynt oedd ' An efficient police force is one which catches more crooks than it employs' .
Mae'n rhaid cytuno Jos, mae'r pplismyn dwi wedi cwrdd ac yn adnabod i weld yn fois iawn. Pob parch iddynt am wneud y gwaith mae'n nhw'n ei wneud - allen i byth ei wneud - gormod o gachgi. Mae gweithred un mochyn yn anffodus yn cachu ar y wasanaeth cyfan.
Parthed llofruddiaeth - dwi'm meddwl bod modd cyhuddo person o hyn heb law bod bwriad lladd. O ran dynladdiad, efalle bod modd dilyn hyn. Dwi'n cofio achosion lle bo hen fois wedi marw o drawiadau wrth daclo iobs yn creu stwr tu allan i'w cartrefi. Y peth caletaf yw cysylltu'r digwyddiad gyda'r trawiad. Pwy sydd i ddweud na fydde wedi cael trawiad beth bynnag.