Y Gyllideb

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Gyllideb

Postiogan ceribethlem » Iau 23 Ebr 2009 11:01 am

Dim lot o son ar y maes 'ma am y gyllideb.

Y rhan sy'n fy niddori i mwy na dim ar hyn o bryd yw'r cynllun i gynnig £2,000 tuag at sgrapio ceir dros 10 mlwydd oed. Mae nghar i'n ddeng mlwydd oed, ac o'n i'n bwriadu cael i (cymharol) newydd yn fuan.

Oes unrhywun yn gwybod os fydd y cynllun yma'n gweithio tuag at brynnu ceir sydd bron yn newydd (h.y. rhyw flwydd oed) neu ife ceir newydd sbon yn unig bydd yn cael y cynnig yma.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Y Gyllideb

Postiogan iwmorg » Iau 23 Ebr 2009 7:17 pm

Dwi wedi edrych ar y manylion.....

Tra mae'r cynllun yn yr Almaen yn caniatau'r hyn ti'n grybwyll, dim ond ar gyfer ceir newydd sbon, heb eu cofrestru mae'r cynllun yma ym Mhrydain....... Sydd yn ei wneud yn shitty a dim byd ond gimmick mewn gwirionedd. Dwi'm yn un am ladd ar llywodraeth jyst er mwyn gwneud, ond mae'r cynllun yn dipyn o joc. Y realiti ydi - os ei di i garej gydag arian parod, neu hyd yn oed angen 'finance' i'w brynu, mi elli di negodi gostyngiad da, yn enwedig ar un sydd yn pre-reg (ond dal yn newydd sbon).

Yn ol Parkers, mae gwneuthurwyr ceir ar gyfartaledd wedi codi 'list prices' ceir newydd hyd at 8.5% dros y misoedd dwythaf mewn disgwyliad am y cynllun yma. enghraifft da yw'r ford focus- car cyffredin iawn ar y ffyrdd. Mi gymerwn y model mwyaf cyffredin - y 1.6 Zetec

list price Ionawr 09 - £15,806
list price heddiw - £17,040

sydd yn wahaniaeth o £1234, a fel 'roeddwn yn dweud does dim cyfle i negodi gotsyngiad da 'chwaith.

Fel dwi'n dweud dim cwyno 'ffor ddy sake of it' ydw i, ond pan da chi'n ystyried fod y llywodraeth yn gwario £300m ar y cynllun yma, tra'n codi treth gwerth £600m ar danwydd o fis Medi, mae'n codi'r cwestiwn beth yw'r pwynt??

Fy nhyngor i fyddai gwerthu dy gar 10 oed yn breifat, a mynd a'r arian i'r 'dealer' a chael disgownt da ar gar 'bron yn newydd'!
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Re: Y Gyllideb

Postiogan ceribethlem » Iau 23 Ebr 2009 9:40 pm

iwmorg a ddywedodd:Dwi wedi edrych ar y manylion.....

Tra mae'r cynllun yn yr Almaen yn caniatau'r hyn ti'n grybwyll, dim ond ar gyfer ceir newydd sbon, heb eu cofrestru mae'r cynllun yma ym Mhrydain....... Sydd yn ei wneud yn shitty a dim byd ond gimmick mewn gwirionedd. Dwi'm yn un am ladd ar llywodraeth jyst er mwyn gwneud, ond mae'r cynllun yn dipyn o joc. Y realiti ydi - os ei di i garej gydag arian parod, neu hyd yn oed angen 'finance' i'w brynu, mi elli di negodi gostyngiad da, yn enwedig ar un sydd yn pre-reg (ond dal yn newydd sbon).

Yn ol Parkers, mae gwneuthurwyr ceir ar gyfartaledd wedi codi 'list prices' ceir newydd hyd at 8.5% dros y misoedd dwythaf mewn disgwyliad am y cynllun yma. enghraifft da yw'r ford focus- car cyffredin iawn ar y ffyrdd. Mi gymerwn y model mwyaf cyffredin - y 1.6 Zetec

list price Ionawr 09 - £15,806
list price heddiw - £17,040

sydd yn wahaniaeth o £1234, a fel 'roeddwn yn dweud does dim cyfle i negodi gotsyngiad da 'chwaith.

Fel dwi'n dweud dim cwyno 'ffor ddy sake of it' ydw i, ond pan da chi'n ystyried fod y llywodraeth yn gwario £300m ar y cynllun yma, tra'n codi treth gwerth £600m ar danwydd o fis Medi, mae'n codi'r cwestiwn beth yw'r pwynt??

Fy nhyngor i fyddai gwerthu dy gar 10 oed yn breifat, a mynd a'r arian i'r 'dealer' a chael disgownt da ar gar 'bron yn newydd'!

Diolchaf iwmorg. Fi ddim yn credu ga'i lot am nghar 10 oed, felly gofyn am part-exchange oedd y bwriad, wedyn talu'n syth am yr un blwydd oed. Cawn weld, byddai'n gofyn faint o part-ex alla i gael.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron