Tudalen 1 o 2

Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 9:18 pm
gan Hedd Gwynfor
Methu credu rhai o'r pethau. AS Llafur yn hawlio £1.11 am Tampax. AS Gwrywaidd! :ofn:

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 6:31 am
gan Duw
Jest wedi gweld rhestr Ms. Blears - ffiaidd.

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 4:43 pm
gan Ray Diota
anhygoel... ma gwleidyddion, o'u natur, yn meddwl bo nhw'n sbeshal, ond ma fel se nhw di anghofio bo nhw'n cael talu am bethe 'u hunain... fel se nhw'n meddwl bod 'u cyflog nhw ar gyfer cynilo...



One former Labour minister said: "I object to your decision not to reimburse me for the costs of purchasing a baby's cot for use in my London home... perhaps you might write to me explaining where my son should sleep next time he visits me in London?"

A Tory MP attempting to claim £5,347 for a new kitchen wrote: "The work surfaces are no longer hygienic and the sink unit, which is an old brown plastic double bowl, is scratched and very ugly."

A backbench Labour MP wrote: "I appreciate you are under severe pressure... but, as I explained on the phone, I am away for two weeks and I don't want to leave my family destitute."

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 4:53 pm
gan Ray Diota
Profile: Phil Hope

Job: Minister of State for Care Services in Department of Health, Minister for the East Midlands

Salary: £105,412

Total second home claims

2004-05: £20,763

2005-06: £19,420

2006-07: £22,110

2007-08: £21,361


can mil y flwyddyn a ffaelu hydnoed fforddio barbecue...

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 6:37 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae na lot o bethau sy'n warthus dros ben, anhygoel ac ati, ond rhaid cofio hyn: mae basic ein hAS ni yn llai o lawer na basic y mwyafrif o aelodau o'r fath mewn mannau eraill yn Ewrop. Felly mae "diwylliant treuliau" wedi tyfu yn eu plith nhw er mwyn cael incwm sy'n cyfateb i hwnnw cynrychiolwyr cenedlaethol eraill yn Ewrop. Dim esgus, ond rhywbeth i gofio amdano.

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 10:05 pm
gan aled g job
Mae'r straeon am dreuliau'r aelodau seneddol yn rhyfeddol, ond be sydd yr un mor ryfeddol ydi ymateb y gwleidyddion i'r ffaith bod y cyhoedd o'r diwedd yn cael gweld be'n union y mae eu haelodau seneddol wedi bod yn ei hawlio dros y blynyddoedd. Gordon Brown yn dweud mai'r "system" sydd ar fai, gan anghofio'n gyfleus iawn ei fod o wedi bod yn rhan ganolog o'r "system" am 12 mlynedd; Harriet harman wedyn gyda'r ddadl bitw nad oedd y llygredd yng Ngwledydd Prydain cynddrwg a'r hyn i'w weld yng ngweddill y byd a dyna chi awdurodau'r ty cyffredin wedyn yn hawlio mai'r drosedd waethaf yn hyn oll ydi fod yna rhywun yn rhywle wedi rhyddhau'r manylion hyn i'r wasg. Os oedd angen prawf o gwbl am fodolaeth "The political class" yng Ngwledydd Prydain sydd yn bodoli'n unig er mwyn gwasnaethau buddiannau eu hunain ar draws ffiniau pleidiol ac sy'n gwbl fyddar i anghenion yr etholwyr mewn gwirionedd( testun llyfr gwych gan peter osborne yn ddiweddar) wel does dim angen chwilio ymhellach nagoes.

Y cwestiwn diddorol, gyda mwy o fanylion am y gwrth-bleidiau i'w cyhoeddi dros y dyddiau nesaf, ydi be nesaf? Yn eironig iawn, er mai llafur newydd sydd o dan y lach fel y blaid lywodraethol, dwi'n meddwl y gall hyn oll fod o fudd i Lafur ar un ystyr. Hynny ydi, mae'n ddigon posib y gwelan ni ddegau, os nad cannoedd o ffigyrau tebyg i martin bell yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf o dan y faner "a plague on all your houses" math o beth; fe all llwyddiant y "blaid" hon olygu na chaiff y ceidwadwyr fawr o fwyafrif yn yr etholiad ac fe fydd Ty'r Cyffredin nesaf yn le cwbl wahanol. Iawn, bydd Llafur ei hun wedi'i wastrodi, ond o gofio mai casineb at y toriaid ydi'r unig beth sy'n uno'r blaid lafur ar hyn o bryd, byddai gweld y toriaid yn gorfod rheoli ar fandad denau iawn yn ddigon i gadw gweddillion y blaid lafur yn hapus am flynyddoedd. Ac o gofio'r cysylltiadau agos sydd wedi bod rhwng Y Blaid Lafur a'r Daily Telegraph dros y blynyddoedd dwytha, tybed yn wir os mai polisi "scorched earth" fel hyn ydi'r agenda tu ol i'r agenda ?

Pe bawn i'n Gordon Brown, mi fyddwn i'n galw etholiad cyffredinol ddyddiau wedi i fanylion gwaethaf am y Blaid Geidwadol ymddangos. Mewn stroc, gallai danseilio hynny yn ei blaid ei hun sydd am gael gwared arno, ac fe allai gyflwyno'i hun i'r cyhoedd fel arweinydd "egwyddorol" sy'n cydnabod bod hyn yn sgandal mor ddifrifol nes bod rhaid cael etholiad cyffredinol ! Ond a fydd gan "bottler brown" y dychymyg i weithredu cynllun fel hyn?

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 11:35 am
gan Duw
Mae AS Prydain yn ennill llai na gwleidyddwyr gweddill Ewrop. Ac? Beth yw'r ddadl? Mae nyrsys rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn ennill yn fwy na rhai Prydain. Dwi ddim yn gweld nyrsys yn hawlio miloedd ar ben miloedd o bercs.

Mae hawlio am ail gatre'n iawn - dyle hwn fod am rent yn unig. Falle sicrhau'r sylfeini yn y lle. Pam nac ydy rhyw sefydliad fel Housing Association yn gyfrifol am osod ail gatre iddynt?

Mae un AS wedi prynu fflat am £380,000 gydag arian y cyhoedd ac yna wedi'i werthu am £800,000. Rhwng 10-20 blynedd o gyflog i ran fwyaf o'r Cymry!


Mae'r ffaith bod AS yn gallu ennill dros £100K yn achosi person i dagu. Beth yw'r sbardun sy'n achosi person i fynd am swydd AS? Arian? Gweision Cyhoeddus ydynt ar ddiwedd hi. Pryd ddiawl a wnaeth gwas ennill mwy na'i feistr (e.e. cyfartaledd incwm Prydain)?

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 4:28 pm
gan Ray Diota
Duw a ddywedodd:Mae AS Prydain yn ennill llai na gwleidyddwyr gweddill Ewrop. Ac? Beth yw'r ddadl?


erthygl eitha diddorol sy'n dod yn agos at ateb dy gwestiwn di...

http://www.guardian.co.uk/politics/2009 ... rdon-brown

ond wedyn, dwi ddim yn derbyn, wir, bod cyflogau gwleidyddion yn rhy isel. Y ddadl yw bod angen cyflog swmpus i ddenu'r gorau i'r proffesiwn... ond am bob gwleidydd a allai fod yn ennill mwy (ma rhai, fel Hague a Ken Clarke yn ennill yr arian mawr yn ogystal...a hynny'n ddighon teg sbo) ma na 10 gwleidydd sy'n lwcus y diawl i gal y fath arian yn y lle cynta...

help 'da rent dylsen nhw gal... dim help 'da prynu ail gartref...

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 5:16 pm
gan Duw
Ray Diota a ddywedodd:Y ddadl yw bod angen cyflog swmpus i ddenu'r gorau i'r proffesiwn


Dwi'n deall y pwynt hwnnw. Ond mae'r ddadl honno'n wir am bob proffesiwn (dwi'n cofio'r un ddadl parthed bancwyr a'u bonysys). A ddylwn dalu mwy i athrawon felly bo'r goreuon yn ein cymdeithas yn mynd am y swydd? Bydde hwn yn sicrhau taw'r goreuon a oedd yn dysgu'n plant? Posib, er dwi'n meddwl ei fod dal yn dod lawr i'r ffaith bod pobl yn dilyn swydd oherwydd dyna'r hyn maent am ei wneud. Allen i fod yn wleidydd am gyfnod byr (am yr arian - OK big iff fy mod digon da i wneud y swydd/cael f'ethol), ond yna rhoi'r gorau i'r holl busnes hurt bydde'n rhaid i mi ei wneud.

Rydym wedi cynnig lwyfansau mawr i ddenu athrawon i'n hysgol yn y gorffennol. Yn wir mae'r arian wedi codi mwy o ddirddordeb. Cafodd 'high-flyers' eu penodi, dim ond i adael addysg ymhen sawl blynedd oherwydd nid dyna beth oeddent am wneud.

Bydd cynnig arian mawr i rywun yn ,efallai, gweithio mewn diwydiant, lle bo cystadlu rhwng cwmnie. A ddyle hwn fod yn wir am wleidyddiaeth?

Rho cyflog ar gyfataledd Prydain iddynt a wedyn, falle, gwelwn pobl sy wir angen gwneud gwahaniaeth yn llenwi Ty'r Cyffredin.

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 10:32 pm
gan Cardi Bach
Ray Diota a ddywedodd:Y ddadl yw bod angen cyflog swmpus i ddenu'r gorau i'r proffesiwn


Fi byth wedi cytuno'n llawn gyda'r ddadl yma, o achos mewn democratiaeth, o'i weithredu yn iawn (ac mae'n gwestiwn a yw yn cael ei weithredu yn iawn ym Mhrydain beth bynnag) does dim gwahaniaeth beth yw safon proffesiynnol yr ymgeisydd, dylai fod ganddo/i yr un cyfle a'r person nesaf i ennill etholiad. Sut mai diffinio y person gorau yn hyn o beth? Nid cyfweliad swydd cyffredin mo etholiad i fod, ond trafod syniadaethau gwleidyddol a chynnig ffordd i lywodraethu llywodraeth yn unol a set o egwyddorion/moesau etc