Tudalen 2 o 2

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 2:47 pm
gan Darth Sgonsan
rhaid dileu'r pyrcs yn llwyr, gosod cwch anfarth ar y Tafwys a rhoi'r gwleidyddion i gysgu ynddy fo

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 2:50 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae'n rhoi i-pod Nick Bourne i mewn i bersbectif....!

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 8:12 pm
gan Seonaidh/Sioni
Darth Sgonsan a ddywedodd:rhaid dileu'r pyrcs yn llwyr, gosod cwch anfarth ar y Tafwys a rhoi'r gwleidyddion i gysgu ynddy fo

O ie, dwi'n cofio rhywbeth, flynyddoedd yn ol, am "prison ships"....

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 8:36 pm
gan Duw
Clywed David Cameron yn ddiweddar? Ho ho ho. Licsen i weld gwynebe rhai o'i gyn-ffrindie!

Clywes i David Davies yn siarad ar RC bore 'ma'n mynnu bod hawl gan wleidyddion i hyn a'r llall. Cytuno gyda rhai o'i ddatganiade mae'n rhai dweud, ond dwi ddim yn deall pam nac ydy'r system yn mynnu ty/fflat gyda chelfi i'w rentu (rent yn cael ei dalu drostynt). Nhw dyle fod yn gyfrifol wedyn am goste eraill.

Roedd yn datgan nid oedd y pwyr dabs yn mynd i'w gwelie tan hwyr ac yn codi'n gynnar. Os felly, faint o blydi foeth sy eisie arnyn nhw?

Mae llwyth o weithwyr yn gorfod byw bant o'u cartrefi am gyfnode hir iawn - rheini ar y rigiau olew, long-distance lorry drivers, adeiladwyr ....

Caiff y rheini bugger all o ran ail gatre. Iawn, posib gwnewn nhw gael eu rhoi lan mewn gwestai o dro i dro, ond nid ydynt yn cael prynu celfi eu hunain neu gwerthu'r gwesty am elw wedyn.

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Gwe 22 Mai 2009 10:52 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 23 Mai 2009 1:48 pm
gan aled g job
Wedi pythefnos o stori treuliau'r aelodau seneddol, beth ydi barn maeswyr am y sgandal erbyn hyn?

Yn bersonol, fedrai'm gweld sut y gellid gwrthsefyll y galwadau cynyddol am etholiad cyffredinol llawer iawn mwy . Pe bae'r pleidiau'n gobeithio y byddai wythnos o wyliau yn lleddfu digofaint y cyhoedd rhywfaint, doedd ond angen edrych ar yr ymateb ffyrnig a gafodd Andrew Mackay yn Bracknell neithiwr i weld mai gwag obeithio llwyr oedd hyn. Be oedd yn anhygoel oedd y modd y bu i'r AS hwn drio sbinio i'r cyfryngau bod tri-chwarter y gynulleidfa o'i blaid, dim ond i aelod o'r cyhoedd ei herio y fyw ar yr awyr gan ddweud bod dweud hynny yn camliwio'r cyfarfod yn llwyr. Roedd wyneb Mckay yn bictiwr wrth weld aelod o'r cyhoedd yn ei herio yn y ffasiw nfodd- roedd o'n enghraifft pwerus iawn o "people power"ar waith. Mwy o hyn sy'n wynebu Aelodau Seneddol o bob plaid dros y dyddiau a wythnosau nesaf. Gyda'r Senedd a'i chynrychiolwyr wedi colli ffydd pobl i'r ffasiwn raddau, pa hawl moesol sydd ganddyn nhw i ddal ati i drafod a pasio deddfau sy'n effeithio ar bawb ohonom a pham ddylai'r cyhoedd gymryd unrhyw sylw o'r deddfau hyn bellach? Mae hyn yn rysait am wrthdaro sifil mewn gwirionedd- a phe bai hyn oll wedi digwydd yn Ffrainc, siawns y byddai'r baricades i fyny bellach!

Mae'r rhai hynny sy'n dadlau bod rhaid sortio'r busnes treuliau gyntaf cyn cael etholiad yn chwarae i ddwylo Bunker Brown sy'n gobeithio sefydlu proses fiwrocrataidd araf i edrych i mewn i'r peth gan ladd y diddordeb cyhoeddus. Ond beth mewn difri sy'n rhwystro'r pleidiau, neu'r aelodau senedddol eu hunain o ran hynny, rhag cyhoeddi'r holl dreuliau ar lein rwan hyn, fel bo modd i bawb allu gweld beth ydi'r darlun yn llawn?

Dwi'n meddwl y gallai'r Daily Telegraph helpu yn hyn o beth, yn enwedig o gofio bod ganddyn nhw golofn olygyddol heddiw sy'n galw am etholiad. Hynny ydi , pam na allen nhw greu gwefan arbennig gyda manylion pob aelod seneddol, fesul etholaeth, arno, fel bo modd i'r cyhoedd weld y ffeithiau'n uniongyrchol am eu cynrychiolwyr lleol? Dwi'n edmygu'r Telegraph yn fawr am yr hyn y maent wedi'i wneud hyd yma, ond os ydyn nhw'n bwriadu dal ati hefo'r cyrchddull drip-drip hyn am wythnosau eto, mae gen i ofn y bydda nhw'n colli'r tir moesol uchel y maent yn sefyll arno a hyn o bryd. Mae'n rhaid cael yr holl wybodaeth allan i'r parth cyhoeddus mor fuan a phosib ac fe allen nhw wneud hynny gan gadw gafael ar y stori yr un pryd.

Roedd Llafur Newydd yn wynebu chwalfa etholiadol yn barod wrth gwrs a dim ond cyflymu'r broses honno y mae'r sgandal hon. Ond, mae'n sefyllfa anodd iawn i'r Ceidwadwyr hefyd gan eu bod hwythau yn ei chanol hi hefyd. Er fod Cameron wedi ei chwarae hi'n reit ddeheuig hyd yma, y perig iddo fo ydi po fwyaf o amser aiff heibio rwan cyn etholiad, po fwyaf o gyfle fydd yna i'r Independents drefnu eu hunain yn rym etholiadol o bwys. Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn dangos faint o ruddin arweinyddol sy'n perthyn i Cameron go iawn. Fydd ganddo'r gyts i gael gwared ar rai o'i aelodau mwyaf trachwantus rwan hyn rhagor na gadael iddyn nhw ddweud na fydda nhw'n sefyll yn yr etholiad nesaf; fydd ganddo'r gyts i drefnu bod ei holl aelodau'n sefyll i lawr gyda'i gilydd er mwyn adleisio'r galwad cyhoeddus am etholiad cyffredinol?

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 23 Mai 2009 2:05 pm
gan dawncyfarwydd
Mae hwn yn fusnes anodd, oherwydd dwi ddim yn credu bod hawlio treuliau am soffa neu rywbeth ynddo'i hun yn anghywir.

Y maen prawf ydi y dylai hawl AS fod yn union yr un peth ag un aelod o'r cyhoedd. Ddylai neb orfod mynd i'w boced i fod yn AS. Gan fod y swydd yn gorfodi AS i fyw mewn dau le, fe ddylen nhw gael lle i fyw wedi'i ddodrefnu a phob dim yn Llundain. Dim bwyd, dim lwfans teithio, dim gwelliannau sydd ddim yn angenrheidiol.

Os nad ydi hyn yn digwydd, dim ond Toris cyfoethog a Llafurwyr wedi'u noddi gan undebau fydd yn y Senedd.

Mae £24k y flwyddyn yn ddigon rhesymol i gynnal ail dŷ yn Llundain, a ddylai neb warafun hynny i AS. Beth sydd wedi digwydd ydi bod pobl wedi rhoi unrhyw dderbynneb gyfleus i'r Fees Office er mwyn cael y pres sy'n ddyledus iddyn nhw. Beth mae'r Telegraph yn ei wneud ydi ffendio receipts a dweud 'O na, mae **** yn meddwl mai NI ddylai dalu am ei silffoedd llyfrau' pan mai'r hyn sydd wedi digwydd ydi bod AS wedi ffendio pa receipts bynnag y gall er mwyn gallu cael y pres y mae arno'i angen.

Wrth gwrs, mae 'na rai pobl wedi mynd â hyn yn rhy bell - ac mae'r busnes 'fflipio' yn amlwg yn anghywir, fel y mae gwneud gwelliannau sy'n codi gwerth y tŷ yn annheg, fel y mae gwneud elw o werthu tŷ y mae'r trethdalwr mwy neu lai yn berchen arno.

Dwi'n meddwl mai'r peth hawsaf i'w wneud fyddai prynu bloc o fflatiau, eu dodrefnu, a gadael i ASau fyw yno. Problem solved.

O ran y wleidyddiaeth, mae'n bleser gweld y fath drybini yn San Steffan, ac mae sgandal sydd yn effeithio Llafur a'r Toris i'r un graddau yn ardderchog.

Re: Treuliau Aelodau Seneddol

PostioPostiwyd: Sad 23 Mai 2009 4:15 pm
gan Duw
dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai'r peth hawsaf i'w wneud fyddai prynu bloc o fflatiau, eu dodrefnu, a gadael i ASau fyw yno. Problem solved.


Cytuno - digon hawdd i'w wneud dwi'n siwr.