gan HuwJones » Llun 22 Meh 2009 8:31 am
Gyda hunaniaeth Saesneg mor cysylltiedig ag dominyddol, imperialaeth, rhyfel, monarchiaeth, hiliaeth a phob fath o bethe ycha-fi eraill mae'n ddifyr iawn i weld sut mae rhai pobl leffti Lloegr yn chwilio am hunaniaeth newydd positif. Chwarae teg iddyn nhw ac mae'n dda bod bobl Y Blaid a'r SNP yn cymyrd rhan yn eu trafodaethau.
Mae'n sefyllfa boncars bod Cymru, Yr Alban a'r 6 Sir efo rhywfath o Gynulliadau, ond ddim system ffederal yn cynnwys Lloegr.. yr holl beth yn seiliedig ar syniad Fictoriaid Imperialaidd bod Llundain yw canolbwynt y bydysawd ond gall rhoi bach o hunain lywodraeth i'r naitives ar yr ymylon pell.
Yn anffodus i bobl Cymru a Lloegr ac i'r trafodaeth fel sydd ar y linc i'r wefan yno, mae miliwn o bobl newydd pleidlliesio i'r BNP, mwy byth am UKIP ac mae'r Toris ar eu ffordd nol gyda pethe lyfli fel "Armed Services Day" ar ben eu hagenda..
Be nei di??