Tudalen 1 o 1

Breaking Up Britain

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 1:06 pm
gan Mihangel Macintosh
Erthygl diddorol am lyfr Mark Perry 'Breaking Up Britain'.

Re: Breaking Up Britain

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 8:31 am
gan HuwJones
Gyda hunaniaeth Saesneg mor cysylltiedig ag dominyddol, imperialaeth, rhyfel, monarchiaeth, hiliaeth a phob fath o bethe ycha-fi eraill mae'n ddifyr iawn i weld sut mae rhai pobl leffti Lloegr yn chwilio am hunaniaeth newydd positif. Chwarae teg iddyn nhw ac mae'n dda bod bobl Y Blaid a'r SNP yn cymyrd rhan yn eu trafodaethau.

Mae'n sefyllfa boncars bod Cymru, Yr Alban a'r 6 Sir efo rhywfath o Gynulliadau, ond ddim system ffederal yn cynnwys Lloegr.. yr holl beth yn seiliedig ar syniad Fictoriaid Imperialaidd bod Llundain yw canolbwynt y bydysawd ond gall rhoi bach o hunain lywodraeth i'r naitives ar yr ymylon pell.

Yn anffodus i bobl Cymru a Lloegr ac i'r trafodaeth fel sydd ar y linc i'r wefan yno, mae miliwn o bobl newydd pleidlliesio i'r BNP, mwy byth am UKIP ac mae'r Toris ar eu ffordd nol gyda pethe lyfli fel "Armed Services Day" ar ben eu hagenda..

Be nei di??

Re: Breaking Up Britain

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 9:59 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
HuwJones a ddywedodd:Gyda hunaniaeth Saesneg mor cysylltiedig ag dominyddol, imperialaeth, rhyfel, monarchiaeth, hiliaeth a phob fath o bethe ycha-fi eraill


Mae gen ti fersiwn cul iawn o Saeson yn dy ben, Huw. Ond wrth gwrs, be wn i, yn byw yn eu mysg ac wedi priodi un ohonyn nhw.....