gan osian » Iau 11 Meh 2009 11:20 pm
Ma'r cyfweliad efo David Dimbleby yn un diddorol. Mae o 'di bod yn son llawar am y wasg yn ailadrodd hen betha udodd o (oce, mana 10 mlynadd ers i fi ddeud hynna, so ma'n iawn), ond ma'r cyfweliad yna jysd yn dangos yn glir mor lloerig ydio. mwydro am gyflwyno pryda ysgol iawn, henffasiwn i bob ysgol, wedyn na'th Dimbleby ofyn am y polisi peidio gadal pobl groenddu yn aeloda.
"so you will continue with your 'whites only' policy?"
"yes we will"
"and you're not a racist party?"
"no we aren't".
ma hyn yn enghraifft amlwg o pa mor anhygoel o hiliol ydyn nhw hyd yn oed wedi 'parchuso' rhywfaint, a do mi wnaeth Dimbleby "pwn-io" nick griffin fel dywed y grwp facebook, ond dwi'm yn gwbod be di'r ffordd orau o fynd ati i 'daclo' y bnp. wt ti yn protestio fel wnaeth y criw UAF, a risgio rhoi cyfla i'r bnp gwyno am y peth mewn system ddemocrataidd etc, neu ydi jysd dangos yn glir pa mor hurt ydyn nhw fel yr enghraifft uchod yn fwy effethiol?
Gyda llaw, be sy'n bod ar pyns?
"I'm hugely confused Ted!"