Tudalen 1 o 2
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 04 Gor 2009 7:01 pm
gan Chickenfoot
Gyda llaw, mae teitl yr wyl yma'n ddwl. Pam dylia unrhyw un fod yn falch o rywbeth 'sganndyn nhw ddim reolaeth drosti? Just sayin'
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 04 Gor 2009 7:11 pm
gan Kez
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 04 Gor 2009 9:11 pm
gan Duw
Ydy hwn dal mor ffasiynnol nawr? A oes pwynt iddo bellach, neu jest gig i gyffro mwslemiaid, cristnogion llym a hen ffogis yw e?
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 04 Gor 2009 9:40 pm
gan Chickenfoot
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sul 05 Gor 2009 6:52 am
gan Kez
Wi ddim yn gwpod beth on i arno Chickenfoot. Wi ddim hyd yn oed yn cofio dychra'r edefyn 'ma off. Bydd raid ifi newid 'dealer' - does wbod be ma'r ffycar yn rhoi inni'r dyddia hyn. Odd Pablo yn meddwl bo Enrique Iglesias yn cwato tu ol y soffa pwy ddwyrnod a dyw speed ddim i fod i neud 'na iti.
Ta p'un i, wi'n mynd i roi pen fi lawr y bog nawr am hannar awr ac wedyn fi off i'r gwely sbo hi'n fora dydd Llun.
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 01 Awst 2009 5:53 pm
gan Diobaithyn †
Chickenfoot a ddywedodd:Gyda llaw, mae teitl yr wyl yma'n ddwl. Pam dylia unrhyw un fod yn falch o rywbeth 'sganndyn nhw ddim reolaeth drosti? Just sayin'
Wel, na.
Mae llawer o bobl sydd efo Xq28 (y 'gay gene') ni sy'n hoyw, ac mae llawer o bobl sydd heb Xq28 sydd yn hoyw. Mae magwriaieth yn ffactor yn ogystal a natur, ac mwyaf tebygol yn ffactor mwy.
Mae dweud fod gwrywgydiaeth yn hollol lawr i genynau yr un mor dwp a dweud fod anghydweddogrwydd neu fod chi'n hoffi
Eastenders yn hollol lawr i genynau.
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 01 Awst 2009 6:12 pm
gan Kez
Diobaithyn † a ddywedodd:Chickenfoot a ddywedodd:Gyda llaw, mae teitl yr wyl yma'n ddwl. Pam dylia unrhyw un fod yn falch o rywbeth 'sganndyn nhw ddim reolaeth drosti? Just sayin'
Wel, na.
Mae llawer o bobl sydd efo Xq28 (y 'gay gene') ni sy'n hoyw, ac mae llawer o bobl sydd heb Xq28 sydd yn hoyw. Mae magwriaieth yn ffactor yn ogystal a natur, ac mwyaf tebygol yn ffactor mwy.
Mae dweud fod gwrywgydiaeth yn hollol lawr i genynau yr un mor dwp a dweud fod anghydweddogrwydd neu fod chi'n hoffi
Eastenders yn hollol lawr i genynau.
Does wbod nawr faint o rieni ti wedi ypseto Diobaithyn - eu ffycin bai nhw odd e wedi'r cwbwl. Giss a fuckin brake
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 01 Awst 2009 6:57 pm
gan Pryderi
Mae'n anodd gen i gredu fod magwaraeth hyd yn oed yn bennaf gyfrifol am dueddiad rhywiol. Dydy'r nifer uchel o bobl hoyw yn Iran, er enghraifft, ddim yn arwydd o unrhyw oddefgarwch gan glericwyr Islamaidd.
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 01 Awst 2009 6:59 pm
gan Chickenfoot
Diobaithyn † a ddywedodd:Mae dweud fod gwrywgydiaeth yn hollol lawr i genynau yr un mor dwp a dweud fod anghydweddogrwydd neu fod chi'n hoffi Eastenders yn hollol lawr i genynau.
Jest er mwyn cadarnhad, wnes i'n dweud hynna - dweud wnes i nad yw neb yn gwneud ddewisiad ymwybodol i fod yn hoyw neu'n syth, a dydi o ddim yn beth da na drwg. Felly pam ydi pobl yn falch o fod yn hoyw. Dw i'n gwybod fod magwraeth yn cael effaith ar ymddygiad, ond fy mhywnt i oedd beth yw diben fod yn falch o'n rhywioldeb?
Mae pobl sy'n dweud eu bod yn falch o fod yn hoyw/du/gwyn yn gwylltio fi. 'Dwn i'm pam - mae pethau dibyn pwysicach i'w trafod, wedi'r cwbl.
Re: Gay Pride 2009 - Llundain
Postiwyd:
Sad 01 Awst 2009 7:16 pm
gan Kez
Wi 'n cytuno a thi Chickenfoot ond weithia ma pobol sydd o dan y lach trwy'r amsar yn gorffod sefyll lan. Black is beautiful, balch o fod yn gay, Gymro ne be beth bynnag. Weithiau, mae rhaid codi llais - a dim ond mewn cymdeithas berffaith, byddai hynny yn ddi-angen