Tudalen 2 o 2

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Sad 01 Awst 2009 7:30 pm
gan Chickenfoot
Kez a ddywedodd:Wi 'n cytuno a thi Chickenfoot ond weithia ma pobol sydd o dan y lach trwy'r amsar yn gorffod sefyll lan. Black is beautiful, balch o fod yn gay, Gymro ne be beth bynnag. Weithiau, mae rhaid codi llais - a dim ond mewn cymdeithas berffaith, byddai hynny yn ddi-angen


Sa'n well dweud : "I'm black/gay and I don't care?" Dydyn nhw ddim yn bethau i fod yn flach ohonyn nhw - jest rhan o'ch personoliaeth neu'ch corff ydyn nhw. Pedantic, granted...

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Sad 01 Awst 2009 7:39 pm
gan Kez
Ia, ond ma'r gair 'balch'' yn ymatab i bobol sy'n gweud bod ti'n llai na nhw - boed hynny o ran dy liw ne'th rywioldeb neu nifer o bethach eraill. Gair i ymateb nol yw hi - semantics yw e ond pawb yn diall ei wir ystyr, sef 'rwyf gystal a thi'. Fi glwas ryw dro nad odd y gair 'gay' yn dod o'r ansoddair Saesneg chwaith ond yn dalfyrriad o 'good as you' - wn i'm os yw hwnna'n wir cofia :?

Ta p'un i, ma rhai o ffrindz gora fi'n bwffs, so gad nhw fod :winc:

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 3:10 pm
gan Diobaithyn †
Pryderi a ddywedodd:Mae'n anodd gen i gredu fod magwaraeth hyd yn oed yn bennaf gyfrifol am dueddiad rhywiol. Dydy'r nifer uchel o bobl hoyw yn Iran, er enghraifft, ddim yn arwydd o unrhyw oddefgarwch gan glericwyr Islamaidd.


A? Mae traddodiad a credau rhieni'n pŵer dim yn orfod adlewyrchu rheini y poblogaeth, ac yn enwedig yn llefydd fel Iran rhydych yn cael 'counter-culture' pwrpasol yn codi efo'r ifanc fel gwrthryfel (bron fel ieuenctid yn gwisgo crysau 'Che' yn America) ac oherwydd ei fod wedi denu gan syniadau a cyfryngau'r Gorllewin. Gan defnyddio rhesymeg dy esiampl, ellid dweud fod y protestio yn Iran yn orfod bod yn genetig gan nad oes llawer o oddefgarwch gan y llywodraeth.

Ond gan fod yr ymchwil heb dod i ben, a neb yn siŵr os nac oes genynnau eraill sydd ac effaith mawr ar eich rhywioldeb nac oes unrhyw tystiolaeth cadarn er dadlu'r pwynt hyn.

Chickenfoot a ddywedodd: Jest er mwyn cadarnhad, wnes i'n dweud hynna - dweud wnes i nad yw neb yn gwneud ddewisiad ymwybodol i fod yn hoyw neu'n syth, a dydi o ddim yn beth da na drwg.

Felly pam ydi pobl yn falch o fod yn hoyw. Dw i'n gwybod fod magwraeth yn cael effaith ar ymddygiad, ond fy mhywnt i oedd beth yw diben fod yn falch o'n rhywioldeb?

Mae pobl sy'n dweud eu bod yn falch o fod yn hoyw/du/gwyn yn gwylltio fi. 'Dwn i'm pam - mae pethau dibyn pwysicach i'w trafod, wedi'r cwbl.


A, ymddiheuriadau - wnes i rhoi geiriau yn dy geg.

Ond efo pa tystiolaeth ydych yn dod i'r canlyniad nad oes gan unrhywun unrhyw dewis ei hun dros y pethau yma ("nad yw neb yn gwneud ddewisiad ymwybodol i fod yn hoyw neu'n syth")? Neu ydych yn dadlu nad oes rhyddid ewyllis gan bodau dynol o gwbl?

Ac ydych yn felly'n credu ni dyle pobl fod yn balch o'i diwylliant a'i gwlad?

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Sul 09 Awst 2009 2:14 pm
gan tafod_bach
rheswm bod 'pride' hoyw yn bodoli yw i genfogi hoywon sydd ddim yn weledol/gallu bod yn weledol yn eu cymuned, ac i ddangos bod pobl lesbaidd, hoyw, intersex, deurywiol, trans, o bob siap, rhyw, lliw, llun a chredo yn ein cymunedau.
nid jyst i ddeud 'i'm am proud to be gay'. falle bo rhai pobl yn 'falch' o'u rhywioldeb, ac eisio'i arddangos am y rheswm hynny - ond ar y pwnc hynny, dio ddim gwahanol i'r meat markets hetero ti'n debygol o'u profi bob yn hyn a hyn ar stryd santes fair caerdydd rili.
ond y pwrpas gorymdeithio ydi dangos mai pride =/= shame.
wrth drafod magwraeth vs geneteg: dyma un o'r edefynnau lleia goleuedig (a lleia doniol) am rywioldeb dwi rioed di darllen, dwi'm yn meddwl bod lot o jans newn ni ddatrys y mater fama. rho'r tegell mlan kez, chi'n mynd i fod ma am sbel...

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Sul 09 Awst 2009 4:49 pm
gan Chickenfoot
Dw i'm yn ceisio bod yn ddoniol - always gets me into bother.

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Sul 09 Awst 2009 5:55 pm
gan Kez
Chickenfoot a ddywedodd:Dw i'm yn ceisio bod yn ddoniol - always gets me into bother.


Tell me about it! - cefais rybudd swyddogol y tro cynta ifi ddod ar y Maes 'ma!! Ma'n debyg bod 'one - liners' yn 'no go area' :winc:

Re: Gay Pride 2009 - Llundain

PostioPostiwyd: Sul 09 Awst 2009 9:11 pm
gan Chickenfoot
ond ar y pwnc hynny, dio ddim gwahanol i'r meat markets hetero ti'n debygol o'u profi bob yn hyn a hyn ar stryd santes fair caerdydd rili.


'Sgen ti cyfeiriadau?