Yr Urdd Oren

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Boris » Mer 12 Tach 2003 4:40 pm

eusebio a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:dadlau efo Cardi oeddwn i


Wwww! sori, roeddwn i'n credu mai fforwm gyhoeddus oedd hon :rolio:


Nawddoglyd braidd, be ti'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 4:41 pm

Boris a ddywedodd:Yn gyntaf mi oedd fy nadol efo Cardi felly dwi ddim yn credu fod Pogon yn mynd ar rali yn berthnasol i fy nadl efo Cardi. Croeso i Esubio godi hyn efo Pogon ond dio ddim byd i neud efo fi.


Ond rwyt ti wedi cytuno â dadleuon Pogon yn ystod y drafodaeth, felly mae'r ffait ei fod wedi bod ar orymdaith Urdd Oren yn hynod o berthansol.

Rwyt ti'n amau hygrededd Cardi Bach am ei fod wedi bod mewn rali Sinn Fein, ond yn hapus i gefnogi dadleuon Pogon er ei fod wedi bod ar Orymdaith â'r Urdd Oren.

:?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 4:43 pm

Boris a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:dadlau efo Cardi oeddwn i


Wwww! sori, roeddwn i'n credu mai fforwm gyhoeddus oedd hon :rolio:


Nawddoglyd braidd, be ti'n feddwl?


Dim rîlî, gan fod dy ateb yn awgrymu nad oedd gen i hawl i ymyryd yn y ddadl rhyngddo ti a Cardi ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Boris » Mer 12 Tach 2003 4:46 pm

eusebio a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:dadlau efo Cardi oeddwn i


Wwww! sori, roeddwn i'n credu mai fforwm gyhoeddus oedd hon :rolio:


Nawddoglyd braidd, be ti'n feddwl?


Dim rîlî, gan fod dy ateb yn awgrymu nad oedd gen i hawl i ymyryd yn y ddadl rhyngddo ti a Cardi ...


Ddim o gwbwl - chdi ddaru ddarllen fy sylwadau yn y modd hynny. Sensitif fel y dywedai yn gynt.

O ran dadleuon Pogon, dwi'n credu fod fy nadleuon fy hun yn dal dwr yn erbyn Cardi - felly na, dwi ddim yn gweld 'hobbies' Pogon yn berthnasol i fy mhwynt am Cardi.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 4:54 pm

Boris a ddywedodd:O ran dadleuon Pogon, dwi'n credu fod fy nadleuon fy hun yn dal dwr yn erbyn Cardi - felly na, dwi ddim yn gweld 'hobbies' Pogon yn berthnasol i fy mhwynt am Cardi.


Nawddoglyd braidd? - i ddefnyddio dy eirfa di, fod Cardi yn mynd ar rali Sinn Fein yn golygu nad yw ei ddadleuon yn ddi-duedd, ond eto mai 'hobby' yw mynd ar orymdaith yr Urdd Oren
:rolio:

Nid wyt ti am gytuno â mi, mae hynny'n ddigon amlwg.

Wyt ti'n fodlon derbyn fod gen i bwynt, neu pawb arall sydd i fod i wneud cyfaddawd o weld dy ddadleuon di?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan ceribethlem » Mer 12 Tach 2003 4:57 pm

boris a ddywedodd:Cardi Bach :

O beth ydw i'n weld mae dweud nad yw'r Urdd Oren a mudiadau para-filwrol unoliaethol ddim yr un yr un peth a'r ddadl nad yw Sinn fein ac IRA yr un.

Ond os yw'r IRA i roi lan eu harfau (a gobeithio y gwna nhw) pam ddim hefyd y mudiadau para-filwrol unoliaethol? Dylai pob mudiad para-filwrol gytuno i roi lan u harfau.

Mae'r UVF UFF LVF ac eraill yn fudiadau ffiaidd sydd yn cadw i ddweud mai nhw yw'r ochr ddiniwed drwy'r amser (dyw hyn ddim yn amddiffyn yr IRA - gweler ddechrau fy neges). Yn anffodus mae'r drefn Brydeinig yn rhy aml wedi cydweithio a'r mudiadau para-filwrol unoliaethol yma am eu bont yn cynorthwyo yn eu gwaith mochedd (Pat Finucane).




Cardi, chdi ddwedodd hyn, ac os nad yw hyn yn cymharu Yr Urdd Oren efo'r IRA / LVF / UFF yna wn i ddim beth sydd.

Dwi'n dal i ddwedu fod 99% o aelodau yr Urdd Oren yn ymwrthod a thrais. Mae'r ffaith fod aelodau o'r Urdd Oren wedi gweithredu yn dreisgar yn amherthnasol. Mae fel awgrymu fod pob gwinidog methodistaidd yn hoff o dorri cociau y meirw gan fod un wedi gwneud hynny bymtheg mlynedd yn ôl.


Ti wedi camddeall Cardi fan hyn dwi'n credu Boris,
yr hyn wedodd y Cardi oedd fod cysylltiadau Sinn Fein gyda'r IRA, yr un peth a chysylltiadau yr Urdd Oren gyda'r UVF, UFF a'r LVF.
Mae son am gyswllt yn wahanol i ddweud taw'r un peth ydyn nhw.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Boris » Mer 12 Tach 2003 5:05 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ti wedi camddeall Cardi dwi'n credu Boris,
yr hyn wedodd y Cardi oedd fod cysylltiadau Sinn Fein gyda'r IRA, yr un peth a chysylltiadau yr Urdd Oren gyda'r UVF, UFF a'r LVF.
Mae son am gyswllt yn wahanol i ddweud taw'r un peth ydyn nhw.


Nac ydw.

Mae arweinwyr yr Urdd Oren yn gyson wedi ymosod ar drais y Teyrngarwyr - ffaith.

Mae arweinwyr Sinn Fein yn gyn arweinwyr yr IRA.

Mae honni bod perthynas Yr Urdd Oren gyda'r LVF etc yr un fath a perthynas Sinn Fein gyda'r IRA yn anghywir - dyna pam dwi'n parhau (Duw a wyr pam) i ddadlau gyda Cardi.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan pogon_szczec » Mer 12 Tach 2003 8:55 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Ti wedi camddeall Cardi fan hyn dwi'n credu Boris,
yr hyn wedodd y Cardi oedd fod cysylltiadau Sinn Fein gyda'r IRA, yr un peth a chysylltiadau yr Urdd Oren gyda'r UVF, UFF a'r LVF.
Mae son am gyswllt yn wahanol i ddweud taw'r un peth ydyn nhw.


Bolycs llwyr.

Os yw tri phrif arweinydd yr Sinn Fein sef Kelly, McGuiness ac Adams i gyd wedi bod yn yr IRA (gallaf brofi yn hawdd) a sdim rheswm i gredu eu bod wedi cefnu ar y mudiad (am fod McGuiness wedi ymddangos yn ddiweddar iawn fel "O'Neill" llefarydd yr IRA), teg yw casglu taw yr un mudiad yn nhw.

Sdim cysylltiad o gwbl rhwng arweinyddion yr Urdd Oren a mudiadau para-filwrol. Mae'r mudiadau para-filwrol 'teyrngarol' yn wrthun iddynt.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 9:31 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Sdim cysylltiad o gwbl rhwng arweinyddion yr Urdd Oren a mudiadau para-filwrol. Mae'r mudiadau para-filwrol 'teyrngarol' yn wrthun iddynt.


Nagoes, ond mae'n deg dweud bod yr Urdd Oren yn denu lot fawr o ddynion sydd unai yn aelodau o'r mudiadau terfysgol deyrngarol neu'n cydymdeimlo â'r mudiadau teyrngarol.

Susan Breen, Irish Times, 14 Gorff, 2003 a ddywedodd:The matrons of the Ballymacarrett Ladies Orange Association marched solemnly in neat navy suits.

But South Belfast Young Conquerors swaggered up the road full of machismo. The Shankill Star Flute Band - which had the name of dead UVF member Brian Robinson inscribed on its drum - drew the biggest cheer.

The UVF magazine Combat, and the UDA journal The Loyalist, were on sale along the route. A UVF flag was draped over the bus-shelter at the City Hospital. Across the road, a group of loyalists ripped down a poster advertising the eighth commemorative Rory Gallagher gig at a local pub. "Fenian bastard!" one shouted.


Ia, dwi'n gwybod ei fod yn dod o bapur newydd o'r Weriniaeth, ond dyma'r argraff mae pobl fel fi yn gael o'r Urdd Oren ifanc.
Ac er fod sylfaen yr Urdd Oren ym myd parchus y Protestaniaid dosbarth canol, mae hyn yn newid.
Dyma sylwadau un o brif swyddogion yr Urdd yn ôl yn 2000 pan roedd helynt Drumcree yn ei anterth.

BBC News Online a ddywedodd:William Brown is a deputy grandmaster of the order but he says he no longer wears the Orange collarette with the same pride.

He also admits he has not attended a meeting of the Grand Lodge of Ireland for two years because he believes the leadership is taking the institution in the wrong direction.

"When I see people blocking traffic, standing with pints in their hands - that's not the institution I joined."

Mr Brown believes the high profile which the dispute over the Drumcree parade has garnered over the past six years is one of the root causes of what he believes is a decline in standards.

Media coverage of the dispute has shown scenes of Orangemen clashing with police, images which do not sit comfortably with the Order's traditional standards of upholding the law.

He believes that the Order has become fixated with the Portadown lodge's effort to get down the Garvaghy Road, a campaign which he says has damaged Orangeism.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan pogon_szczec » Mer 12 Tach 2003 9:41 pm

Cardi Bach, ti'n cymryd arnat dy fod yn wybodus ynglyn a Gogledd Iwerddon.

Ar y gorau mae dy 'wybodaeth' yn dod o edrych ar item o'r newyddion dau funud o hyd, ar y gwaethaf ti'n cael dy wybodaeth o 'An Poblacht'.

Ti ddim hyd yn oed yn gwybod y wahaniaeth rhwng deyrngarwyr a unioliaethwyr. Ti'n dechrau edefyn ar yr Urdd Oren trwy cyfeirio at wefan sy ddim yn gysylltiedig a'r Urdd Oren o gwbl. Yr un peth a honni taw "Merched y Wawr" yw'r un peth a "Meibion Glyndwr".

Efallai nad yw teitl yr edefyn yn enllibus, ond mae awgrymu bod Harold Gracey, aleod o'r Eglwys yn Iwerddon, dyn parchus canol oed, wedi gorchmyn ymosodiadau mudiadau para-filwrol yn ffol, anwybyddus ac enllibus tu-hwnt.

Os yw dy honiadau yn wir i ba fudiad para-filwrol mae'n perthyn? A yw erioed di bod o flaen y llys?

Beth y ffwc wyt ti'n gwybod am Gracey.

Amlwg ti ddim yn darllen lincs sy ddim yn ategu dy ragfarnau, ond dyma tipyn o wybodaeth amdano:
http://www.orangenet.org/civilrights/gracey.htm

Beth bynnag eu barn am yr Urdd Oren fyddai SDLP ddim yn dweud yr un pethau ffol a tithau am eu bod yn deall rhywfaint am gymdeithas yng Ngogledd Iwerddon, ac felly yn llawn ddeall bod y fath na o guddiad jyst yn chwerthinllyd ac yn dangos anwybyddiaeth llwyr.

Mae'r Urdd Oren yn rhan anatod o fywyd cymdeithasol Protwstaniaid gwledig Iwerddon, hyd yn ddiweddar iawn doedd dim ffws o gwbl am eu gorymdeithiau.

I lawer o Brotestaniaid sy ddim i gyd yn eithafwyr mae treial gwahardd gweithredau yr Urdd Oren yn debyg i dreial gwahardd yr Eisteddfod yng Nghymru.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron