Yr Urdd Oren

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 9:44 pm

Sori, dwi ond yn dal i fyny efo'r edyfen yn ara' deg ;)


Boris a ddywedodd:Oes, mae yna derfysgwyr wedi dod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, ond nid tra'n parhau i gadw byddin arfog wrth gefn fel yn achos Sinn Fein/IRA.


Pam felly bu rhaid i'r UDP, sydd â chysylltiadau cryf â'r UFF, adael y trafodaethau heddwch ym 1998 wedi'r UFF gyfaddef eu bod wedi llofruddio tri Pabydd?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 9:47 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Yr un peth a honni taw "Merched y Wawr" yw'r un peth a "Meibion Glyndwr".


Ti ddim yn cofio ymchwioliadau Heddlu Gogledd Cymru yn yr 80au felly ;)

pogon_szczecin a ddywedodd:I lawer o Brotestaniaid sy ddim i gyd yn eithafwyr mae treial gwahardd gweithredau yr Urdd Oren yn debyg i dreial gwahardd yr Eisteddfod yng Nghymru.


... ddim yn ddrwg o beth cofia ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Newt Gingrich » Iau 13 Tach 2003 12:43 am

eusebio a ddywedodd:Sori, dwi ond yn dal i fyny efo'r edyfen yn ara' deg ;)


Boris a ddywedodd:Oes, mae yna derfysgwyr wedi dod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, ond nid tra'n parhau i gadw byddin arfog wrth gefn fel yn achos Sinn Fein/IRA.


Pam felly bu rhaid i'r UDP, sydd â chysylltiadau cryf â'r UFF, adael y trafodaethau heddwch ym 1998 wedi'r UFF gyfaddef eu bod wedi llofruddio tri Pabydd?


Oes na fwy o wybodaeth am hyn? Mae o'n newydd i mi ond os gwir yna mae yn bwynt newydd hynod ddiddorol. Unrhyw links?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Newt Gingrich » Iau 13 Tach 2003 12:50 am

eusebio a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:Sdim cysylltiad o gwbl rhwng arweinyddion yr Urdd Oren a mudiadau para-filwrol. Mae'r mudiadau para-filwrol 'teyrngarol' yn wrthun iddynt.


Nagoes, ond mae'n deg dweud bod yr Urdd Oren yn denu lot fawr o ddynion sydd unai yn aelodau o'r mudiadau terfysgol deyrngarol neu'n cydymdeimlo â'r mudiadau teyrngarol.

Susan Breen, Irish Times, 14 Gorff, 2003 a ddywedodd:The matrons of the Ballymacarrett Ladies Orange Association marched solemnly in neat navy suits.

But South Belfast Young Conquerors swaggered up the road full of machismo. The Shankill Star Flute Band - which had the name of dead UVF member Brian Robinson inscribed on its drum - drew the biggest cheer.

The UVF magazine Combat, and the UDA journal The Loyalist, were on sale along the route. A UVF flag was draped over the bus-shelter at the City Hospital. Across the road, a group of loyalists ripped down a poster advertising the eighth commemorative Rory Gallagher gig at a local pub. "Fenian bastard!" one shouted.


Ia, dwi'n gwybod ei fod yn dod o bapur newydd o'r Weriniaeth, ond dyma'r argraff mae pobl fel fi yn gael o'r Urdd Oren ifanc.
Ac er fod sylfaen yr Urdd Oren ym myd parchus y Protestaniaid dosbarth canol, mae hyn yn newid.
Dyma sylwadau un o brif swyddogion yr Urdd yn ôl yn 2000 pan roedd helynt Drumcree yn ei anterth.

BBC News Online a ddywedodd:William Brown is a deputy grandmaster of the order but he says he no longer wears the Orange collarette with the same pride.

He also admits he has not attended a meeting of the Grand Lodge of Ireland for two years because he believes the leadership is taking the institution in the wrong direction.

"When I see people blocking traffic, standing with pints in their hands - that's not the institution I joined."

Mr Brown believes the high profile which the dispute over the Drumcree parade has garnered over the past six years is one of the root causes of what he believes is a decline in standards.

Media coverage of the dispute has shown scenes of Orangemen clashing with police, images which do not sit comfortably with the Order's traditional standards of upholding the law.

He believes that the Order has become fixated with the Portadown lodge's effort to get down the Garvaghy Road, a campaign which he says has damaged Orangeism.


Fel un sydd wedi bod i ffwrdd am wythnos a mwy syndod oedd gweld ail danio yr edefyn hwn.

Serch hynny, mae gan Eusebio ddau ddyfyniad diddorol yma. Mae'r cyntaf yn agos at y gwir yn fy ngolwg a dwi ddim yn credu fod yna unrhyw broblem yn y ffaith fod y dyfyniad yn dod o'r Irish Times, papur sy'n enwog am fod yn wrth IRA ac yn ffieiddio Sinn Fein.

Mae'r ail ddyfyniad serch hynny yn llawer mwy diddorol. Yn y bon, beth sydd yma yw datganiad sy'n cytuno efo Boris a Pogon ond yn datgan fod pethau wedi newid yn y bedair neu bump mlynedd diwethaf - cytuno?

Os felly, onid cwestiwn da fyddai;

1. Yw'r Urdd Oren wedi newid
2. Pam?
3. Oedd Cardi + Sioni +eraill yn anghywir i ddatgan fod yr Urdd Oren yn fudiad ffiaidd ers y cychwyn?

O dderbyn y dyfyniad gan Eusebio fe ymddengys fod Boris a Pogon yn iawn yn hanesyddol ond fod poethau wedi newid. Sylwadau plis.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Mr Gasyth » Iau 13 Tach 2003 9:53 am

Pogon bach, ti'n gneud fi chwerthin. Ti'n cyhuddo Cardi o gael ei wybodaeth o An Poblacht ac yn yr un gwynt yn cynnyg gwefan yr Urdd Oren fel fynhonnell dy 'ffeithiau' di.
Os na fedri di gyfadde dim arall, siwns medri di weld fod hyn yn ddiawledig o ragrithiol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Iau 13 Tach 2003 10:02 am

Waw, am drafodaeth a ddatblygodd dros nos! :)

Fi'n credu fod Ceri Bethlem wedi esbonio beth odd ergyd fy neges i am gysyltiadau Mudiad Oren a byddinoedd para-filwrol ayb.

Yn wir, wy'n credu yn bod ni wedi bod dros y tir hyn beth amser yn ol, a finne wedi rhoi lincs a chynnig trafodaeth yn esbonio fy safbwynt, ac mae nifer eraill wedi dweud pethau cyffelyb gan gynnig dyfyniadau.

Falch gweld fod Comical Pogon yn cadw at ei arferiad o fethu a darllen popeth a methu deall cyd-destun na pherthynas negeseuon. :lol: Cei di amddiffyn Gracey hyd at syrffed Pogon - ond os wyt ti am roi'r blawd llif na mewn ger weli di taw dyfyniad o'r Sunday Herald sydd yn son am Gracey :rolio: Stop press, ma Comical Pogon wedi cynnig dangos tystiolaeth fod rhai o arweinwyr Sinn Fein wedi bod yn aelodau o'r IRA yn y gorffennol...shoc horor...hold on, ma McGuinness newydd ddweud hynny mewn llys barn wthnos dwetha :P

Ond gan fod gymaint o drafodaeth wedi bod, mi gadwa i at yr un diweddara gan Newt (croeso nol) pan wyt ti'n son ein bod ni'n anghywir wrth son fod yr Urdd Oren yn ffiaidd ers y cychwyn (sef holl sbardun y drafodaeth yma yn wreiddiol), ac mi drydydd adrodda i Lord Randolph Churchill 'Ulster will fight, Ulster will be right!', sef moto yr Urdd Oren, ond fi yn derbyn eu bod nhw, fel mudiad, yn gweithredu'n 'heddychlon'. Unwaith eto, mae gweithredu'n heddychlon yn wahanol i fod yn fudiad heddychlon, fel mae sawl un wedi dangos yn glir erbyn hyn. Ac mae bod yn fudiad "ffiaidd" (fel mae Newt yn ddweud uchod) yn wahanol i fod yn fudiad 'treisgar' - mae'r Orange Order wedi defnyddio eu grym i sicrhau nad yw Catholigion yn cael swyddi, neu tai yng Ngogledd Iwerddon. Dyw hyn ddim yn dreisgar, ond mae'n ffiaidd.

Ond o ran y drafodaeth sy'n datblygu, os yw'r Urdd Oren yn mynd yn fwy treisgar FEL MUDIAD yn ddiweddar (fel mae rhai yn cyfeirio ato) a yw hyn yn awgrymu fod (oleia rhai o fewn) yr Urdd yn anhapus gyda'r broses heddwch ac yn anhapus gyda rhannu grym gyda'r Gwerinieithwyr/Cenedlaetholwyr/Catholigion? Mae'r Unoliaethwyr/Protestaniaid am golli eu statws a'u 'priviliges', ac felly yn troi fwy fwy at drais i amddiffyn eu breintiau. Trafoder :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan eusebio » Iau 13 Tach 2003 10:36 am

Newt Gingrich a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Sori, dwi ond yn dal i fyny efo'r edyfen yn ara' deg ;)


Boris a ddywedodd:Oes, mae yna derfysgwyr wedi dod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, ond nid tra'n parhau i gadw byddin arfog wrth gefn fel yn achos Sinn Fein/IRA.


Pam felly bu rhaid i'r UDP, sydd â chysylltiadau cryf â'r UFF, adael y trafodaethau heddwch ym 1998 wedi'r UFF gyfaddef eu bod wedi llofruddio tri Pabydd?


Oes na fwy o wybodaeth am hyn? Mae o'n newydd i mi ond os gwir yna mae yn bwynt newydd hynod ddiddorol. Unrhyw links?


Daeth y wybodaeth o safle we BBC Northern Ireland:
The Search for Peace
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Boris » Iau 13 Tach 2003 2:50 pm

eusebio a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Sori, dwi ond yn dal i fyny efo'r edyfen yn ara' deg ;)


Boris a ddywedodd:Oes, mae yna derfysgwyr wedi dod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, ond nid tra'n parhau i gadw byddin arfog wrth gefn fel yn achos Sinn Fein/IRA.


Pam felly bu rhaid i'r UDP, sydd â chysylltiadau cryf â'r UFF, adael y trafodaethau heddwch ym 1998 wedi'r UFF gyfaddef eu bod wedi llofruddio tri Pabydd?


Oes na fwy o wybodaeth am hyn? Mae o'n newydd i mi ond os gwir yna mae yn bwynt newydd hynod ddiddorol. Unrhyw links?



Tydi hyn ddim yn adlewyrchu cyd-destun y drafodaeth, yn wir mae y dystiolaeth yn cytuno efo fy nadl nad yw Plaid Paisley yn cynrychioli terfysgwyr teyrngarol. Y DUP (Democratic Unionist Party) yw plaid Paisley tra fod y UDP yn enill tua 2% o'r bleidlais ac yn lais gwleidyddol i'r terfysgwyr teyrngarol. Mae'r ffaith iddynt gael ban o'r trafodaethau yn dangos fod y broses yn 'even handed' vis a vis a sefyllfa Sin Fein.

Dwi'n gobeithio fod yr uchod yn gyfraniad rhesymol ac adeiladol, aeth pethau braidd yn fler ddoe - cychwyn eto Eusebio?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 13 Tach 2003 2:53 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Ac mae bod yn fudiad "ffiaidd" (fel mae Newt yn ddweud uchod) yn wahanol i fod yn fudiad 'treisgar'


Yn mha ffordd? Beth yw ystyr ffiaidd i ti Newt?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Iau 13 Tach 2003 3:10 pm

Petaet ti'n stopio galw unrhyw un sy'n gwneud pwynt call sy'n erbyn dy safbwynt yn 'anaeddfed' neu'n 'dwp' byddai hynna'n ddechrau, Boris.

Byth yn medru esbonio pam ein bod yn anaeddfed, dim ond dangos y pompositi arferol Telegraphaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron