SbecsPeledrX a ddywedodd:Nid isio cerdded lawr y stryd mae nhw. Isio cerdded yn feddw lawr y stryd efo degau a canoedd o hwdlyms lleol yn canu caneuon fel "we are the billy boys ..... up to our neck in feinian blood, surrender or you'll die"!
Ti wedi deud wrthai droeon fod ti'n gwbod yn well achos dy fod neu dy deulu wedi profi'r peth. Ywela a'r chwe sir a weli di dy brydain yn dangos ei ddanedd milain!
SbecsPeledrX "Athronydd, hanesydd, ffwl"
Mae dy ddisgriafiad cyntaf yn atgoffa rhywun o griw o Gymru 'rebels weekend a steddfod' yn canu caneuon megis 'we'll burn your houses down' ayb. Digon i ddychryn pobl ddiniwed fel sbecs yn amlwg.
Mae'r ail ddyfyniad uchod yn bradychy dy ddiffyg dealtwriaeth lwyr o sefyllfa Gogledd Iwerddon;
Sail y Downing Street Delcaration oedd Prydain yn datgan nad oedd dim diddordeb strategol mewn cadw'r chwe sir - mater i boblogaeth y dalaith oedd hyn. Beth sydd yn dy gorddi felly Sbecs, fod 900,000 yn Ulster yn dewis Prydain. Onid dyna hanfod democratiaeth - yr hawl i ddewis dy Wladwriaeth?
Mae dy rethreg am 'ddanedd milain Prydain' mor blentyniadd ac anaeddfed a gweddill dy gyfraniadau. Ai gormod yw gofyn am ffeithiau?