Yr Urdd Oren

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Iau 13 Tach 2003 4:18 pm

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Ac mae bod yn fudiad "ffiaidd" (fel mae Newt yn ddweud uchod) yn wahanol i fod yn fudiad 'treisgar'


Yn mha ffordd? Beth yw ystyr ffiaidd i ti Newt?


Boris, dyma grynhoad i ti, o'm rhan i, o beth yw'r 'ddadl' (gobitho erbyn y diwedd y daw hi'n glir na ddylai fod 'dadl', ond am wn i mater o farn yw hynny).

Comical Pogon a ddywedodd:Mudiad heddychlon rhyngwladol i hybu protestaniaeth yw'r Urdd Oren gyda changennau yng Ngorllewin Affrig (llawer o aelodau croen du) , America (mae un cangen ymhlith y Mohawks), Awstralia ac yn y blaen.

Mae'r 'mudiad teyrngarol' yn cynnwys grwpiau amheus fel y UDA, UVF ac ati, sy'n defnyddio trais i hybu eu hachos.


Yna minnau yn nodi enghreifftiau lle nad yw’r Urdd Oren fel mudiad yn heddychlon.

Collodd Comical Pogon holl ergyd fy neges, felly bu i mi ei ail ddweud, a thrydydd dweud

fi a ddywedodd:Oll wy wedi neud yw pwynto mas yr anwiredd mai mudiad heddychlon yw'r Urdd Oren. Pan mae'r Urdd oren am wthio eu hagenda mae hi'n ddigon parod i anog trais, fel modd i gyrraedd ei nod/gwthio ei neges.


Yna mi wyt ti Boris yn dweud

boris a ddywedodd: Dwi di dadlau o'r lle cyntaf fod cymharu yr Urdd Oren efo mudiadau terfysgol yn 'distortion' o'r gwir.
ond wrth gwrs, fel y dylai fod yn amlwg, nid cymharu Urdd gyda mudiad terfysgol oeddwn i, ond dweud nad mudiad heddychlon oedd yr Urdd oe’n i.

Yna,
Boris a ddywedodd: yn ei hanfod, dwi'n gryf o'r farn mae mudiad sy'n gweithredu'n heddychlon yw'r Urdd Oren. Does dim modd cymharu nhw gyda IRA / LVF / UFF.


a minnau

fi a ddywedodd:Hyd yma, sai'n credu mod i eriod wedi cymharu'r Urdd Oren gyda'r IRA. Mae dweud mai mudiad sy'n gweithredu'n heddychlon yw hi'r rhan fwyaf o'r amser ddim yr un peth a dweud mai mudiad heddychlon yw hi…Mae'r mudiad oren gyda'i hagenda bersonol - fel lodge fawr yn ceisio sicrhau nad yw Catholigion yn cael swyddi neu tai, nid fod hyn yn dreisgar, ond mewn adeg o gynnwrf ma nhw wedi anog trais - sydd yn wahanol i ddefnyddio trais (dyna pam fod 'gweithredu'n heddychlon' a 'bod yn heddychlon' yn ddau beth cwbwl wahanol).


Yna camddealltwriaeth. Ond ta waeth am hynny, medde ti Boris:

Boris a ddywedodd:Mae'n debyg y bydde modd i ti am mio gytuno Cardi, ond dim ond o dderbyn fod yna wahaniaeth rhwng track record yr IRA a chefndir yr Urdd Oren


ac wy’n cytuno gyda ti. Mae yna wahaniaeth rhwng yr IRA a’r Urdd Oren. Mudiad para-filwrol yw’r IRA. Corff sy’n bodoli er lles y gymuned Brotestanaidd/Unoliaethol ta waeth beth yw’r Urdd Oren. Gwahaniaeth sylfaenol yn wir.

Yna daw cyfraniad Newt:

Newt a ddywedodd:3. Oedd Cardi + Sioni +eraill yn anghywir i ddatgan fod yr Urdd Oren yn fudiad ffiaidd ers y cychwyn?


a minnau i ymateb:

fi a ddywedodd:Ac mae bod yn fudiad "ffiaidd" (fel mae Newt yn ddweud uchod) yn wahanol i fod yn fudiad 'treisgar' - mae'r Orange Order wedi defnyddio eu grym i sicrhau nad yw Catholigion yn cael swyddi, neu tai yng Ngogledd Iwerddon. Dyw hyn ddim yn dreisgar, ond mae'n ffiaidd.

a wele’r lincs roddes i’n gynharach i ddangos fod yr Urdd wedi anog terfysg ayb.

Boris, mae hyn oll yn itha ‘mild’ a dweud y lleia. Edrych ar ymateb dug a chrac Pogon yn amddiffyn yr Urdd Oren ta waeth beth ac yn gwadu unrhyw feirniadaeth ohoni. Wyt ti wirioneddol yn istedd yn gyfforddus gyda’r math yna o agwedd?

Yn yr un modd a’n bod ni’n gytun ar y ffaith nad yw’r IRA a’r Urdd Oren yn ddwy ochor o’r un geiniog, fel petai, shwrli gallwn ni gytuno nad yw’r Urdd Oren yn fudiad di-lychwyn a di-euog yn hanes cythryblus Gogledd iwerddon? C’mon, bydde ti ddisgwyl i rywun sydd wedi bod ar rali Sinn fein i fod lot yn fwy eithafol na’r hyn fi’n weud yma, dos bosib? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Newt Gingrich » Iau 13 Tach 2003 11:27 pm

Sioni Size a ddywedodd:Petaet ti'n stopio galw unrhyw un sy'n gwneud pwynt call sy'n erbyn dy safbwynt yn 'anaeddfed' neu'n 'dwp' byddai hynna'n ddechrau, Boris.

Byth yn medru esbonio pam ein bod yn anaeddfed, dim ond dangos y pompositi arferol Telegraphaidd.


Yn dy achod di mae o'n ymddangos yn ddisgrifiad rhesymol iawn. Gyda llaw, ers pryd mae galw cyfranwyr yn Taid yn 'aeddfed'?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Newt Gingrich » Gwe 28 Tach 2003 11:01 pm

Dwi am ddechrau trafodaeth am ganlynidau yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon o fewn seiat Materion Prydain - welai chi yno, wel gobeithio :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Boris » Llun 09 Chw 2004 3:03 pm

I sylw Sbecs Pelydr X yn hytrach nac ail bobi dadleon sydd wedi bod yn sail trafodaeth eisioes.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan pogon_szczec » Iau 12 Chw 2004 6:26 pm

Wedes i nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng 'Swansea Loyal' a'r Urdd Oren.

WELSH NAZIS TOLD TO FUCK OFF IN BELFAST
http://www.talfanzine.com/modules.php?n ... icle&sid=3
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Chris Castle » Gwe 13 Chw 2004 10:48 am

Mae'n bosib bydd hyn yn esbonio be digwyddodd i'r jacbastyds hiliol (ie dwi'n deall yr eironi yna).
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 28 Awst 2004 3:17 pm

pogon_szczec a ddywedodd:A mae Ian Paisley yn Babydd.


Be "The Reverend Ian Paisley? Ian Paisley y pregethwr protestanaidd, yn pabydd? Wel siarad am sialens! :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron