Yr Urdd Oren

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Urdd Oren

Postiogan Cardi Bach » Iau 16 Hyd 2003 4:19 pm

Os rhywun arall wedi dod ar draws hwn:
http://www.swansealoyal.co.uk/main.htm

Dyma ddyfyniad o'r rwtsh ma nhw'n weud:
have had a lot of mail from republicans who are none too happy that there are Loyalists in Wales. Wales is a Protestant country and while we acknowledge there are republicans here (mainly Plaid supporters,) let us give you a few reasons why we are Loyalist...........
Wales has historically been "THE" Protestant stronghold of Great Britain. During the glorious revolution, King William himself, formed both the Royal Welsh Fusillers and "The Royal Cheshire Regiment". Both regiments followed him to the "Boyne", and fought to preserve their religion. Of all the great battles, the Royal Welsh Fusillers have fought in since, none have been so important. This gave them a victorious start, to what has become an illustrious history Wales is proud of.
Lest We Forget Through 30 years of violence in Ulster, the Royal Welsh Fusillers, along with our other proud Welsh regiments, showed their courage, and proved their valour, during a bloody conflict against republicanism. To all who served, we salute you. To those who did not return, we are forever in your debt


Ma gyda nhw fforwm drafod hefyd lle mae'n bosib i bobol ymateb.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Iau 16 Hyd 2003 5:06 pm

Do'n i heb weld y wefan o'r blaen ond ma na griw ohonyn nhw i'w gweld mewn gemau clwb pel droed Abertawe efo'i baneri 'red hand' a union jacks a ballu. Yn ol y son, pobl o Wigan ydyn nhw sydd wedi penderfynnu 'tagio mlaen' at y Swans gan eu bod nhw'n gweld potential i droi Abertawe yn glwb 'Prydeinig' rwan fod Sam Hamman yn pwysleisio Cymreictod Caerdydd.
Scum ac idiots, bob un ohonyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 16 Hyd 2003 6:41 pm

Ond ma'r IRA yn iawn yndyn Cardi?

Oedd raid i fi...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Taflegryn » Iau 16 Hyd 2003 8:33 pm

Tudalenau we dychrynllyd. Y diawled twp yn cymysgu gwead y cymry gyda'r saeson ac yn ein rhoi ni yn yr run gwch ar sais brydeinig. Does na'm byd cymreig yn y welsh fiwsaliar chwaith - y saeson sydd yn defnyddio y cymry sy'n anffodus wedi ymuno ar fyddin brydeinig fel canon foders.
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 16 Hyd 2003 9:03 pm

mae nhw llawer mwy "iawn" ymhob ystyr o'r gair na'r Urdd Oren, y parafilwyr hiliol sy'n cario'r enw teyrngarwyr, byddin prydain a'r SAS Rhodri.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Sioni Size » Gwe 17 Hyd 2003 10:00 am

Nwdls, diog ar y diawl ydi'r penderfyniad idiotaidd 'mae nhw i gyd mor ddrwg a'u gilydd'.
Fel arfer daw'r meddylfryd yma gan rywun sydd wedi cael eu cyflyrru ers eu plentyndod mai'r IRA ydi'r bai am bopeth (hynny yw 99% ohonom o dan ddylanwad cyfryngau Prydain), a sydd wedyn yn derbyn gwybodaeth ffordd arall gan achosi cymhlethdod iddynt. Propaganda Prydain sy'n gyfrifol am y meddylfryd yma, fel oedd propaganda Franco a Hitler gynt a fel mae propaganda America rwan yn ei wneud.
Bwlshiters yw imperialwyr. A mae eu pobl, heb wybod yn well, yn cael eu dylanwadu.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cardi Bach » Gwe 17 Hyd 2003 10:03 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ond ma'r IRA yn iawn yndyn Cardi?

Oedd raid i fi...


:ofn:



:P



:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 17 Hyd 2003 10:37 am

Wel nai'm gwrthddweud fy mod i'n ddiog ma hynna'n sicr.

Ond ma'n rhaid cael bach o dynnu coes rhen Cardi, twel. Er ddylswn i di rhoi genoglun yna i neud o'n glir (trafferthion cyfleu ar y we...)

Er dwi dal yn credu fod yr IRA yn ffiaidd a na alli di gyfiawnhau yr un gronyn mae nhw di neud. Na'r Unionists chwaith, dyma rydw i'n ei ddweud. Dwi'n deud mae'r ddwy ochr yn ffiaidd. Yr un mor ffiaidd a'u gilydd ar adegau. Oherywdd hyn dwi ddim hyd yn oed am fynd mor bell a trio cymryd ochra, yn fy marn i does dim ochr i'w gymryd efo nhw os mae nhw'n gweithredu yn y dulliau hyn.

ffwl stop cont.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Cardi Bach » Gwe 17 Hyd 2003 10:40 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Wel nai'm gwrthddweud fy mod i'n ddiog ma hynna'n sicr.

Ond ma'n rhaid cael bach o dynnu coes rhen Cardi, twel. Er ddylswn i di rhoi genoglun yna i neud o'n glir (trafferthion cyfleu ar y we...)

Er dwi dal yn credu fod yr IRA yn ffiaidd a na alli di gyfiawnhau yr un gronyn mae nhw di neud. Na'r Unionists chwaith, dyma rydw i'n ei ddweud. Dwi'n deud mae'r ddwy ochr yn ffiaidd. Yr un mor ffiaidd a'u gilydd ar adegau. Oherywdd hyn dwi ddim hyd yn oed am fynd mor bell a trio cymryd ochra, yn fy marn i does dim ochr i'w gymryd efo nhw os mae nhw'n gweithredu yn y dulliau hyn.

ffwl stop cont.


Ti'n swno fel Cristi.... :winc:
Na, wna i ddim beiddio - cymysgu edefynnau ac ati!

O ran diddordeb, a mynd off ar tangent, ai'r un peth yw dy farn am Balesteina?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 17 Hyd 2003 11:39 am

Cardi a ddywedodd:O ran diddordeb, a mynd off ar tangent, ai'r un peth yw dy farn am Balesteina?


Dwi'n credu fod sefyllfa'r Palestiniaid yn fwy despret nag sefyllfa Iwerddon yn y ffaith fod ei tir yn cael ei gymryd o dan eu trwynau rwan hyn, mae hyn wedi digwydd i Iwerddon ond mae hanes rwan wedi cropian mewn a ma'r undebwyr yno i aros. Ond dwi hefyd yn credu fod teroristiaeth o ochor Israel a Phalesteina yn rong allai ddim cyfiawnhau y ddau. Allai deimlo'n fwy gwyllt efo Israel am eu bod yn cuddio tu ol frawd mawr America i ymosod ar wledydd sofren a gothrymu y Palestiniaid. Dwi'm yn gwybod lle all Palesteina droi i drio cael diwedd diplomataidd i'w sefyllfa ond alla i ddim cydfynd a bomio pobol ddiniwed yn fwriadol mewn rhyfel yn erbyn Israel neu bwy bynnag ydi o.

Rwbath fel'na...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron