Yr Urdd Oren

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan garynysmon » Gwe 17 Hyd 2003 2:43 pm

Be dwi ddim yn ddeall o gwbl am bobl Gogledd Iwerddon ydi nad ydyn nhw eisiau llais i 'ulster', os liciwch chi, o gwbl. Mae nhw ddigon hapus i gael Jac yr Undeb fel eu fflag a 'God save the queen' fel eu hanthem. Ydi y pobl yma mor 'clingy' i fodolaeth y Deyrnas Unedig, fel bo nhw ddim eisiau llais? Yntau jyst yn trio anghofio na gwyddelod yn byw mewn gwlad estron ydyn nhw?. Fysa fo lot haws jyst cael 'Ulster' annibynol, a gobeithio na dyna ddigwyddith pan wneith yr 'Deyrnas Unedig' dorri i fynny. Ond cofiwch chi, fyswn i yn synnu dim i weld nhw yn pleidleisio dros fod yn gyngor sir, yn ran o Loegr.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Chris Castle » Gwe 17 Hyd 2003 2:44 pm

Roedd annibynwyr wrth blaen y gad pan ddechreuodd Irish Republicanism yn y deunawfed ganrif.


Roedd brwydr y Boyne yn brwydr rhwng cefnogwyr y coron a'r Eglwys Anglicanaidd ar un ochr ond gyda
PROTESTANIAID A PHABYDDION MEWN CYNGRHAIR ar yr ochr arall.


MAe enwadoliaeth yn beth hyll a thwp.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan SbecsPeledrX » Sad 18 Hyd 2003 6:59 pm

:lol: Welodd rhywyn Ali G yn cyfweld Ian Paisley?
Rwbath fel.....

AG "So you'r Irish right and..."
IP "No, NO, No, NO I am not Irish, I'm British."
AG "OK - so you is here on holiday?"

:lol:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan pogon_szczec » Llun 20 Hyd 2003 8:12 am

Sioni Size a ddywedodd:Nwdls, diog ar y diawl ydi'r penderfyniad idiotaidd 'mae nhw i gyd mor ddrwg a'u gilydd'.


Cytunaf yn llwyr.

Llofruddwyr yw Adams, McGuiness, a Sinn Fein/I.R.A..

Pleidiau democrataidd yw'r UUP a'r DUP.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Sioni Size » Llun 20 Hyd 2003 10:25 am

Wel wel, Pogon yn ymuno ar ochr yr imerialwyr anglo sacsonaidd eto. Paid di,o bawb, a troi fy ngeiriau eto neu fe fydd trwbl.
Ychydig o ffeithiau i ti.
Allan o 3000 o farwolaethau ers y troubles mae'r IRA yn gyfrifol am 549.
Dydi'r IRA erioed wedi targedu pobl ddiniwed (Namyn un digwyddiad gan uned De Armagh - Kingsmill. Diawl o ffrae wedyn rhwng arweinwyr yr IRA a IRA De Armagh wedyn o'r herwydd, ond fe stopiodd hynna'r Loyalists yn dod lawr i De Armagh i ladd pobl ddiniwed). Pwynt y bomiau yn Lloegr, sydd wrth gwrs yn dy feddwl di llawer gwaeth na dim byd arall erioed heblaw am 9/11, ydi i greu ymwybyddiaeth a difrodi'r economi. Dyna pam mae nhw'n rhoi rhybuddion.
Mae dros 2000 o Gatholigion wedi marw yn y troubles. Pwrpas yr UVF a'r UDA oedd/ydi lladd catholigion diniwed.
Mi aeth byddin Prydain i fewn yn 1969 i achub y catholigion rhag y loyalists. Dyma ydi dechrau 'swyddogol' y troubles i ni brits. Ei ddechrau go iawn oedd pan wnaeth Gusty Spence saethu catholig hollol ddiniwed mewn tafarn ym Melffast yn 1966 a'i hawlio dros yr UVF. Cariodd yr UVF ymlaen gydag arddeliad i wneud yr un peth.
Pan gyrhaeddoddd y fyddin doeddan nhw'n gwybod dim am hanes Ulster. Ar ol wythnosau o amddiffyn y catholigion, mi drodd byddin prydain i gefnogi a helpu'r loyalists ymosod, gan eu bod, wedi'r cyfan, ar ein ochr ni. God save the queen.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan pogon_szczec » Llun 20 Hyd 2003 12:14 pm

Sioni Size a ddywedodd:Dydi'r IRA erioed wedi targedu pobl ddiniwed


A mae Ian Paisley yn Babydd.

Be ti'n treial ei gwneud yn fan hyn.

Dangos anwybyddiaeth lwyr unwaith eto?

Ti am i ni chwerthin neu yn llefain?

Rhyfedd.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Owain Llwyd » Llun 20 Hyd 2003 12:44 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Dydi'r IRA erioed wedi targedu pobl ddiniwed


A mae Ian Paisley yn Babydd.

Be ti'n treial ei gwneud yn fan hyn.

Dangos anwybyddiaeth lwyr unwaith eto?

Ti am i ni chwerthin neu yn llefain?

Rhyfedd.


Wel, ychydig iawn dw i'n ei wybod am yr IRA, ond sut mae Sioni Size yn dangos ei anwybodaeth lwyr o ran ffeithiau?

Fel y byddi di'n cydnabod, dw i'n siwr, dydi lladd pobl ddiniwed ddim yr un peth â thargedu pobl ddiniwed, gan gofio collateral damage a'r cyfryw dermau annifyr.

Ta wyt ti ond yn derbyn bod collateral damage (cyfieithiad, rhywun?) yn dderbyniol o dan amgylchiadau penodol?
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sioni Size » Llun 20 Hyd 2003 1:08 pm

Yn lle dangos dy sioc Daily Mailaidd fe gei di roi enghreifftiau, pogon. Dwi di dweud am Kingsmill, a rhesymeg brigad De Armagh yr IRA dros y weithred diawledig hynny fel yr unig enghraifft o dargedu pobl ddiniwed. Dyma'r digwyddiad mae'r Swansea Loyal twatlyd yn ei ddefnyddio ar eu gwefan gyda llaw, i ddangos pa mor ddrwg ydi'r IRA. Does dim sylwad ar lofruddiaethau yr UVF a'r UDA wrth gwrs.
Mae dy deip di yn cogio eich bod yn poeni am bobl, megis y Mail a'r Telegraph a'r Sun, tra'r unig beth sy'n cyfrif yn y bon ydi ein ochr 'ni' i chi. Fel dywed John Pilger, rydym 'ni' (Prydeinwyr, Americanwyr, Israeliaid ar brydiau) yn bobl, anbobl yw'r gweddill.
Mae na bosibiliad bach fod dy galon di'n y lle iawn, Pogon, ac mai wedi llyncu propaganda yr wyt ti a dim byd gwaeth. Os nad hynny, rwyt ti'r ffwl ffiaidd asgell dde celwyddog arferol.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cyfnod Mamolaeth » Llun 20 Hyd 2003 2:18 pm

Sioni Size a ddywedodd:Israeliaid ar brydiau) yn bobl, anbobl yw'r gweddill.
.


'anbobl'???
Cyfnod Mamolaeth
 

Postiogan Sioni Size » Llun 20 Hyd 2003 3:51 pm

Cyfieithiad o 'unpeople' oedd hwnna i fod.
Yn dynodi pobl nad ydynt yn cyfrif.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai