Tudalen 1 o 1

Casineb tuag at yr NHS

PostioPostiwyd: Sad 15 Awst 2009 12:02 pm
gan Chickenfoot
O le mae casineb y Yanks tuag at yr NHS wedi dod? Cyfle i ailadrodd yr hen cliches am ddanedd eu cefndrid dros y mor ayyb ydi hyn, er mwyn osgoi son am ddiffygion eu system iechyd nhw? Ia, mae gan NHS lwyth o broblemau, ond o leia 'does dim angen i ni boenu am yswiriant.

Tydi pobl fel ClusterFox News ddim yn gwneud lot i newid meddylfryd y byd am yr UDA, nacdyn?

Re: Casineb tuag at yr NHS

PostioPostiwyd: Sad 15 Awst 2009 6:26 pm
gan huwwaters
Pobol gwirion ydyn nhw sy'n deud fod y GIG yn achosi terfysgaeth. O hyd wedi bod ar gael pan fo'r angen arnaf.

Be sydd ddim yn gwneud synnwyr yw un neu ddau o unigolion o'r DU yn ei feirniadu'n hallt ac yn dweud nad ydyw'n addas i neb. Mae gan pawb yn y wlad yma'r hawl i dalu am yswiriant a mynd at rywun fel BUPA, fel mae Obama'n ceisio'i wneud yn yr UDA.

Os byse ti'n gweld damwain car a rhywun wirioneddol angen help wyt ti am gerdded yn dy flaen, gan nad oes y person ene mo'r hawl i dy amser a'th arian, neu gwneud be fedri di? Dyma be sydd ddim yn dal dwr efo Fox News etc. Digon parod i alw eu hunain yn Gristnogion, ond rywsut heb glywed am y Samariad trugarog.