Tudalen 1 o 3

A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 2:08 pm
gan Rhods
Mae'n edrych, yn ol yr adroddiadau, y bydd y BBC yn gwahodd Nock Griffin o'r BNP i fod ar panel rhaglen Ouestion Time rhywbryd yn yr Hydref. Be da chi yn feddwl, o blaid neu yn erbyn?

Mewn un modd bydd gweld Nick Griffin ar y rhaglen yn hala fi yn sic, ond ar y llaw arall dwi yn teimlo y bydde fe yn gyfle da i ni hamroi dadleuon ai humilietio nhw ar teledu cenedlaethol. Bydde rhaid cael panelwyr da tho i'w exposo - rhywun fel Tony Benn o'r chwith a falle John Gaunt or Sun sydd yn ennill dadleoun yn wych a bydde yn neud ffyliaid o Griffin ai thugs. Dwi yn cydymdeimlo ar y 'no platform i'r BNP' stance, ac yn deall yn llwyr ei rhesymau - ar un adeg, o ni yn cytuno a nhw, ond erbyn nawr dwi yn gweld bod y 'no platform' policy tuag at y BNP wedi arwain at ei llwyddiant, i raddau. Roedd case y BBC yn y llysoedd yn erbyn nhw y llynnedd (pam natho nhw recordio Griffin yn ymosos ar mwslemaiad -y BNP yn ennill oherwydd y busnes 'free speech' ma.)wedi bod yn fethiant llwyr ac wedi cryfhau y BNP yn anffodus, o ran cyd destun PR.

Er bod en anodd ac anghyffyrddus uffernnol, gwynebu y gelyn ai curo yw'r ffordd orau...Be da chi yn feddwl maeswyr? Derbyn bod hyn yn un anodd a sensetif...

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 2:53 pm
gan Hogyn o Rachub
Dylent. Waeth pa mor ffiaidd ydyn nhw, gwlad ddemocrataidd ydi hon, ac mae ganddyn nhw gynrychioliaeth ddemocrataidd ar lefel Ewropeaidd erbyn hyn - un o nodweddion democratiaeth ydi hawl i fynegi barn, pa farn bynnag ydi honno.

Os ydi pobl am bleidleisio dros y BNP, yna dyna ni, ond yr unig ffordd o'u trechu ydi drwy ideoleg a dangos ffieiddrwydd eu hegwyddorion. Dwi'n meddwl bod y gwleidyddion sy'n gwrthod rhannu llwyfan â'r BNP yn gachwrs - dylid bwrw ati i ddangos y BNP am beth ydyw ac mae Question Time a'r fath sioeau yn gyfle perffaith y dylid manteisio'n llawn arno i wneud hynny.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 3:24 pm
gan osian
Mai'n un anodd iawn, ond be dwi'n deimlo ydi bod syniadau y BNP yn mynd tu hwnt i syniada gwleidyddol - ddim jysd yn rwbath ti'n anghytuno yn llwyr ag o ar sail gwleidyddol, ond yn gwbwl rong ym mhob ffordd. dwi meddwl bod modd dadla yn erbyn rhoi nhw ar question time ac ati ar y sail yna. ond dwi dal ddim yn shwr..
dwi yn meddwl fodd bynnag bod croesawu'r peth gan obeithio bo nhw am gal eu tynnu yn gria ar y rhaglen yn agwedd beryg achos bo'na jans uchal iddo fo facffeirio

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 8:14 pm
gan Hedd Gwynfor
Ychydig oddi ar y pwnc, ond blogiad da iawn gan Colin Nosworthy yma - http://www.thisismytruth.org/2009/08/i- ... -at-night/

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 8:32 pm
gan Duw
DWi'n gweld hi'n anodd i wahardd y BNP o unrhyw fforwm wleidyddol. Bydde'r math hwn o driniaeth yn beryglus iawn. Wrth gwrs fy mod yn meddwl eu bod nhw'n afiach, ond dwi'n credu'n gryf y dylai pobl glywed yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.

Falle gwnan nhw ddilyn PC - cefnogaeth gadarnhaol pan yn anhysbys, colli tir unwaith i nhw dderbyn cyhoeddusrwydd/ychydig o bwer. Ac na, dwi ddim yn cymharu'r ddwy blaid cyn bo unrhyw un yn dechre malu cachu.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 9:35 pm
gan Seonaidh/Sioni
A ddylai'r BGB fod ar Question Time? Wel, a ddylai neb bleidleisio drostyn nhw? Teimlaf na ddylai - ill dau. Ond mae pobl sy'n pleidleisio drostyn nhw, efallai'n agos at 5% o'r pleidleiswyr. Beth am y Gwyrddion - cefnogaeth debyg, swn i'n credu - a ddylen nhw fod ar Question Time? Wel, maen nhw wedi bod, dwi'n credu. Nid yn aml mod i'n gwrando wrth Question Time ond weithiau mod i'n. Hyn a ddywedaf: petaswn i'n gwrando ar QT ac petasai rhywun yno oddi wrth y BGB, ymaith a'r radio nhy fi.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Iau 10 Medi 2009 12:31 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Yr hyn sy'n fy mhoeni i am y BNP ydi fod NG yn foi clyfar. Yndi- wrth gwrs ei fod o'n dwat, ond mae hefyd yn beniog.
Os oes rhaid cael cynrychiolydd o'r BNP ar QT yna byddai'n well gen i weld rhywun arall heblaw NG. Rhywun llawer llai abl- a mae yna ddigon o dwpsod yn perthyn i'r blaid am wn i. Ond mae'r boi NG yma'n beryglus!

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Iau 10 Medi 2009 2:41 pm
gan Cardi Bach
Ydy, mae hyn yn benbleth mawr.
rwy o hyd wedi datgan na ddylid gwrthod platfform i unrhyw un - ac yn sefyll wrth hynny. Y ffordd gorau o daclo meddylfryd ffiaidd a gwirdroedig pobl fel y BNP yw trwy ddangos ffolineb a gwendid eu dadleuon, boed hynny trwy watwar, trwy resymeg, trwy ffeithiau moel, neu ba bynnag ffordd sydd fwyaf effeithiol i danseilio ei gwenwn.

Ond y drafferth gyda eu caniatau ar raglen fel QT yw mai rhaglen Materion Cyfoes yw QT. Credwch e neu beidio ond pobl fel chi a fi yw aelodau a chynrychiolwyr y BNP ( :ofn: ) ac mae amryw o bobl galluog ( :ofn: :ofn: ) a syniadau gwleidyddol diddorol ( :ofn: :ofn: :ofn: ) yn eu plith, heb law am y ffaith eu bont am ryw reswm yn arddel agweddau hiliol atgas! Nawr, ar raglen materion cyfoes mae posib cael pynciau nad sydd yn cynnwys cyfeiriad at hil neu grefydd, a dyna lle daw y peryg. Mae caniatau i'r BNP draddodi daliadau gwleidyddol a chael y platfform i wneud hynny am faterion y tu hwnt i hil a chrefydd gyda'r peryg o 'legitimiseo' (beth yw hynny yn Gymraeg?) y blaid a rhoi gwedd hyd yn oed yn fwy parchus iddyn nhw.

Wrth gwrs mae nifer o'r ffyliaid sydd yn cynrychioli y blaid ffiaidd yma am droi pob dadl yn un am hil, ac mi fyddan nhw yn gwneud y gwaith drosom ni, yn rhoi'r bwledi i aelodau eraill y panel i'w saethu i lawr gyda; ond mae yna un neu ddau 'savvy' yn eu plith fydd yn defnyddio'r cyfle i hyrwyddo polisiau cymdeithasol y blaid ymhlith polisiau eraill, sydd ddim o reidrwydd yn cynnwys cyfeiriadau at hil neu grefydd, gan guddio eu wyneb hyll mewn mwgwd gymdeithasol gyfeillgar.

Mae'r rhan fwyaf o gynulleidfa naturiol rhaglen fel QT yn ddigon galluog i weld trwy hyn, diolch byth; ond mae yna gnewyllyn o hyd fydd yn cael eu swyno gan wenwyn Griffin a'i gronis. Dyna lle y gorwedd y penbleth i fi.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Sul 13 Medi 2009 10:16 am
gan Blewyn
Mae'r ateb yn syml iawn. Yr unig reswm i wrthod platfform i siarad i unrhyw un ydy os yw eu dadleuon yn wrth-ddemocrataidd, gan na all democratiaeth arloesi os bo'r egwyddor o 1 person 1 pleidlais yn cael ei fygwth.

Os ydy'r BNP yn mynnu gwahaniaethu rhwng unigolion ar sail hil neu liw, maent yn bygwth democratiaeth. Os ddechreuwn ni wahaniaethu ar sail hil, be nesa - ? Lliw gwallt ? Lliw llygaid ? Fedr democratieth ddim arloesi os yw hi'n bosib i un sector o'r boblogaeth i benderfynnu difreinio y gweddill ar sail mympwyol. Yr unig sail iawn i wahaniaethu yn ol yw ymddygiad unigolion neu garfannau.

Yn yn gorffennol, mae'r BNP (a'r National Front gynt) wedi eu gwahardd o nifer fawr o blatfformau cyhoeddus am y rheswm eu bod yn wrth-ddemocrataidd. Yn ddiweddar, mae llys wedi barnu fod rhaid i bob cyfundrefn -gan gynnwys y BNP - dderbyn aelodau o bob hil. Mae hyn yn golygu fod yn BNP yn gyfundrefn teg, o ran polisi aelodaeth os dim arall, a mi welwn os ydy hyn wedi bod yn ddigon o hwb i'r parti newid ei agwedd tuag at y cwestiwn o hil. Os nad ydynt, os ydy nhw dal yn mynnu gyrru Prydeinwyr o'r wlad ar sail eu lliw heb eu bod wedi gwneud dim o'i le, ni ddylid rhoi platfform iddynt. Os wna nhw ollwng eu polisiau gwrth-democrataidd, wedyn mae'n rhaid rhoi platfform iddynt.

Sori am sgwennu ateb hir, d'oes gen i ddim amser i sgwnnu un byr.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Sul 20 Medi 2009 6:15 pm
gan Dili Minllyn
Blewyn a ddywedodd:Mae'r ateb yn syml iawn. Yr unig reswm i wrthod platfform i siarad i unrhyw un ydy os yw eu dadleuon yn wrth-ddemocrataidd, gan na all democratiaeth arloesi os bo'r egwyddor o 1 person 1 pleidlais yn cael ei fygwth.

Ar sail hynny, fydden ni byth yn rhoi llwyfan i lawer o wrthwynebwyr sosialaidd y BNP, sydd am ddymchwel trefn democratiaeth seneddol, a rhoi unbenaeth y proletariaid yn ei lle.

Mi fues am flynydoedd, ar ran y Gynghrair Wrth-Natsïaidd, yn galw am ‘dim llwyfan i ffasgwyr’, ond penderfynais i yn y pen dawr na ellid cyfiawnhau’r fath beth. Os dywedwn ni ‘dim llwyfan i ffasgwyr’, beth sy’n cadw rhywun arall rhag mynnu cadw sosialwyr/ceidwadwyr/rhyddfrydwyr o lwyfannau cyhoeddus? Peth go beryglus yw i un garfan o bobl honni mai nhw sy’n gwybod beth yw cwmpas a chyfyngiadau syniadau ‘derbynniol’ ac wedyn mynnu na ddylid clywed neb a chanddo syniadau ‘annerbynniol’. Fel dywedodd Enoch Powell (un y ceisiodd sawl un ei gadw o sawl llwyfan) os clywch chi rywun yn dadlau’n afresymol, dylai fynd ati i’w gwrthbrofi’n rhesymol – peth digon hawdd ei wneud yn achos y BNP.